Ychydig o hanes y bêl-droed yn y Blaenau.
1984-85
Ymunodd clybiau Bethesda, Llanrwst, Porthmadog, Llanfairpwll a'r Felinheli â'r Gynghrair yn 1984-85, ac fe ataliwyd y Gynghrair Atodol amhoblogaidd rhag blaen. Ni fu'n dymor gwael iawn i'r Blaenau, ond roedd canlyniadau'r gemau'n anodd eu deall ar brydiau.
Collwyd 3-10 ym Mangor a 2-8 yng Nghonwy - y ddwy gurfa fwyaf a gfodd Stiniog mewn blynyddoedd diweddar. Wedyn meddylier am y Blaenau'n colli 1-6 adref i'r Felinheli. Annerbyniol dros ben i'r cefnogwyr oedd colli i Dywyn yng Nghwpan Cymru - a cholli'n drwm ar ben hynny..
Cyrhaeddwyd gêm gyn-derfynol Cwpan Cookson. Chwaraewyd 28 gêm gynghrair, gan ennill 11 a cholli 12. Deuddeg gêm fu ganddynt yn y cwpannau, ac ennill pedair ohonynt. Tynnwyd y chwaraewyr o Arfon yn bennaf, ac yr oeddynt yn cynnwys Terry Smith, Haydn Jones, Chris Rowley, Peter Roberts a Derek Groves.
Y prif sgorwyr oedd Terry Smith (16 gôl) Percy Allen, Huw Jones a Clive Jones.
1985-86
Daw hyn â ni at dymor olaf 'Stiniog. Roedd y gefnogaeth yn y gemau wedi gostwng yn ofnadwy. Fel bob amser, ychydig oedd nifer y rhai a weithiai yn ymarferol.
Y patrwm ers blynyddoedd oedd bod pwyllgor niferus yn cael ei ddewis ymhob cyfarfod blynyddol ond llai na hanner rheiny oedd yn gweithredu. Nid oedd aelodau selog y pwyllgor a'r swyddogion yn gwarafun gweithredu fel lleiafrif bach iawn, ond pan aeth nifer o gefnogwyr a fynychai'r gemau i lawr yn ddifrifol o isel gwelwyd nad oedd pwrpas mewn dal ymlaen ac fe benderfynwyd ymddiswyddo o'r gynghrair a'r cwpannau am dymor, gyda golwg ar weld beth fyddai ymateb y cyhoedd.
Y diwedd a fu oedd i ddatgorffori'r clwb trwy bleidlais yn ffurfiol. Yn union fel pe byddai rhyw rymusterau ar waith i sicrhau bod rhyw arbenigedd yn nhymor olaf Clwb Pêl-droed Blaenau Ffestiniog bu hynodrwydd ynglŷn ag ystadegau y gemau.
Cyflawnodd y clwb raglen o 30 gêm gynghrair: enillasant ddeg gêm, collasant ddeg gêm a bu canlyniad cyfartal i'r deg gêm arall.
Yn y Gynghrair gyda hwy y tymor olaf hwnnw oedd Bethesda, Llanrwst, Pwllheli, Caernarfon, Rhyl, Bae Colwyn. Porthmadog, Llandudno, Cargybi, Bangor, Conwy, Mochdre, Felinheli, Rhos a Llanfairpwll.
Yr un nifer o bwyntiau a enillwyd gartref ac oddi cartref. Yng nghystadleuaeth Cwpan Cymru collodd Stiniog gartref yn erbyn Llanfairpwll wedi curo Llandudno yn y rownd gyntaf.
Cyrhaeddwyd ffeinal Cwpan Cookson ac enillwyd Cwpan Alves. Gwyn Hughes oedd y rheolwr. O gylch Caernarfon y deuai y rhan fwyaf o'r tîm, a'r mwyaf adnabyddus yn eu mysg oedd Ernie Talbot, John Hayes, Joe Smith, Iwan Jones, Paul Roberts, Clive Jones, Steve Owen, Glyn Jones, gyda Glyn Jones a John McLennon o Landudno.
Chwaraewr lleol yn y tîm oedd Paul Crooks. Y prif sgorwyr oedd John Hughes, Paul Crooks, Iwan Jones a Clive Jones.
------------------------------------------

Hir oes i'r Amaturiaid!
PW
Ymddangosodd yr erthygl yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 2007.
Y tro nesa': pennod olaf atgofion Ernest am hynt a helynt y bêl-droed yn y dref gydag ysgrif ar un o'r chwaraewyr enwocaf a ddaeth o'r Blaenau...
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon