28.12.16

Y Chwarelwr

Yn 2005 dadorchuddiwyd plac yn Ngheudyllau Llechi Llechwedd i gofnodi lleoliad ffilmio ‘Y Chwarelwr’.

Wedi araith afaelgar dadorchuddiwyd y plac gan Mr Prys Edwards, mab y diweddar Ifan ab Owen Edwards. Cafwyd sgwrs hynod o ddiddorol am y ffilm a’i harwyddocâd i ni heddiw gan Gwenno Ffrancon, darlithydd yn Adran y Cyfryngau, Coleg y Brifysgol Abertawe:

Y Chwarelwr:  Llechwedd 2/9/05
Heb os nac oni bai, Y Chwarelwr yw un o brif drysorau ffilm Cymru.  Dyma’r ffilm Gymraeg ei hiaith gyntaf erioed.  Penseiri’r ffilm oedd Ifan ab Owen Edwards – un o brif gymwynaswyr Cymru, a John Ellis Williams – nofelydd, newyddiadurwr a dramodydd.  Aeth y ddau yma ati yn ystod Ebrill 1935 gyda rhai o drigolion Stiniog i ffilmio bywyd a gwaith chwarelwr nodweddiadol – saithdeg mlynedd yn ôl, cofiwch.


Un o brif amcanion Syr Ifan a J.E. wrth lunio Y Chwarelwr oedd tynnu sylw at ganlyniadau enbydus llu o ffactorau ar yr iaith a’r diwylliant Cymraeg; ffactorau a oedd yn cynnwys y diwydiant twristiaeth, y wasg a’r cyfryngau a chynnydd yn y defnydd o fysiau, trenau a cheir. 

Roedd yn fwriad gan y ddau hefyd i geisio diogelu peth o’r hyn a oedd yn weddill o’r etifeddiaeth Gymreig ar ffilm. 

Disgrifiodd Syr Ifan eu hamcanion fel hyn yn Y Cymro:

"Rhan o’n hymdrech i (gadw Cymru) yn wir Gymreig yw’r ymdrech hon, yn wyneb anawsterau enbyd, i greu darluniau llafar Cymraeg, canys gwyddom yn bendant, heb os yn ein credo, mai ein dyletswydd fel byd-ddinasyddion ydyw cadw Cymru yn bur ei delfrydau yn yr argyfwng enbyd y mae’r byd ynddo".

Roedd Syr Ifan, cyfarwyddwr a dyn camera Y Chwarelwr, wedi hen arfer creu ffilmiau erbyn 1935 gan ei fod ers rhai blynyddoedd wedi bod yn ffilmio rhai o ddigwyddiadau Urdd Gobaith Cymru, er enghraifft y mordeithiau, y mabolgampau a’r eisteddfodau.  Ond erbyn 1935, roedd y gŵr blaengar ac anturus hwn yn torri’i fol isho cael mentro i fyd y talkies, gan fynd ati i sirioli rhyw gymaint ar fywyd y Cymry Cymraeg trwy lunio adloniant ar eu cyfer yn eu hiaith eu hunain.  Meddai yn y Western Mail ym 1935:  ‘In its attempt to help the Welsh language to counter the innumerable difficulties which it has to meet in a modern world the Urdd has adopted modern methods.’

Mae stori’r ffilm, yn syml iawn, yn cylchdroi o gwmpas cyfnod tyngedfennol yn hanes un teulu chwarelyddol, sef tad a mam, Wil y mab hynaf, Robin y mab ieuengaf ac un ferch, Nesta.  Mae bywyd dyddiol y teulu yn cael ei ddarlunio – y tad yn greigiwr tanddaear yn y chwarel, y mab hynaf yn naddwr, y fam yn wraig tŷ bodlon ei byd, a’r ddau blentyn arall yn ddisgyblion ysgol. 

Ond yna mae dedwyddwch a sicrwydd y teulu yn cael ei ddinistrio wrth i’r tad farw’n sydyn gan daflu’r teulu i stad o ansefydlogrwydd a gofid.  Daw’r ffilm i ben gyda’r ddau fab yn aberthu eu dyfodol er mwyn cynnal ei fam a’i chwaer, ac mae Robin yn gadael yr Ysgol Ganol ac yn dechrau gweithio yn y chwarel er mwyn i’w chwaer iau, sy’n ddisgybl disglair iawn, allu cwblhau ei haddysg.

Roedd hon yn stori ddigon credadwy i drigolion yr ardaloedd chwarelyddol ar y pryd; fel y gwyddoch chi, dwi’n siŵr, roedd cael plentyn, chwaer neu frawd galluog yn destun balchder mawr ymhlith teuluoedd, ac roedd disgwyl i aelodau eraill y teulu aberthu er mwyn iddo ef neu hi ddod ymlaen yn y byd. 

Roedd John Ellis Williams, awdur y sgript, wedi taro ar stori a oedd yn sicr o apelio at gynulleidfaoedd – stori afaelgar ac iddi arwyr, elfen o serch, trasiedi ac aberth.  At hynny, roedd y ffilm yn ymdrechu i lunio darlun gonest o fywyd chwarelwr o Gymro yn y cyfnod hwnnw, darlun y gallai llawer uniaethu ag ef. 

Darlunio bywyd y chwarelwr yr oedd J.E. a Syr Ifan yn gwybod amdano a wnaeth y ddau, gan ddangos uwchlaw pob dim ymlyniad y chwarelwr nodweddiadol wrth ei deulu, ei addysg, ei gapel, ei grefft, ei ddiwylliant a’i fro.

Milltir sgwâr J.E. ar y pryd a ddewiswyd fel lleoliad ar gyfer y ffilmio sef Blaenau Ffestiniog ac aelodau o’i gwmni drama annibynnol ef a gastiwyd ym mhrif rannau’r ffilm.  O ganlyniad, fe welwch chi yn amlwg yn y ffilm nifer o gymeriadau lleol Stiniog; unigolion fel Robert Jones, chwarelwr yma yn chwarel Llechwedd, yn chwarae rhan y tad a Mrs R. A. Jones yn chwarae rhan y fam.  William David Jones a weithiai yn Chwarel Maenofferen oedd yn rhan Wil, y mab hynaf; David Owen Jones, plentyn amddifad un ar bymtheg mlwydd oed a weithiai yn Chwarel Oakeley, fel Robin; a Haf Gwilym, merch John Ellis Williams ei hun a ddewiswyd i chwarae rhan Nesta y ferch, gyda’i labrador du, Siani, i chwarae rhan y ci! 

Ceir cipolwg hefyd yn y ffilm ar rai o gymeriadau blaenllaw’r ardal, gan gynnwys Ap Alun Mabon, bardd adnabyddus, ac Owen Hughes, argraffydd yn y dref, y ddau yn ymddangos yng ngolygfa Eisteddfod Caban Bwyta’r chwarel.

Ond erbyn heddiw, prif swyn Y Chwarelwr yn ddi-os, yw’r darluniau o’r chwarelwyr yn ‘cowjio bywoliaeth’ o’r mynyddoedd creithiog.  Mae’n nhw’n ddarluniau cwbl cyfareddol, sy’n dogfennu, efallai’n ddiarwybod i’r ddau gynhyrchydd ar y pryd, arferiad sydd wedi hen beidio mwyach.  Ymhlith y golygfeydd hyn mae ‘na olygfa o ddynion yn cael eu gollwng gan fws yn yr Adwy Goch yn Stiniog cyn iddyn nhw ymuno â’u cydweithwyr sy’n cerdded i gyfeiriad y chwarel.

Mae sawl hen gludydd gwaith yn cael ei gofnodi hefyd yn y ffilm, er enghraifft y trwnc a oedd yn cludo dynion a cheffylau i waelod ogof danddaearol Chwarel Oakeley.  Dau gludydd arall a anfarwolwyd yn y ffilm yw’r locomotif ‘kidbrooke’ a oedd hefyd yn chwarel Oakeley, a’r car gwyllt a wibiai’n arswydus o gyflym ar hyd llethrau chwarel y Graig Ddu. 

Fel y gŵyr y rhan fwyaf ohonoch chi, darn cul o bren ac olwynion bychain arno oedd y car gwyllt ac fe’i crewyd gyda’r bwriad o arbed y chwarelwyr rhag taith gerdded hir i lawr o ben y mynydd.  Ond dim ond brêc simsan iawn oedd yn cadw unrhyw chwarelwr a gâi bas ar ei gefn rhag mynd ar ei ben i fedd cynnar!  Ond yn ogystal â chynnwys darluniau o waith caled a pheryglus y chwarelwr, mae’r ffilm yn rhoi sylw i’r gymdeithas glos a diwylliedig a oedd yn bodoli ymysg y chwarelwyr, ac yn bennaf eu harfer o gynnal eisteddfod yn y caban bwyta.

Y mae Y Chwarelwr yn garreg filltir arbennig iawn yn hanes ffilm Cymru ac yn drysor unigryw yng nghasgliad Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru.  Wrth gloi fe hoffwn i ddiolch i’r Archif am fwrw ati i adfer y ffilm hon fel y gall fod, yn ôl dymuniad y creuwyr, yn ysbrydoliaeth i genhedlaeth newydd o sgriptwyr, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr ffilmiau Cymraeg. 

Gan obeithio, hefyd, y down ni o hyd i’r rîl olaf sy’n parhau ar goll!  Ond heddiw, wrth gwrs, y mae ein diolch i Chwarel y Llechwedd a Chomisiwn Sgrin Cymru am sicrhau body yma gofeb weladwy i’r gymwynas fawr hon a wnaed â’r genedl gan Ifan ab Owen Edwards a John Ellis Williams.

Gwenno Ffrancon.
----------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2005

 MWY am hanes y ffilm.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon