4.12.16

Sgotwrs Stiniog -Hel Mâg

Erthygl arall o gyfres reolaidd y diweddar Emrys Evans; y tro hwn, o rifyn Rhagfyr 2005.

Mae Cymdeithas y Cambrian wedi penderfynu hel mâg eto eleni ar gyfer y ddeorfa ym Mron y Manod. Yn ogystal â hynny mae yna ymdrech i fagu diddordeb yn y gwaith yma yn yr aelodau ieuanc, trwy fynd a hwy i’r llynnoedd lle cesglir y mâg, ac i’r ddeorfa, iddynt weld beth sydd yn digwydd yn y fan honno.

Canmoladwy iawn, yn wir. Dyma un ffordd o feithrin aelodau a fydd o werth i’r Gymdeithas yn y dyfodol.

Byddai mis Tachwedd, a mis Rhagfyr hefyd yn eithaf aml, yn adeg brysur iawn pan oedd pedair deorfa gan y Gymdeithas a’r rheini i’w llenwi â mâg.

Faint o aelodau ieuengaf y Gymdeithas, tybed, sy’n gwybod y byddai gan y Gymdeithas bedair deorfa ar un adeg? Roedd un wrth droed y llwybr i Gwmorthin, lle gwelir ei hadfeilion o hyd. Yn Chwarel y Llechwedd yr oedd un arall, ac un arall eto wrth yr afonig sy’n llifo y tu isaf i Awelon yn Highgate, Llan Ffestiniog. Ym mhen draw Cae Clyd wrth Fron y Manod y mae’r bedwaredd, a’r unig un erbyn hyn, sy’n dal i gael ei defnyddio.

Fe fu deorfa ar lan Llyn y Manod hefyd, lle mae’r afon yn gadael y llyn, ym mlynyddoedd cynnar Cymdeithas y Cambrian.

Yn y ffosydd y byddid yn dal y pysgod ar gyfer eu godro hyd ychydig flynyddoedd yn ôl, ond erbyn hyn rhoir rhwydi i lawr dros ddiwrnod neu ddau er mwyn dal y pysgod i’w godro.

Diddorol fyddai cael gwybod sawl mil o bysgod bach sydd wedi eu magu yn neorfeydd y Gydmeithas dros y blynyddoedd.

Hen Lun
Yn ddiweddar bum yn ddigon ffodus i gael gafael ar dri neu bedwar o hen luniau a dynnwyd, fuaswn i feddwl, rywbryd tua dechrau dau-ddegau y ganrif ddiwethaf. Lluniau du a gwyn ydynt o rai o bysgotwyr yr ardal yn y cyfnod hwnnw.

Dros amser roedd y lluniau wedi gwanhau fel eu bod braidd yn aneglur, ond llwyddodd Gareth, fy mab-yng-nghyfraith, gyda’i gyfrifiadur, i’w hadfer i’r hyn oeddent yn wreiddiol.

Rhoddais un o’r lluniau i mewn yn y golofn y mis diwethaf, fel y cofiwch chi efallai, llun o Owen Roberts, Llys Tegid, y Manod, a elwid ar lafar yn Now Lord.

Yn y llun sydd gyda’r nodyn yma gwelir Owen David Owen yn pysgota oddi ar y cwch yn Llyn Bach y Gamallt. Mae’n bosibl dweud hynny gan fod Cerrig y Llwynog i’w gweld yn y cefndir.

Roedd O.D. Owen yn ŵr i Kate Owen, ac yn dad i John Hugh, ac arferent a byw yn y tŷ pellaf yn rhes tai Penffordd Goch, Cae Clyd. Brawd hŷn iddo oedd John Owen ‘rHen Hafod yr ydw’i wedi crybwyll ei enw yn y golofn yma o dro i dro. Roedd ef yn gawiwr plu da iawn, ac mae rhai plu wedi eu henwi ar ei ôl – fel, er engraifft, Troellwr Mawr ‘rHen Hafod, a Rhwyfwr Pen Gwyrdd ‘rHen Hafod.

Cyfrifid O.D. Owen, neu Now Bach ‘rHen Hafod fel yr oedd yn cael ei alw’n gyffredin, yn un o’r pysgotwyr pluen gorau yn ei gyfnod. Ond doedd o ddim yn cawio plu, ond yn dibynnu ar ei frawd a Dafydd Dafis Penffridd am y rheini. A physgota yn golygu cymaint iddo, mae hi’n rhyfedd rywfodd na fuasai wedi cymryd at y grefft o gawio plu, a’i frawd, yr Hen Hafod, wrth law i’w roi ar ben y ffordd.

Tynnwyd y llun yma cyn i welingtons a waders ddod yn gyffredin, a’r hyn sydd am draed O.D. Owen yw esgidiau gwaith trymion, fel a wisgid i fynd i’r chwarel. I gadw ac i arbed godrau ei drowsus mae ganddo ‘putees’, fel a wisgai milwyr, am ran isaf ei goesau.

Rhywbeth arall a welir yn y llun yw nad oedd O.D. Owen yn tynnu ei lein i mewn hefo’r llaw chwith, fel y gwnawn ni heddiw, er mai genwair o ryw naw i ddeg troedfedd sydd ganddo. Yr adeg hynny arferent a thaflu lein llawer byrrach nag a wnawn ni, gan roi bywyd yn y plu yn fwy hefo blaen yr enwair.
Mae aros a sylwi ar hen lun o’r natur yma yn ddifyr ac yn ddidorol iawn yn aml. Efallai y daw cyfle i gynnwys y lluniau eraill yn y golofn sgotwrs rhywbryd yn y dyfodol.

Cwestiwn!
Tybed a oes rhywun yn gwybod a oes yna enw ar y chwarel fychan sydd wrth droed y clogwyn ym mhen isaf Llyn Mawr y Gamallt? Hoffwn yn fawr wybod beth ydyw.

NADOLIG LLAWEN i holl sgotwrs y fro ac i holl garedigion ‘Llafar Bro’. Dymuniadau gorau am wyliau dedwydd a phleserus.

Dro yn ôl bum drwy rai o hen rifynnau Y Rhedegydd – papur bro ein hardal ar un adeg – a tharo ar englyn ar gyfer y Nadolig gan Dr. Robert Roberts (Isallt), Llywydd Cymdeithas Enweiriol y Cambrian yr adeg hynny. Fe’i lluniwyd ar gyfer Nadolig 1904.
‘Nadolig llawen eleni – heb groes
Ac heb graith i’ch poeni;
Iechyd a Blwydd Dda ichi
Fo’n dod, yw f’erfyniad i.’
Beth yn fwy fedr rhywun ei ddymuno ar gyfer yr adeg yma o’r flwyddyn, onide?
---------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2005.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon