24.12.16

Stolpia -Hosan Nadolig

Pennod arall o gyfres reolaidd Steffan ab Owain.

Fel yr amrywiaeth o bethau a geid yn yr hen hosan Nadolig gynt, dyma gynnwys y golofn y tro hwn. Dechreuaf gyndag un neu ddau o gofnodion difyr a darewais arnynt wrth chwilio am hanes ein tref a’n hardal yn y dyddiau a fu.

Y Goeden Nadolig
Gan ei bod hi’n nesau at y Nadolig efallai bydd y nodyn hwn o ddiddordeb.

Ym mis Ionawr 1861 cafwyd te parti yn Ysgol Genedlaethol Llan Ffestiniog a mwynhaodd y plant eu hunain yn iawn. Roedd coeden Nadolig wedi ei gosod yn yr ystafell gydag anrhegion o bob math arni hi. Bum yn meddwl, tybed pa bryd y daeth y goeden Nadolig gyntaf i’n hardal?

Yn ôl pob sôn, ni ddaeth gosod coeden Nadolig yn y tŷ yn beth poblogiadd iawn tan ar ôl yr 1850au, ac felly, nid oedd ‘Stiniog ymhell iawn ar ôl y ffasiwn gyda hyn o beth.

Seintiau
Yn ddiweddar iawn deuthum ar draws hanes Seintiau y Dyddiau Diweddaf (sef y Mormoniaid) yn cynnal cyfarfodydd crefyddol ym mhlwyf Ffestiniog yn yr 1840au. Dyma frasgyfieithiad o un adroddiad a ymddangosodd mewn papur newydd Saesneg am Fehefin 1846:
Yn ddiweddar, ymwelodd gwr o Dde Cymru a berthynai i Seintiau y Dyddiau Diweddaf ag ardal Ffestiniog. Dydd Sadwrn anerchodd dorf luosog yn y stryd yn Ffestiniog. Yna, bore Sul aeth draw at y chwareli, ac am hanner awr wedi pedwar bu’n siarad am oddeutu awr.
Deallaf bod amryw o drigolion ein plwyf wedi ymuno â’r Mormoniaid yn ystod y cyfnod hwn. Byddai’n ddiddorol cael clywed mwy o’u hanes, oni byddai? Oes un ohonoch ag ychydig o’u hanes yn yr ardaloedd hyn?


Lliain ‘molchi gwyneb
Y mae’n rhyfedd fel y mae prinder geiriau am rai pethau yn y Gymraeg, a dewis da am ambell beth arall. Holais amryw o gyfeillion a chydweithwyr yn ddiweddar beth yw eu henw nhw ar y lliain bach a ddefnyddir i ymolchi’r wyneb.

Yr enw a ddefnyddiaf fi arno yr ‘bretyn gwlanen’. Y mae’n amlwg fod nifer o enwau eraill arno yng Ngwynedd,  hefyd. Dyma rai o’r atebion a dderbyniais: cadach ymolchi … cadach gwlanen … gwlanen fach …gwwlanen ymolchi … clwt ymolchi. Tybed a oes gennych chi enw gwahanol arno?


Arlunydd o’r Manod
Beth amser yn ôl, pan oeddwn yn taflu golwg ar dudalennau’r Herald Cymraeg am Ionawr 19, 1926 deuthum ar draws enw David R. Hughes, arlunydd o’r Manod. Dyma’r tro cyntaf imi ddod ar draws ei enw ef. Tybed a ŵyr un o’r darllenwyr rywfaint o’i hanes ac ambell enghraifft o’i luniau, efallai?


Wel, dyna ni flwyddyn arall bron a chyrraedd ei therfyn, a rhag ofn imi anghofio a dweud:

NADOLIG LLAWEN I CHI I GYD!



Addasiad o erthygl amddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2005.
Dilynwch gyfres Stolpia efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl geiriau ar y dde.


[Lluniau -Paul W] 

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon