16.12.16

‘Stiniog a’r Rhyfel Mawr -Tachwedd 1916 yn Ffrainc


Parhau â chyfres Vivian Parry Williams, yn nodi canrif ers y rhyfel byd cyntaf.

Ymysg nifer o lythyrau'r milwyr a ymddangosodd yn rhifyn 11 Tachwedd 1916 o'r Rhedegydd, roedd un gan Bob Williams, i'w chwaer yn Rhesdai Tanyclogwyn, ac yntau’n glwyfedig mewn ysbyty ar y pryd. Gwelir ynddo bryderon milwr a oedd wedi profi erchyllterau brwydr y Somme. Gadawn i Bob ddweud ychydig o'r hanes:

'Wel, anwyl chwaer, y lle y bu ein Bataliwn ni er dechreu yr ymosodiad mawr ydoedd ar y Somme, yn ymdaro o gwmpas lle a elwir Thiepval...'

Aiff Bob ymlaen i ddisgrifio’r frwydr enbyd a wynebodd...'Lladdwyd ein Cadben a phedwar Sergeant...' ac yna cyfeirio at yr hyn ddigwyddodd  iddo.
'Tarawodd un darn o shrapnel ar dop fy helmet, ac aeth drwodd, gan fy nharo yn anymwybodol am tua phum munud...a phan ddois ataf fy hun yr oeddwn yn gorwedd ar ben cyrff meirw, rhai ohonynt wedi eu malu yn dost...Yr oeddwn agos wedi fy mygu gan waed...'
Yn rhifyn 11 Tachwedd hefyd y cyhoeddwyd y newyddion drwg a dderbyniodd y prifardd Elfyn a'i wraig, wrth glywed fod eu mab, y Preifat Salisbury Hughes wedi ei glwyfo yn Ffrainc. Byddai hynny yn ergyd ychwanegol i'r ddau, oedd wedi bod yn dioddef o salwch blin yr adeg honno.

Ond newyddion gwell a gyhoeddwyd yng ngholofn newyddion lleol Trawsfynydd. Roedd athrawon yr ysgolion lleol wedi gwneud casgliad ymysg ei gilydd, ac wedi anfon y swm o 10/- (50c) i gronfa'r Daily News i gael prynu pwdin Nadolig i'r milwyr. Casglwyd 5/= (25c) yn Ysgol y Cyngor; 3/= (15c) yn yr Ysgol Eglwysig a 2/= (10c) yn Ysgol Bronaber.

Yng ngholofn newyddion y Blaenau ar 11 Tachwedd, gwelwyd geiriau lliwgar, teimladwy'r gohebydd yn adrodd megis, yng ngeirfa a sillafiadau’r cyfnod:
Mae sŵn y gauaf yn y Cwm, y crinddail yn cwrcydu ym monau'r prysgwydd, a'r bryniau wedi dechreu gwisgo eu gwyn. Trist meddwl fod ein bechgyn wrth y miloedd heb do uwch eu pennau ond y lasnef lydan, na goleu, ond y lloer ddiserch, na chysgod ond y ffos a gloddiant. Boed y Nef yn garedig wrthynt, druain, tra maent allan yn ymladd ein brwydr ni, a brwydrau rhyddid a chyfiawnder.
Roedd yr hysbyseb ar dudalen flaen rhifyn 18 Tachwedd o'r Rhedegydd yn cynnig rhywbeth newydd yn y dref. Meddai'r geiriau apelgar,
Dalier Sylw! Bydd Busnes FISH AND CHIPS yn Shop New Road yn cael ei agor Dydd Sadwrn nesaf, gan Mrs Roberts, Islyn, Manod Road. Byddis yn  ddiolchgar am bob cefnogaeth gan y cyhoedd.
Ar yr un adeg cafwyd gwybodaeth fod nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yn yr ardal er budd Cronfa Cysuron y Milwyr yn lleol. Diddorol hefyd oedd yr alwad am fforddolwyr i fynd i drwsio ffyrdd yn Ffrainc. Byddai'n demtasiwn i nifer fawr fynd, yn enwedig os byddai ymrestru i'r fyddin yn nesáu at ambell un.  Fel y dywed yr hysbyseb:
Y mae galwad ar ddynion heb fod dros 50 oed, ewyllysgar, i fyned i Ffrainc i drwsio ffyrdd. Ni byddant yn ŵyr arfog. Telir i labrwyr cyffredin 3/= y dydd, heblaw bwyd a llety a ddarperir gan y fyddin, y rhai a dalant hefyd y seperation allowance arferol. Telir i Foreman o 4s.6c. i 6s.8c. y dydd a'r allowances uchod.
Lewis Y Gloch
Wedi cyfnod o fisoedd heb air o sôn am Lewis Davies, Siop y Gloch, y cyn-swyddog recriwtio yn
nalgylch Ffestiniog, daeth newyddion yn Y Rhedegydd, ar 18 Tachwedd eto, ei fod wedi ei benodi i swydd newydd. Roedd yr awdurdodau milwrol wedi ei anfon i Gorwen fel cynrychiolydd ar Dribiwnlys Edeyrnion, dros dro, yn absenoldeb James Sheriff, Crogen Hall, Llandrillo, oedd yn wael.

Bu i'r Tribiwnlys hwnnw wasanaethu rhwng 1 o'r gloch hyd at 8.30 p.m., a gwrandawyd ar 63 o achosion dros y cyfnod hwnnw. Yn ôl y gohebydd, rhoddwyd gair da i Davies gan y tribiwnlys, a'r apelyddion am ei ddull teg o ddelio â'r achosion.

Er i Dribiwnlys Meirionnydd, a gynhaliwyd yn y Blaenau ddiwedd Tachwedd 1916, barhau am ddau ddiwrnod, a dwsinau o ddynion ifainc, o bob rhan o'r sir yn ymddangos, dim ond un o'r plwyf hwn a wynebai'r panel. Ond er i Evan William Jones, 19 oed, o fferm Hafoty Fawr, Cwm Cynfal roddi cais am esgusodiad, gwrthodwyd ei apêl.
-------------------------------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2016.                       
Dilynwch gyfres Stiniog a'r Rhyfel Mawr efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.



No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon