Pan fu farw Owen T. Owens, Fruitvale, Califfornia, ar y 13eg o Orffennaf, 1908, collodd Cymry San Francisco a’r gymdogaeth un o’i ffrindiau mwyaf cydymdeimladol a charedig. Ganwyd ef ym Mlaenau Ffestiniog tua 1848, yn fab i John ac Ann Owens. Bu ei dad yn ddiacon ffyddlon a chyfrifol gyda’r Annibynwyr yn y Blaenau (er i mi gloddio sawl cyfrol yn ymwneud â hanes Annibyniaeth ym mhlwyf Ffestiniog methais a chael unrhyw wybodaeth amdano). Symudodd ei rieni i Gaernarfon ar ôl hynny ac yna i’r Unol Daleithiau yn 1857, pan oedd Owen T. yn chwe blwydd oed.
Buont yn byw yn New York Mills, ger Utica, am un mlynedd ar ddeg, un o’r lleoedd prydferthaf yn holl sir Oneida, Efrog Newydd bryd hynny. Gorweddai’r dref ar lannau'r Afon Sauquoit a’r Mohawk. Sefydlwyd capel gan yr Annibynwyr Cymraeg yno yn 1847 gan y Parch. W. D. Williams (1808-99) gynt o Lanafan Fawr, Brycheiniog, priod Catherine Richards gynt o Lanuwchllyn. Yno yn New York Mills roedd yno gannoedd o ddynion a merched yn ennill eu bywoliaeth yn gysurus yn y ffatrïoedd cotwm mawr.
Symudodd y teulu oddi yno i Wisconsin ac ymsefydlont yn Dodgeville, mewn ardal fryniog, hyfryd ac iachus. Tref fach wledig gydag amryw o weithfeydd plwm yno oedd Dodgeville pan ddaeth teulu Owen T. yno cyn 1870. Dechreuodd y Cymry ymsefydlu yno tua 1846 ac mi roedd gan y Methodistiaid, y Bedyddwyr a’r Annibynwyr Cymraeg amryw o gapeli yno. Agorodd John Owens siop yn y dref ac ymroddodd i’w grefft fel gwneuthurwr wagenni.
Dewisodd Owen T. ymgymryd â’i alwedigaeth fel gof, a chafodd ei brentisio i un o’r enw Peter Morris, dafliad carreg o’r Brawdlys, lle bu'r Cymro cenedlgarol Samuel W. Rees, Llanbryn-Mair yn gyfreithiwr enwog a chyfoethog.
Ymhellach ymlaen yn ei fywyd, yn dilyn marwolaeth ei rieni, ceisiodd Owen T. ennill bywoliaeth yn y Gorllewin yng Ngholorado, lle bu’n dilyn ei alwedigaeth am gyfnod yn Central City a Golden City fel gof yn y gwaith smeltio. Yn y dref olaf priododd ei wraig gyntaf, Sarah Thomas, merch i William Thomas, adeiladydd o Borthaethwy, Môn, un oedd yn adnabyddus trwy Ogledd Cymru fel adeiladydd capeli a phontydd. Roedd W. Thomas hefyd yn gefnder cyntaf i’r brodyr enwog, y Parch. Owen Thomas (1812-91) a Dr. John Thomas (1821-92). Ar ôl pedwar mis ar ddeg o fywyd priodasol hapus bu Sarah Owens farw.
Roedd ei symudiad nesaf, yn 1877 i Bird’s Landing, Califfornia, gwlad yr heulwen a‘r blodau, lle bu Owen T. yn cadw gefail, ac yn 1881 cafodd fynd fel gwerthwr teithiol i gwmni Baker a Hamilton yn San Francisco. Yn 1875 priododd Annie Thomas, chwaer i’w wraig gyntaf. Ganwyd iddynt ddwy o ferched, Sara ac Anna. Bu farw Sarah, merch ifanc ddiwylliedig, ar ôl gwaeledd hir yn 1903.
Difrod a thân yn San Ffransisco, 1906. Llun yn y parth cyhoeddus, oddi ar Wikipedia. |
Roedd gan Owen T. gariad mawr at bopeth yn ymwneud â‘r Gymraeg. Bu’n un o’r ymddiriedolwyr yng Nghapel y Presbyteriaid Cymraeg Dewi Sant, San Francisco, capel a godwyd yn 1852 ac a gaewyd yn 1961; ac yn aelod hefyd o gymdeithasau Cymric a Chymrodorion yn y ddinas. Yn Ebrill, 1906, pan drawyd y ddinas gan ddaeargryn a thân, gan greu difrod i’r Capel Cymraeg ynghyd a nifer o gartrefi y Cymry oedd yn byw yno a gadael 3,000 yn farw ac 20,000 yn digartref, gweithiodd Owen T. yn galed i gynorthwyo at anghenion y trueiniaid yno.
Yn ystod yr adeg honno cafodd ei boeni gan broblemau iechyd yn ymwneud yn bennaf a’i stumog ac a drodd yn angeuol iddo. Ar fore 16eg o Orffennaf, 1908 ymgasglodd nifer fawr o’i ffrindiau i dalu’r gymwynas olaf iddo. Claddwyd ei weddillion ym Mynwent Mount Olivet ar ôl gwasanaeth Cymraeg gan Y Parch. John Rhys Evans, gynt o Dreorci, a Josiah Daniel (m. 1942) mab y Parch. John R. Daniel (1826-98) a anwyd yn Llanfair-is-gaer, Arfon
----------------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2016, dan y bennawd Lloffion Stiniog. Dilynwch gyfres Bwrw Golwg efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon