Fe’m ganwyd yn Darn Gae, Cwm Prysor yn y flwyddyn 1907 yn un o saith o blant. Fferm oedd fy nghartref tua phedair milltir o’r pentref. Doedd dim ond ceffyl a throl neu gerdded i bob man y dyddiau hynny. Plaen iawn oedd y cartref. Bwyd plaen cartre’ oedd ar y bwrdd bob amser ond popeth yn dda iawn. Byddai fy mam yn corddi, felly roedd menyn cartre’ a llaeth enwyn bob amser ar y bwrdd. Hefyd byddai’n pobi bara gwyn a bara ceirch.
Mawn a fyddai gennym yn danwydd a byddai crochan yn hongian uwchben y tan i wneud uwd neu lymru. Gwisgem sana gwlân cartre’ yn y gaeaf, ac esgidiau lledr gyda chria lledr hefyd, a hoelion dan y gwadna’.
Doedd dim teganau gennym fel plant heddiw. Aem gyda’n rhieni i’r capel ar y Sul i’r pentref. Roedd capel yng Nghwm Prysor hefyd ac os gofynnai rhywun i’m rhieni pam mynd i’r pentref, yr ateb fyddai, ‘Rhaid pasio’r pistyll i’r ffynnon i gael dŵr glan’.
Edrych i lawr i Gwm Prysor o wely'r rheilffordd ym mlaen y Cwm. llun Paul W. |
Cofiaf un nos Sul mynd i’r capel a’r newydd gawsom oedd bod Rhyfel Mawr 1914 wedi torri allan; ac roeddynt yn galw’r milwyr o’r gwersyll a oedd ger Rhiwgoch.
Trwy ein bod gryn bellter o’r Traws a’r ysgol ddyddiol rhaid oedd aros yn y pentref o fore Llun tan ddydd Gwener. Gyda gwraig weddw a’i merch Lowri y byddem yn aros ac er inni gael pob tegwch byddem yn falch iawn o weld nos Wener yn dod er mwyn cael mynd adref.
Gan ein bod yn byw ger afon Prysor, doedd yr un diwrnod yn mynd heibio yn yr haf heb inni fynd i sgota dwylo, neu hel llus yn y Garn, hel cnau ac eistedd yn y fan a’u torri efo carreg. Byddem yn helpu hefyd efo’r gwair, 'nôl y ceffylau a’u reidio at y tŷ heb na ffrwyn na dim yn eu pennau. Car llusg a fyddai gennym yn cario gwair. Doedd dim son am dractor yn y dyddiau hynny.
Nid oedd golau trydan chwaith, ond lamp olew annwyl a channwyll frwyn. Byddwn wrth fy modd yn gwylio fy mam yn gwneud y canhwyllau. Byddai rhaid casglu’r pabwyr yn gyntaf, plisgio wedyn a gadael rhyw un plisgyn heb ei bilio. Wedyn twymo saim dafad mewn padell uwchben y tan, ac yna trochi’r canhwylla’ bob yn un yn y saim a’u hongian i sychu. Byddai fy nhad yn darllen llawer yng ngolau’r gannwyll frwyn.
--------------------------------------
Yn ogystal â rhifyn Medi '87, ymddangosodd yr erthygl yn llyfr ‘Pigion Llafar 1975-1999’ ac wedyn yn rhifyn Tachwedd 2016, yn rhan o gyfres Trem yn ôl.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon