27.5.24

Senedd Stiniog- Cartrefi, Iechyd, a Mwy

Yn y Cyfarfod Arferol a gynhaliwyd ar Nos Lun, yr 11eg  o Fawrth, cytunodd y Cyngor yn unfrydol i gefnogi fy nghynnig ein bod yn ‘datgan cefnogaeth i alwad Cymdeithas yr Iaith am Ddeddf Eiddo’. 


Sefyllfa anodd iawn sy’n bod ar hyn o bryd i’r bobol ifanc hynny sydd am gael tai yn lleol. Digwydd bod, mae’n gynnig amserol iawn hefyd gan fod Cymdeithas yr Iaith yn cynnal rali Deddf Eiddo yn y dref ar y 4ydd o Fai. Mae hi’n faes hynod o gymhleth a phitw iawn yw’r grym sydd gan Gynghorau Tref i ddylanwadu ar unrhyw benderfyniadau cynllunio yn y pen draw. Adrannau Cynllunio’r Cynghorau Sir fydd wastad yn cael y gair olaf. 

Pam trafferthu i ddatgan cefnogaeth o gwbwl ta, medda chi? Teimlaf bod sawl rheswm dros hyn. Os daw rhywun i holi beth ydi safbwynt y Cyngor ar ddatblygu tai, yna bydd yno, fel polisi, ar ddu a gwyn, mae’r hawl i gartref yn lleol a chynlluniau ar gyfer anghenion lleol, fydd yn cael blaenoriaeth pan yn ystyried a thrafod unrhyw ddatblygiadau. Bydd yr etholaeth yn dallt, bydd datblygwyr tai yn dallt a bydd y Cyngor Sir yn dallt. O hyn ymlaen bydd y Cyngor Tref yn gallu gwrthwynebu neu fynegi cefnogaeth i ddatblygiadau, a hynny cyn belled â bod amodau, fel anghenion lleol, ddim yn cael eu tynnu oddi ar y ceisiadau gwreiddiol nes ymlaen. Yn anffodus, dwi’m yn meddwl y gwneith fawr o wahaniaeth yn y diwedd, ond dyma yw maint ein dylanwad. 

Beth sydd yn dueddol o ddigwydd meddai nhw ydi bod datblygwyr tai yn dweud y pethau iawn i gyd i ddechrau, yn ticio’r bocsys, ia, tai i fobl lleol ydi rhain blah, blah. Wedyn, ar ôl cael caniatâd, a’r gwaith adeiladu wedi cychwyn, talu mwy o arian i Adran Gynllunio’r Cyngor Sir i wneud cais arall, i gael tynnu rhai amodau oddi ar y cais gwreiddiol. Wrth reswm, cael rhoi rhai o’r tai ar y farchnad rydd yw prif amcan y datblygwyr os am wneud yr elw eithaf, ac mae’r Cyngor Sir yn gwneud pres hefyd. Yn ôl y sôn, dyma sydd yn digwydd yn Llan a dyma sydd am ddigwydd ym Mhenrhyndeudraeth.  Dwn i’m faint o wir sydd yn hyn cofiwch – holwch eich Cynghorwyr Sir.

Derbyniwyd llythyr gan y Feddygfa.  Roedd y Cyngor eisoes wedi ei llythyru’r llynedd yn holi beth oedd y sefyllfa ddiweddaraf. Roedd y llythyr yn dweud bod pum meddyg yno, un llawn amser a’r pedwar arall yn rhan amser. Yn anffodus bu cyfnodau o salwch tymor hir ymysg y meddygon, ond yn ffodus, roedd meddygon locum yn gweithio yno’n rheolaidd. Soniwyd fod pawb yn cael trafferth i recriwtio meddygon ac ei bod wedi gweithio gyda’r Academi Gofal Sylfaenol yn ddiweddar yn creu fidio yn dangos harddwch yr ardal er trio denu meddygon newydd yma. Aiff y llythyr ymlaen i egluro fod y feddygfa yn Feddygfa Hyfforddi a bod nifer o staff yno yn cyflawni nifer o rolau gwahanol a bod croeso i gynghorwyr drefnu ymweliad.

Bu rhywfaint o lwyddiant gyda Chyfoeth Naturiol Cymru. Roeddynt wedi disgrifio Ceunant Cynfal a Cheunant Llennyrch fel "ger Porthmadog".  Bellach mae Ceunant Cynfal "ger Ffestiniog". Maent yn parhau gyda’r ddadl fod Ceunant Llennyrch yn nes at Port – tydi’o ddim, a dywed bod y cyfarwyddiadau’n gweithio’n well o’r A487 rhwng Port a Maentwrog. Lol botas, tydi pobol ddim yn wirion nac ydi, digon hawdd ydi egluro. “Rydym yn ceisio dewis y dref sylweddol agosaf a hefyd yn ystyried y ffordd orau i gyfeirio ymwelwyr ar y ffordd i gyrraedd y coetir neu’r warchodfa”, meddai’r llythyr ganddynt.  Wel, dyna chi ddarpar-ymwelwyr Llennyrch o ffwrdd i gyd yn chwilio am lety’n Port felly’n de?! Mae’r Cyngor Tref am ei llythyru/e-bostio eto, a da chi, gwnewch chithau hefyd. Mae rhywun yn cael hen deimlad bod ardal Stiniog yn cael cam o hyd tydi!

Mynegodd Y Cyng. Linda Jones ei phryder nad oedd amserlen newydd y bysus yn cydfynd ag amseroedd yr ysgolion a bod disgyblion weithiau’n gorfod disgwyl hyd at dri chwarter awr i gael bws adref. Cytunodd pawb nad oedd hyn yn dderbyniol a phenderfynwyd anfon llythyr i gwyno.

Bu trafodaethau eraill am waith y Cynllun Finyls ar ffenestri siopau gweigion y Stryd Fawr. Hefyd, gwaith sydd ar gychwyn ar ambell faes parcio yn yr ardal, a chafwyd y newyddion fod planhigion ar fin cyrraedd i roi dipyn o liw yn ein parciau’r gwanwyn hwn.

Safbwynt fy hun yn unig sydd yma. Mwynhewch y Pasg a Chalan Mai.
David Jones
- - - - - - - - - - -

Rhan o erthygl a ymddangosodd yn rhifyn Ebrill 2024 (heb y llun, gan Paul W)



No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon