18.12.16

Breuddwyd Bordeaux -ar ôl y gêm

Pennod olaf hanes Dewi Prysor yn Ffrainc. 
Ar ôl llwyddiant y gêm gyntaf, daeth y dathlu a'r gofoleddu.
Rhan o gyfres o erthyglau gan awduron gwadd ar thema Ewropeaidd. 

PÊL-DROED, CYMRU A’R GYMRAEG: BYW BREUDDWYD YN BORDEAUX
Wna i fyth anghofio’r rhaeadr o grysau cochion yn llifo i lawr y grisiau o’r stadiwm ar ôl y gêm – er gwaetha’r ffaith mai ‘Don’t Take Me Home’ oedd y diwn gron oedd pawb yn ganu ar y pryd! Bydd yr olygfa honno yn aros efo fi am byth. Bythgofiadwy, hefyd, oedd gweld y rhesi o Slofaciaid ddaeth i glapio dwylo wrth i ni adael. 

Y rhaeadr goch.

Rhaid oedd wynebu’r ciw ar gyfer y trams, wedyn, ac wir i chi, tydw i ddim yn gor-ddweud – roedd o’n tua milltir o hyd. Felly wedi dal i fyny efo criw Blaenau a ffrindia erill, doedd dim amdani ond cerdded y pum milltir i ganol y ddinas, gan ddilyn tracs y tramiau i’n cadw ni ar y ffordd iawn, a pasio llwyth o lafnau ifanc ar feics padlo a mopeds yn trio gwerthu ‘gwair’ i bawb, efo’r ‘tagline’ hynod, “Gareth Bale smokes weed!

Ar ôl tair milltir o gerdded, ges i lond bol. Ro’n i’n fflagio, ac heb gael peint ers dros tair awr. Felly pan stopiodd tram gorlawn yn un stop fel ro’n i’n digwydd pasio, mi welis i fy nghyfla a stwffio i mewn i ganol y sardîns coch. Ac i ganol pwy nes i stwffio? Criw o hogia Bethesda – un yr o’n i’n ei nabod drwy bêl-droed lleol (mae’ o’n gwneud efo clwb Mynydd Llandygai), ac un arall yn byw dros ffordd i fy chwaer fach yn Llanllechid! Ia, byd bach fel’na oedd Bordeaux – a gweddill y daith drwy Ffrainc. Roedd pawb yno. Pawb!

Wedi yfad gormod i gofio pob manylyn, neu beidio, mi fydd y dathlu a’r golygfeydd rownd strydoedd Bordeaux y noson honno wedi eu serio ar fy nghôf am weddill fy nyddia. Y tafarnau gorlawn – sawl un wedi rhedeg yn sych o gwrw – a’r strydoedd tu allan yn fyw o grysau coch a baneri Cymru yn canu a dawnsio’n wyllt ac afreolus o hapus. A’r Gymraeg yn atsain rhwng muriau uchel y strydoedd cul, croesawus. Pob ‘chant’ a chân bêl-droed Cymreig, a phob cân werin Gymraeg y gellid ei chofio, yn morio ar awelon y nos.

Hen Wlad Fy Nhadau’ rhwng pob tair cân, y Ffrancwyr yn dathlu i’r eithafion efo ni (a’r Slofaciaid hefyd, er eu bod wedi colli!). Y Bordolais yn ein mysg, yn dawnsio a canu efo ni, yn cymeradwyo a bloeddio’u gwerthfawrogiad o’n hanthem. Ninnau yn ymuno yn eu hanthem hwythau, y ‘Marseillaise’ (sy’n gorfod bod yr ail anthem orau yn y byd). Pawb yn ein ffilmio ni ac yn cael lluniau efo ni. Staff y bariau yn canu a dawnsio efo ni, tafarnwyr gwên-o-glust-i-glust yn sefyll ar eu balconiau uwchlaw, yn ffilmio’r dorf goch fyrlymus, swnllyd islaw ar eu ffônau symudol...

Ia wir, profiad bendigedig oedd y gêm gyntaf, hanesyddol hon, yn Bordeaux. A dim ond dechrau’r antur oedd hi. Aeth pethau o anhygoel i well, o fythgofiadwy i anghredadwy, o hynny ’mlaen. Yn rhywle arall mae rhannu manylion gweddill fy nhaith mis crwn a bron i 6,000 milltir, trwy Ffrainc. Am y tro, mi’ch gadewaf efo’r blas uchod o’r profiad o ddechrau’r daith, a sut beth oedd bod yn gefnogwr pêl-droed Cymru oedd yn byw y freuddwyd o’r diwedd.

Ond mi oedd o’n llawer mwy na hynny. Roedd rhywun yn byw y freuddwyd fel Cymro hefyd. Dyma fy ngwlad a fy nghenedl ar eu gorau ar y llwyfan mwyaf posib, ac yno yn gyfartal â gwledydd a chenhedloedd eraill Ewrop. Ac i Gymro Cymraeg roedd o’n hyd yn oed yn fwy na hynny. Achos, trwy amlygrwydd y Gymraeg ymysg y cefnogwyr mi ddaeth y byd yn ymwybodol o’n gwir genedligrwydd. Oherwydd i filoedd o Gymry Cymraeg heidio i Ffrainc roedd pawb yn clywed ein iaith ar waith.

Yr un effaith gafodd polisi Cymdeithas Bêl-droed Cymru o roi rôl flaenllaw i’r Gymraeg yn holl ‘set-yp’ y garfan – o’u canolfan yn Dinard, Llydaw, i’r wê a’r teledu byd-eang. Felly hefyd gweledigaeth Osian Roberts ac Ian Gwyn Hughes wrth ddefnyddio’r iaith mewn cynhadleddau i’r wasg, a’r chwaraewyr yn defnyddio’r Gymraeg mewn fideos cyhoeddusrwydd – nid jesd Allen, Ramsey a Ben Davies, sy’n siarad Cymraeg, ond Gareth Bale a Chris Gunter a’r Cymry di-Gymraeg eraill yn y garfan hefyd. Y nhw oedd fwyaf brwd am y syniad, ac a fynnodd eu bod yn cael dweud brawddeg yn Gymraeg. A diolch i ymdrech y garfan i gyd (rhai gwell na’i gilydd!) i ganu’r anthem. Roedd miliynnau o bobl ar draws y byd wedi gweld Gareth Bale – y Galactico a chwaraewr drytaf y byd (tan yn ddiweddar iawn) – yn canu yn Gymraeg. Oes angen deud mwy?

Lle bynnag yr oeddan ni’n mynd yn Ffrainc, yr un oedd y stori. Doedd pobl erioed wedi meddwl am Gymru fel cenedl wahanol tan iddyn nhw ddeall fod ganddom ein iaith ein hunain. Tan hynny roeddan nhw wastad wedi meddwl mai rhyw fersiwn o Saeson oeddan ni – rhyw fath o West Britons, math o beth. Ond roedd yr iaith ar waith yn yr Ewros wedi newid popeth. Roeddan nhw bellach yn dallt!

Ac yn bwysicach fyth na bod cenhedloedd eraill yn dallt, roedd Cymry di-Gymraeg yn dallt pwysigrwydd yr iaith hefyd. Mae hi’n perthyn i bob Cymro a Chymraes, wedi’r cwbl. Mae ffans pêl-droed Cymru wastad wedi gwerthfawrogi hynny, am eu bod wedi arfer ei chlywed mewn gemau pêl-droed. Ond y gwahaniaeth y tro yma oedd fod miloedd yn fwy o Gymry (di-Gymraeg a Chymraeg) wedi glanio yn Ffrainc. Mwya sydyn roedd miloedd o Gymry’r ardaloedd di-Gymraeg yn clywed yr iaith fel iaith fyw o’u cwmpas – o bosib am y tro cyntaf yn eu bywydau – ac yn sylweddoli ei bod yn rhan naturiol o Gymreictod, yn gwerthfawrogi ei rhan bwysig yng ngwead eu hunaniaeth genedlaethol, a’i gwerth fel ased i ddatgan y Cymreictod hwnnw i’r byd.

Be darrodd fi yn Bordeaux – a gweddill Ffrainc – yn ystod y mis Mehefin hudol hwnnw, oedd bod y Cymry yn rhydd o’r caethiwed meddyliol, post-colonial yr ydym yn byw efo fo adra yng Nghymru. Yn Bordeaux mi dorrodd y Cymry yn rhydd o’r meddylfryd israddol sy’n ein cyflyrru i ystyried y Saesneg fel yr unig iaith i symud ymlaen yn y byd. I’r miloedd a brofodd y rhyddid hwn yn Ffrainc, agorwyd eu meddyliau i sylweddoli cymaint o ased ydi’r Gymraeg. Ased y dylid ei defnyddio’n ganolog wrth hyrwyddo’n diwylliant a’n hunaniaeth, ac i hybu’r economi mewn meysydd fel twristiaeth. Mae gormod o fusnesau yn dewis enw Saesneg, a defnyddio Saesneg yn unig i hysbysebu, heb sylweddoli y byddai defnyddio’r Gymraeg yn rhoi stamp a chymeriad unigryw ac atyniadol i’r busnes ac i’r fro.

Tydi pobl ddim yn dod ar eu gwyliau i ‘West Britain.’ Dod i Gymru maen nhw. Nid fersiwn Gymreig o Blackpool neu Windermere mae nhw isio, ond profiad o fod mewn gwlad arall (ac, i ymwelwyr o weddill Prydain, y profiad o fynd i wlad arall heb orfod teithio dramor!). Byddai gweld yr iaith ar waith trwy Gymru gyfan yn atgyfnerthu’r teimlad o fod mewn gwlad wahanol efo’i iaith a chymeriad – a hunaniaeth – ei hun. Mae gwyliau yng Nghymru’n syniad llawar mwy cyffrous na gwyliau yn West Britain.

Gofynnwch i bobl Bordeaux, Toulouse, Lille neu Lyon be oeddan nhw’n licio am y Cymry. Falla y cewch gyfla i’w holi yr haf nesaf, pan fyddan nhw’n heidio yma ar eu gwyliau!
---------------------------------------



Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2016.
Darllenwch y gyfres efo'r ddolen isod.
-------------

Mae llyfr newydd Dewi -Ibuprofen S'il Vous Plait- sy'n rhoi mwy o hanes ei deithiau yn dilyn Cymru,  ar werth rwan.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon