Dyma stori glywais gan fy niweddar dad pan oeddwn yn hogan ifanc adref yn Llech y Cwm. Nid stori ysbryd sydd gennyf, ond digwyddiad goruwch naturiol ag sydd yn hollol wir pan oedd fy nhad yn hogyn deg oed ac yn byw yn Fferm y Muriau, Trawsfynydd.
Diwrnod brafiach yn y Rhinogydd. Llun- Paul W |
Roedd ‘na fwy o ddiadelloedd eraill yn myned gyda diadell Y Muriau, dyna sut oedd trefn yr oes honno. Pob dafad yn gwybod lle 'roedd i fod. Roedd yn amser troi i fyned gartref, a dyma fy nhaid yn dweud fod y niwl yn dechrau disgyn ar y copa acw, ond daeth y niwl i lawr yn gyflym iawn a chau fel caddug trwchus amdanynt a glaw mân yn disgyn.
Doedd pob man ddim yn edrych ‘r’un fath rhywsut a dechreusant droi a throsi a myned i unlle. Dyma fy nhaid yn dweud wrth fy nhad,
“Lewsyn, cydia yn tu ôl fy nghot a gwnewch linell a chydiwch yn eich gilydd a rhowch eich pennau i lawr a gweddiwch gyda fi"-a dyma taid yn disgyn ar ei liniau a gweddio ar Dduw i ddangos y ffordd i lawr o’r mynydd. Bu yn gweddio yn daer am tua deng munud a dagrau yn llifo lawr ei wyneb. Cododd ar ei draed a dywedodd, “Peidiwch ac edrych yn ôl a dilynwch fi,” a phelen o olau disglair yn disgyn wrth draed fy nhaid. Disgynnodd o’r awyr niwlog ac roedd ei goleuni yn dangos yn glir i bawb ymlwybro lawr o’r mynydd. Cawsant eu harwain nes cyrraedd man diogel. Diflannodd y goleuni, ac aeth taid unwaith eto ar ei liniau i ddiolch i Dduw am eu harwain - roedd hyn wedi gwneud argraff ddofn iawn ar fy nhad.
------------------------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2003.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon