12.12.16

Silff Lyfrau

Ambell lyfr efo cysylltiad lleol ar gyfer y Nadolig.

Pêl-droed Penmachno. Y Dyddiau Cynnar.
Vivian Parry Williams. £5

Yn dilyn her a chais gan gyfeillion yn ei hen filltir sgwâr, aeth Vivian, ysgrifennydd Llafar Bro, ati’n ddiwyd -yn ystod blwyddyn fawr pêl-droed Cymru- i bori a chwilota gwerth degawdau o bapurau newydd, fel y North Wales Chronicle a’r Rhedegydd, a ffynonellau eraill, wrth baratoi ei lyfr diweddaraf.  Mae’n disgrifio’r gwaith yn y cyflwyniad, fel “ymdrech un a fu’n rhan o bêl-droed Penmachno yn y 1960au i geisio dod â ddoe arwyr meysydd ffwtbol Dolydd, Dyfnant, Rhos-goch a Thŷ’n Ddôl yn ôl i ddarllenwyr heddiw.”

Yr awdur ar gae Machno Unedig, Awst 2016. Llun- Paul W.

Mae’n cyflwyno’r gyfrol er cof am yr arwyr hynny, ac yn gresynu nad oedd yr un ohonynt yn dal yma i adrodd eu hanesion. “Dychmygwch y straeon difyr fuasai’n cael eu hadrodd...Ond fel arfer gadael i bethau fynd yn rhy hwyr wnawn...” Ia, gwers i ni i gyd.

Un tîm, Machno Unedig sydd yno heddiw, ond dysgwn bod pedwar tîm wedi bod yno ar un adeg, gan gynnwys Machno Villa, y bu tad yr awdur yn aelod medrus ohono. Llun o’r Villa sydd ar glawr y llyfr.

Mae cae Machno heddiw yn adnabyddus am fod yn serth ar hyd un ystlys, ond cawn weld yn y llyfr bod caeau llawer gwaeth wedi eu defnyddio yn hanes y gamp yno, fel cae Rhos-Goch, oedd yn enwog am y ffos a redai drwy un pen iddo, a gallwn ddychmygu sut le oedd ar y Gors Goch ar ddydd Sadwrn gwlyb!

Os hoffwch glywed am hanesion arwyr megis Guts Morus, oedd yn chwarae yn ei drôns hir oherwydd prinder arian i brynu shorts, neu Dei John Sowth, a Sbrig, a’r gemau ‘cyfeillgar’ gwaedlyd; ac am draddodiad hir timau Machno o ddenu chwaraewyr o Stiniog dros y mynydd, yna brysiwch i brynu copi yn Siop yr Hen Bost, neu gan yr awdur ei hun. Pumpunt yn unig ydi’r pris, neu £6.50 trwy’r post, sy’n fargen o ystyried bod VP wedi cyhoeddi’r gyfrol heb unrhyw nawdd cyhoeddus.



[Gallwch ddarllen cyfres Vivian ar Hanes Pêl-droed Stiniog efo'r ddolen isod.]
* * * *

Copaon Cymru. 48 o Deithiau Mynydd.
Clwb Mynydda Cymru. £15

Un o Benmachno ydi Eryl Owain, golygydd y gyfrol ddeniadol a lliwgar yma, ac mae lle i’w longyfarch o a’r Clwb, ar eu gweledigaeth a’u huchelgais wrth fentro i’r byd cyhoeddi. Meddai’r cyflwyniad: “Breuddwyd aelodau Clwb Mynydda Cymru yw’r gyfrol hon gyda’r bwriad o agor llygaid a chynnig arweiniad i’n cyd-Gymry i werthfawrogi gogoniant ucheldiroedd ein gwlad.
Cawn bwt sydyn o hanes rhai o’r Cymry fu’n flaenllaw yn y byd mynydda, a chefndir sefydlu’r Clwb fel modd o hyrwyddo mynydda drwy gyfryng yr iaith Gymraeg, efo rhaglen wythnosol o deithiau a gweithgareddau, ac sydd bellach yn ymgyrchu dros warchod cyfoeth enwau ein ardaloedd mynyddig, trwy fudiad Mynyddoedd Pawb.

Ond camp y gyfrol ydi’r ysgrifau gan amrywiol aelodau yn disgrifio’r teithiau, gan gynnwys nifer ym Mro Ffestiniog. Rhaid cyfaddef ei bod yn chwith gweld y daith i’r Moelwynion yn cychwyn a gorffen yng Nghroesor, yn hytrach na dilyn llwybrau trawiadol y Wrysgan neu Gwmorthin a Chonglog, ond mae’n wych ar y llaw arall gweld y Manod Mawr yn cael sylw fel rhan o daith sy’n mynd a ni heibio Beddau Gwyr Ardudwy, Bryn Castell, a Llynnau’r Gamallt cyn cyrraedd y  “pwdin ‘Dolig o fynydd...lle gewch wledd o olygfa”.

Mae Myfyr Tomos, Llawrplwy’ -un o arweinwyr rheolaidd y Clwb- yn disgrifio’r daith i gopaon y Rhinog Fawr a’r Rhinog Fach o Gwm Greigddu ar y Crawcwellt, ac mae taith arall yn cynnwys Moel Ysgyfarnogod a Moel Penolau.

Campwaith o lyfr yn fy marn i, ac un fyddai’n llawn mor ddefnyddiol i fynyddwyr profiadol a newydd.
 * * * * 

Ibuprofen S’il Vous Plait. Teithiau Prysor yn yr Ewros.
Gan ein bod wedi cyfeirio uchod am flwyddyn fawr pêl-droed Cymru, dyma son cyn cau pen y mwdwl am lyfr newydd Dewi Prysor sydd ar fin cael ei gyhoeddi.

Cafodd Llafar Bro ecsgliwsif gan Dewi dros y misoedd diwethaf, efo’i gyfres ‘Breuddwyd Bordeaux’, ac er nad ydi’r llyfr yma wedi cyrraedd y siopau wrth ysgrifennu hyn, cawn edrych ymlaen i glywed llawer mwy am ei hynt a’i helynt wrth ddilyn tîm Cymru dros yr haf. Bydd yn siwr o fod yn gyfrol allweddol i bob cefnogwr ond hefyd i bobl sy’n hoff o hiwmor ac athroniaeth y nofelydd profiadol.

[Mae 'Ibuprofen SVP' wedi cyrraedd y siopau erbyn hyn. Gwyliwch am fanylion digwyddiad yn Siop yr Hen Bost i'w hyrwyddo]

PW

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon