Bwyd y Chwarelwr
Os cofiwch, soniais* am rai o’r pethau a ddefnyddid gynt gan ein chwarelwyr i gludo eu bwyd i’r gwaith. Y mae’n amlwg o ddarllen ambell beth am yr hen drefn o gario ymborth i’r chwarel ei fod yn amrywio o gyfnod i gyfnod, ac o bosib, o ardal i ardal, hefyd. Beth bynnag, dyma hanesyn a godais o golofn Glan Rhyddallt, sef Atgof a Chofnod a ymddangosai yn yr Herald Cymraeg yn ystod y tridegau.
Cofiaf am y cyfnod y byddai’r brechdanau yn cael eu lapio mewn papur, neu gadach lliain gwyn. Ceiliog y byddwn ni yn Chwarel Dinorwig yn galw pecyn o frechdanau fel hyn ... Mae’n anodd dweud paham y gelwir ef yn geiliog, ond gwelaf fod hen air tebyg iddo a arferid am lapio rhywbeth i fyny, sef ceilio, ... Clywais rai o goliers Pennsilfania yn ei alw’n Tomi a chredaf mai dyna yw yn Neheudir Cymru, hefyd.
Llun -Paul W
Yn ôl Casgliad o Dermau Chwarel R. Emrys Jones a ymddangosodd ym Mwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd 1962, golyga hefyd:
Paced o fwyd yn barod i’w roi yn nhun bwyd y chwarelwr (Ffraethineb) y chwarelwr, mae’n debyg - ceiliog i ginio.
Bum yn meddwl, tybed ai oherwydd tebygrwydd y pecyn i ben a phig ceiliog oedd yn wreiddiol? Dim ond dyfalu ydwyf. Beth bynnag, a oes un ohonoch wedi clywed rhai’n defnyddio’r enw hwn am becyn bwyd yn ‘Stiniog?
Bwyd y Baricswyr
Gwell imi grybwyll hefyd fel y byddai’r mwyafrif o’r hen faricswyr yn cario’u bwyd i’r chwarel. Y drefn fel rheol ganddynt hwy oedd defnyddio math o obennydd o liain gwyn a elwid waled neu walat a fyddai’n cynnwys bwyd am o leiaf dridiau, neu wythnos gyfan gan amlaf. Cerid hi dros yr ysgwydd ac er cael cydbwysedd yr oedd un hanner ar y frest a’r llall ar y cefn.
Yn hanes cynnar y Parchedig Robert Llugwy Owen MA; PhD (1836-1906) sonnir amdano yn cerdded pob bore Llun o Fetws y Coed dros Fwlch y Gorddinen i’r Gloddfa Ganol gyda’i dorth ar ei gefn, a llond ei bocedi o lyfrau er mwyn eu darllen yn y barics dros yr wythnos waith. Efallai y caf sôn am yr hen chwarelwyr a’r baricsod rywdro eto. Y mae hanes yr hen weithwyr yn baricsio yn y gwahanol chwareli a’n tref yn bur ddiddorol.
Tun Bwyd y Chwarelwyr
llun, gyda diolch o wefan CASGLIAD y WERIN** |
Pan oeddwn i’n gweithio yn y chwarel byddai llawer o’r hen do gyda’r tuniau hen ffasiwn, sef y rhai ag un pen yn hanner crwn a’r pen arall yn hirsgwar,
h.y. yr un siâp a’r dorth a ddefnyddid yn gyffredinol y pryd hwnnw.
Erbyn yr 1960au, os nad cynt, defnyddid tuniau Oxo gan amryw ohonom ni’r criw ifanc, a chofiaf un tro pan gefais godwm ar y llwybr gwaith wrth fynd adref a gwasgu’r tun bob siap ... ond diolch i’r drefn nid oeddwn i ddim gwaeth ac roedd y bwyd wedi ei fwyta!
Rai blynyddoedd yn ôl deuthum ar draws englyn o waith Glan Tecwyn i’r tun bwyd. Dyma fo:
Tun Bwyd y Chwarelwr
Hyglodus ymborth gludwr - heb ei ail--------------------------------------------
Yw tun bwyd y gweithiwr;
Gwpwrdd del, diogel dwr,
Lle i fara llafurwr.
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2005.
* Rhan gynta'r drafodaeth
** Gwefan Casgliad y Werin
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon