Mae’r diolch am drefnu’r digwyddiad yn mynd i griw gweithgar Papur y Gymuned yn Nhanygrisiau ac yn arbennig i Gwilym Price a fu’n gyfrifol am gymaint o’r trefniadau.
Oherwydd y tywydd anwadal, bu’n rhaid cynnal rhan arweiniol y dathliadau yn y capel ei hun, efo Ceinwen Humphreys yn llywio’r gweithgareddau yn ei dull deheuig ei hun.
Ar gais y trefnwyr, traddododd Geraint V. Jones air o deyrnged i’w hen gyfaill. Roedd y goflech, meddai yn cael ei gosod ar y tŷ:
‘... yn deyrnged weledol i ysgolhaig disglair, llenor o’r radd flaenaf a bardd oedd â gweledigaeth unigryw iawn ar fywyd. Dyma’r dyn a allai sgwrsio’n wybodus un funud am yr Hengerdd a’r Mabinogi, am Forgan Llwyd o Gynfal ac Ellis Wyn o’r Las Ynys, ac yna droi i sôn yr un mor wybodus am bêldroed a chriced a chwaraeon o bob math.’Ac ni ddylid anghofio chwaith, meddai Geraint, ddiddordeb Gwyn yn ffilmiau cowbois Hollywood yr oes o’r blaen pan fyddai rheini yn cael eu dangos yn y Forum ac yn y Park Cinema ers talwm!
‘Yr un dyn yn union oedd Gwyn Thomas yr ysgolhaig â’r Gwyn Tom oedd yn ymhyfrydu cymaint yn ei blentyndod a’i wreiddiau, yma yn Nhanygrisiau ac yn y Blaenau.’I ddilyn, daeth Jennifer, gweddw Gwyn, ymlaen i dalu gair o ddiolch i bobol Tanygrisiau ar ran y teulu.
Yna, i ddiweddu’r cyfarfod, caed datganiad diddorol a chaboledig gan gôr plant Ysgol Tanygrisiau o un o gerddi Gwyn, sef ‘Pethau Rhyfedd’.
Aeth pawb allan wedyn i fod yn dystion i seremoni dadorchuddio’r goflech gan Jennifer ac yno, yn gwmni i’w mam, roedd Rhodri ei mab, Heledd ei merch a Brychan, Iolo ac Ynyr yr wyrion. Yn anffodus, ni allai Ceredig, ei mab arall, fod yn bresennol oherwydd galwadau eraill, gryn bellter i ffwrdd yn Llundain, y diwrnod hwnnw.
Gwahoddwyd pawb wedyn i festri’r capel i fwynhau gwledd wirioneddol o frechdanau a chacennau o bob math, wedi ei pharatoi gan chwiorydd Carmel.
Er gwaetha’r tywydd, bu’r digwyddiad yn un i’w gofio a’i werthfawrogi.
[Cynlluniwyd y goflech gan Richard Thomas ac arni fe welir llun tylluan, sef hoff aderyn Gwyn, ac eirlys, neu dlws yr eira, ei hoff flodyn.]
----------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2016. Cafwyd yr isod wedyn yn rhifyn Ionawr:
Annwyl Olygydd,
Ar b’nawn o Dachwedd, o dan y ‘Cymylau Gwynion’ disgwyliadwy yn ’Stiniog a Tanygrisia’, anrhydedd oedd medru bod yn bresennol yn Capel Carmel, ynghŷd â theulu Gwyn, llawer o hen ffrindiau a’r gymuned, yn y seremoni i ddadorchuddio'r Plac Coffa i Gwyn Thomas ar ei fan geni.
Ni ddylai yr achlysur yma fynd heibio heb roi sylw i berfformiad rhagorol Côr Plant Ysgol Tanygrisia’ yn y seremoni. Rwy'n siŵr y byddai fy niweddar fodryb, Catherine McShane, ‘Delfryn ', cyn-brifathrawes Ysgol Tanygrisia' ac aelod gydol oes o Carmel, wedi bod yn falch iawn o’r cyfle i wrando ar berfformiad hyfryd y Côr yn canu 'Pethau Rhyfedd', un o gerddi Gwyn Tom ei hun ...... heb anghofio am dipyn bach o help iddynt gan Wenna Francis Jones wrth gwrs! Heb amheuaeth mi ddylai hon fod yn 'No.1' yn reit fuan!
Hefyd, diolch i S4C am ail-redeg yr eitem i ddadorchuddio'r Plac Coffa ar y rhaglen ‘Heno’ ac ar ‘Dal Ati’ i gynnwys tamad o’r plant yn canu.
Len Roberts
(gynt o 106 Wuns Rôd, ‘Hope Villa’ ac ‘Eifion Stores’, heb anghofio chwaith yr hen ‘Le Biliards ar Bont Cwins’!
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon