20.12.16

Rhod y Rhigymwr -Me a Gar An Rosen Wyn

Rhan o erthygl Iwan Morgan, o rifyn Tachwedd 2016

Rydw i’n ysgrifennu’r golofn cyn cychwyn yn blygeiniol am Falmouth, Cernyw, gyda Chôr Meibion Ardudwy.

Tynnwyd sylw Elwen Jones, gohebydd newyddion Trawsfynydd a minnau at gân beth amser yn ôl, gan Haf Madoc (gynt o’r Traws), sy’n byw i lawr yn nhref Bridgewater, Gwlad yr Haf. Mae hi’n aelod o Gôr Cymysg yn y rhan honno o’r wlad, ac yn niwedd mis Mai, bu’r côr yn cadw cyngerdd ar y cyd â Chôr Meibion o Gernyw.

O glywed yr arweinydd yn cyhoeddi eu bod am ganu cân yn y Gernyweg, yn dwyn y teitl ‘An Rosen Wyn’, moelodd Haf ei chlustiau, ac ar ddiwedd y cyngerdd, aeth yn syth ato i’w holi ynglŷn â hi, gan nodi bod ei theitl mor debyg yn y Gymraeg. Llwyddodd i gael copi o’r trefniant, ac fe’i hanfonodd i Elwen, a’i rhoddodd yn ei dro i minnau. Gan y gwyddwn fod Côr Ardudwy’n mynd ar daith yno, fe fu inni ei chyflwyno i’r aelodau, a’r gobaith ydyw ei chanu yng Nghernyw mewn TAIR iaith:


Me a gar ân rosen wyn,
Mar whek mar dek del di fhee,
An rosen wyn, mar splan mar vrin tin,
A threy tha gof oma the vee.

Ken sa pan welles ow whe gol
Eeth es ta mar dek avel ros;
Mes lem min mar thêr lw tha ve jeth,
Mar wyn avel rosen may thos.

O sylwi ar sawl cymal yn y pennill Cernyweg, gall rhywun weld y tebygrwydd. Cymerer, er enghraifft, y llinell agoriadol ‘Me a gar an rosen wyn’ ... ‘Mi a garaf y rhosyn gwyn’; a dyna ‘mar dek’ (’mor deg’), ‘pan welles’ (‘pan welais’) ac ‘an rosen wyn’ ei hun.

Dyma fel yr gosodais y penillion mewn mydr ac odl yn y Gymraeg:

Fe garaf y rhos a’i ysblander,
Mor wyn yw ag ewyn blaen lli,
Hwn dyfa yn hardd, mae’n nhegwch fy ngardd,
Ac yn nhlysni ei wedd gwelaf di.

Pan gwrddais di gynta, f’anwylyd,
Roedd gwrid o liw’r rhos ar dy rudd,
Ond nawr mae dy wyneb yn welwach,
A gwawr rhosyn gwyn ar dy rudd.

Er na bu iddi ymddangos mewn casgliad o hen ganeuon o Gernyw, fe’i rhoddwyd ar gof a chadw gyntaf oll gan Peter Kennedy, a glywodd Charlie Jose’n ei chanu yn y ‘Napoleon Inn’, ym mhentre’ pysgota Boscastle, yng nghogledd y sir, ym 1975. Oherwydd ei bod yn cynnig ei hun i harmoni anffurfiol, byrfyfyr, fe’i mabwysiadwyd gan nifer o grwpiau a chorau yng Nghernyw ers hynny. Fel y caneuon ‘Little Lize’ a ‘Maggie May’, mae’n debyg iawn i’r gân hon weld golau dydd dros yr Iwerydd yn America, ond go brin iddi gael ei gwisgo â diwyg cystal ag a roddwyd iddi fel ‘Rhosyn Gwyn Cernyw’.

Gan mod i wedi hoffi’r trefniant lleisiol gymaint, fe benderfynais ei ddefnyddio ar gyfer llunio geiriau Nadoligaidd eu naws i Feibion Prysor, er mwyn gallu ei chyflwyno’n ddigyfeiliant yn y plygeiniau y byddant yn cymryd rhan ynddyn nhw’r Nadolig yma.

Er pob gwasgfa ariannol a ddaw yn sgîl  ‘Brexit’, ac ar waetha’r newyn a’r tlodi a ddaw yn sgîl rhyfeloedd a thrais, mae’n bur debyg mai parhau i wario wnawn ni’r Nadolig hwn eto:

NADOLIG A DDAETH  ...  i’w chanu ar y gân o Gernyw ... ‘AN ROSEN WYN’

Cytgan:
   
Yn llety yr ych mewn cadachau,
Mewn tlodi y caed Aer y Nef;
Rhoed preseb yn grud i Geidwad y Byd
Ar y gwellt draw ym Methlehem dref.

Nadolig a ddaeth unwaith eto
 rhwysg ei ruthradau a’i rwn,
Ymuno wnawn ninnau’n y dathlu,
Mwynhau yr holl firi a’r sŵn ...

Y mae’r hysbysebu’n ddiddiwedd,
A llawn temtasiynau yw’r sgrin,
Ein denu i wario gawn ninnau
Ar lwyth o ddanteithion a gwin ...

Ar waetha’ pob her a bygythiad
Fe fydd ‘rhen Siôn Corn siŵr o ddod,
Pa ots fod miliynau mewn angen,
I’n plant, ond y gorau sy’i fod ...

Mae arian ar gael i’n digoni,
A hwn gaiff ei wario yn rhydd,
Mewn gobaith y gallwn ni dalu
Yn ôl i’r benthyciwr rhyw ddydd ...
--------------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2016.
Gallwch ddilyn y gyfres efo'r  ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon