6.12.16

Trem yn ôl -Medal

Erthygl arall o lyfr ‘PIGION LLAFAR 1975-1999’.

Clod a Medal 

A fynno glod, bid farw’, meddai’r hen ddihareb, ond mae llawer i’w ddweud dros dalu teyrnged i berson tra byddo byw.  Dyna yw bwriad dyfarnu Medal T.H. Parry Williams, er mwyn cydnabod ac anrhydeddu gwasanaeth gwirfoddol a nodedig dros nifer helaeth o flynyddoedd i feithrin a hybu’r iaith a’r diwylliant Cymraeg mewn ardal neu gymdogaeth. 

llun gyda diolch o gyfri Flickr alunjones
Enillydd y Fedal yng Nghasnewydd [1988] oedd Mrs Laura Elinor Morris, gynt o Eirian, Trawsfynydd. I’r sawl sy’n adnabod Mrs Morris, gŵyr ei bod hi’n llwyr deilyngu’r gydnabyddiaeth hon.  Y cwestiwn a gyfyd yw, ble mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi bod yn ystod y ddegawd diwethaf na fyddai wedi dyfarnu’r anrhydedd iddi ynghynt?  Ond efallai mai gwell hwyr na hwyrach!

Hyfrydwch i garwyr y pethe oedd gweld yr Athro Bedwyr Lewis Jones yn gosod y Fedal am wddf Mrs Morris mewn seremoni fechan brynhawn Gwener yr Eisteddfod.  Cludwyd hi i lwyfan y pafiliwn gan ei mab, Dr Iwan Morris, a oedd yn Gadeirydd Pwyllgor Cerdd Dant yr ŵyl.  Yn ystod y cyflwyno, clywyd llawer am lafurwaith Mrs Morris ym myd canu ac adrodd, a hynny gyda chenedlaethau o blant a phobl ifanc yn y Traws.  Diau fod dyled y rhain yn fawr iddi.

Cyn belled â bod hyfforddi partion a chorau cerdd dant yn y cwestiwn, aeth parti Rhiannedd Prysor ar ei gofyn yn niwedd y 60au.  Enillodd yr ‘Apricot Ladies’, fel y galwyd nhw gan ryw hen wag, yr ail wobr yn Eisteddfod y Fflint (1969).  Ond yn yr ŵyl Gerdd Dant a gynhaliwyd yng Nghricieth yn yr un flwyddyn, cawsant y wobr gyntaf. 

Dilynwyd y bri hwn gyda buddugoliaethau yn Eisteddfod Rhydaman (1970) a Bangor (1971).  Er mai Haf fyddai’n gosod, Mrs Morris fyddai’n dehongli a hyfforddi.

Côr Gyfynys efo Côr Esquel yn Nhrawsfynydd ym 1979
Wedi dyddiau Rhiannedd Prysor, daeth Côr Gyfynys i fod.  Daeth y côr hwn yn ail yng Ngŵyl Gerdd Dant Harlech yn 1974, a daeth awr fawr eu buddugoliaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi yn 1976.  Bu’r Côr yn teithio Llydaw a bu iddynt ymweld â Phatagonia yn Hydref a Thachwedd 1980. 

Siom i’r aelodau ac i drigolion y Wladfa oedd na allai Mrs Morris fod gyda hwy ar y daith arbennig honno.
-------------------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 1988, ac eto ym mis Medi 2016.
Dilynwch gyfres Trem yn ôl efo'r ddolen isod, neu yn y cwmwl geiriau ar y dde.


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon