Showing posts with label Y Glorian. Show all posts
Showing posts with label Y Glorian. Show all posts

20.11.16

Stiniog a’r Rhyfel Mawr -Hydref 1916

Parhau â chyfres Vivian Parry Williams, yn nodi canrif ers y rhyfel byd cyntaf.

Ymysg eitemau a welwyd yn rhifyn 14 Hydref 1916 o'r Rhedegydd oedd hysbyseb ar y dudalen flaen am lyfrgellydd i'r Llyfrgell Gyhoeddus yn y Blaenau, gyda'r ymgeiswyr i anfon am fanylion gan glerc y Cyngor Dinesig, Edward Jones. Hefyd, llongyfarchwyd Lewis Davies, Siop y Gloch ar gael ei benodi'n Gynrychiolydd Milwrol dros bum plwyf Penllyn, Y Bala. Roedd ei swydd fel Swyddog Recriwtio yn ardal Blaenau a'r cyffiniau wedi dod i ben ers i ymrestru gorfodol ddod i rym yn gynnar yn 1915.


Fel arfer, yr oedd adroddiadau eraill yn sôn am y milwyr a laddwyd, ac a glwyfwyd, ac yn enwi rhai eraill oedd wedi ymuno â'r lluoedd arfog. I geisio chwifio baner Prydeindod, ac i annog mwy o filitariaeth, cafwyd ymweliad pwysigion â'r Blaenau tua'r adeg hon, sef Syr A. Osmonde Williams, Arglwydd Raglan Sir Feirionnydd a'i wraig. Dod yma i gael gweld catrawd leol o'r V.T.C. - Catrawd y Gwirfoddolwyr dan Hyfforddiant, ac wedi cyrraedd tua 6y.h. ar y nos Sadwrn, hebryngwyd hwy ar yr  orymdaith drwy'r dref gan guard of honour o'r sgowtiaid lleol. Aethpwyd ymlaen i weld y V.T.C. yn y Drill Hall, lle yr oedd y Bugle Band yn canu cerddoriaeth i blesio'r ymwelwyr pwysig.

Canmolodd Syr Osmonde y swyddogion a fu'n gyfrifol am sefydlu'r corfflu, yn enwedig y prif swyddog, Mr Ben T. Jones, cadeirydd y Cyngor Dinesig. Cymaint felly fel y dyrchafwyd Jones i safle Capten. Gofynnodd yr Arglwydd Raglan i bawb anrhydeddu ei ddyrchafiad, ac i sicrhau ei gyfarch o hynny ymlaen fel 'Capten yn y Fyddin Brydeinig'. Gorchmynnodd y swyddogion eraill i sylweddoli eu bod yn atebol i'r capten newydd o'r diwrnod hwnnw ymlaen. Roedd Syr Osmonde yn edrych ar Flaenau Ffestiniog fel ardal oedd yn esiampl i weddill y sir gyda'r ymroddiad yn y gorffennol i'r fyddin. Diolchwyd i'r Capten newydd ar y Gwirfoddolwyr, ei ddirprwyon, megis y rhingylliaid ar y corfflu, Ivor Thomas, Richard Williams a W.M.Owen. Tua diwedd ei lith, rhaid oedd galw am fwy o ymroddiad:
Yr ydym yn deall mai cynyddu bob wythnos y mae'r Cwmni...Dyma gyfle yn awr wedi dod at ddrws pob dyn i wneud ychydig at amddiffyn ei wlad, a'i chynorthwyo at gadw'r gelyn draw. Peth rhad iawn yw gwladgarwch ar y llwyfannau, ond nid yw o unrhyw werth os nad cheir ef mewn gweithrediad. Disgwylir yn fawr weled pob dyn o dan 50 oed a dweyd y lleiaf yn ymuno ar unwaith, gan nad beth yw eu safle mewn cymdeithas.
Ac wedi darfod ar ei araith lawn ystrydebau gwladgarol, Prydeinig, ryfelgar, ymadawodd yr Arglwydd Raglan a'i wraig i ddychwel i'w cartref cyfforddus yng Nghastell Deudraeth, Penrhyndeudraeth.

Yn amlwg, yr oedd elfennau gwrth-Gymraeg yn bodoli mewn ambell garfan o Gymry'r dref cyn belled yn ôl â 1916. Yn brawf o hynny gwelwyd, mewn adroddiad ar weithgareddau'r Cyngor Dinesig, hanes y cynghorydd R.R.Williams yn cynnig y dylai’r hysbyseb am lyfrgellydd newydd i'r dref fod yn Saesneg yn unig. Yn ffodus i ddyfodol yr heniaith ar lawr siambr y cyngor, ni fu cefnogydd i gynnig y cynghorydd hwnnw.

Cafwyd llun o'r Preifat David Joseph Evans, mab ieuengaf Mr a Mrs John Evans, 5 Penygroes, Bethania, yr hwn a laddwyd ar faes y frwydr 2 Hydref 1916, yn 20 mlwydd oed, yn rhifyn 21 Hydref o'r Rhedegydd. Odditano, cyhoeddwyd copi o lythyr o gydymdeimlad diffuant ei gaplan yn y ffrynt, Evan Mathias. Wedi trafod ei angladd, mewn claddfa ar gyfer milwyr o Brydain, aiff y caplan ymlaen megis:
Nis gwn a glywir y Gymraeg yn aml ar lan beddau milwyr Cymreig yn Ffrainc. Beth bynnag am hynny, cynhaliais y gwasanaeth hwn yn "yr hen iaith," ac yr oedd dau o'i gyfeillion o Ffestiniog, o'r un Platoon ag ef, ac amryw eraill yn bresennol. Bydd yn gysur i chwi glywed fod croes o bren a'i enw a manylion eraill yn argraffedig arni yn marcio man fechan ei fedd erbyn hyn, a fod pob gofal yn cael ei gymeryd o'r fynwent...
Milwr arall a laddwyd oedd Phillip Woolford, 24 oed, Pen-y-bont, Llan Ffestiniog. Roedd Phillip, yn un o'r gwirfoddolwyr a ymunodd â'r fyddin, ac wedi bod yn y ffrynt ers dwy flynedd. Roedd wedi ei glwyfo sawl tro, ac wedi ei ‘anrhydeddu a medal ychydig fisoedd cynt', yn ôl yr adroddiad. Yn drist iawn, cofnodwyd iddo fod gartref ar leave fis ynghynt, pryd yr ymbriododd â merch o Dde Cymru.

Ymysg gohebiaeth yn rhifyn 21 Hydref oedd llythyr gan un a alwai ei hun yn 'Bronmanod', a oedd yn ymateb i sylwadau'r cynghorydd R.R.Williams ynglŷn â'i gynnig yng nghyfarfod o'r Cyngor Dinesig mai yn Saesneg y dylid hysbysebu am lyfrgellydd newydd. Roedd 'Bronmanod' yn gynddeiriog gyda'r cynghorydd:
...a beth oedd meddwl Mr R.R.Williams yn cynyg yn wyneb Cyngor cyfan fod yr hysbysiad am Lyfrgellydd i fod yn Saesneg? A garai gael Sais yn y swydd? Byddai well llosgi pob llyfr Cymraeg tybed? Faint sydd ers pan oedd yr un aelod yn cynyg fod cofnodion y Cyngor yn cael eu hargraffu yn Gymraeg. Ers pryd mae R.R.Williams wedi anghofio'i Gymraeg, a pha gyfathrach sydd rhyngddo a'r iaith fain? Cysondeb frawd...
*   *   *   *   *

Llun o’r Rhyfel Mawr

Yn dilyn y sylw a roddwyd i’r Rhyfel Byd Cyntaf yn Llafar Bro yn ddiweddar, anfonwyd y llun hwn atom gan Mrs Lisa Lloyd, Yr Wyddgrug (gynt o Highgate, Llan Ffestiniog). Fe’i tynnwyd mewn gwersyll milwrol ac mae’n dangos tri o’r Llan a oedd yn perthyn iddi.

Mae dau o frodyr ei mam yn y llun: William Jones yn eistedd yn y tu blaen â gwn ar ei lin a Jack yn ail o’r dde yn y rhes gefn. Dychwelodd y ddau i fro eu mebyd ar ddiwedd y rhyfel, y naill yn chwarelwr a’r llall yn bostmon.

Roedd William yn gerddor naturiol. Mae gan Mrs Lloyd gasgliad o’i offerynnau cerdd: ffidil, banjo a ffliwtiau yn ogystal â llun ohono’n chwarae ei zither. Bu’n flaenor a chodwr canu yng nghapel Peniel, a phob prynhawn Sul cerddai i Ryd-sarn i arwain gwasanaeth yn y capel bach. Parhaodd effeithiau’r rhyfel yn drwm ar Jack, a bu farw yn 49 oed.

Yn sefyll ar y chwith â gwn yn ei law mae Salisbury Hughes, gŵr i chwaer tad Mrs Lloyd a mab i’r bardd/newyddiadurwr R.O.Hughes (Elfyn), a enillodd gadair Prifwyl 1898 yn y Blaenau ac a fu’n golygu’r Rhedegydd a’r Glorian. Roedd Salisbury yn gweithio ar y rheilffordd yn Y Bala a’r Blaenau.

Dyna dri yn y llun wedi’u henwi. Ai hogiau o’r Blaenau neu Llan yw rhai o’r lleill? Efallai bod copïau eraill wedi goroesi, a rhai eraill o’r gwŷr ifainc yma yn wybyddus i ddarllenwyr Llafar Bro.  Gyrrwch air atom.

  ----------------------------------------------

Ymddangosodd y ddwy erthygl yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2016                        
Dilynwch gyfres Stiniog a'r Rhyfel Mawr efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
 

21.10.15

Stolpia -Hen Bapurau Newydd

Erthygl o gyfres Steffan ab Owain, y tro hwn yn edrych ar rai o bapurau newydd eraill y fro.Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn 250, Mawrth 1998.
 
Hen bapurau newydd ‘Stiniog.
Dyma ‘Llafar Bro’ wedi cyrraedd Rhifyn 250, ynte? Llongyfarchiadau iddo .... a bydded i lawer iawn o rifynnau ohono ymddangos eto. Rwan, dyliwn ni sydd o gylch yr hanner cant oed yma a throsodd gadw mewn cof nad yw’n pobl ifanc yn cofio papur wythnosol diwethaf ‘Stiniog heb son am y rhai a ddiflannodd gyda’r deinosoriaid. Felly, rhoddaf ychydig o hanes yr hen newyddiaduron wythnosol a ymddnagosodd o weisg ein tref i chi isod.
W. Lloyd Roberts, cyd sylfaenydd Y Rhedegydd

Dechreuaf gyda’r un cyntaf ... ac yn wir, yr un a barhaodd hiraf.

Yn ddiau, y mae’r mwyafrif ohonoch wedi clywed amdano – os nad ydych wedi gweld copi ohono ... ie, ‘Y Rhedegydd’.

Daeth y papur Cymraeg a Radicalaidd hwn allan gyntaf yn 1878 a bu’n rhedeg am lawer blwyddyn, ac hyd at y flwyddyn 1951.

Darllener Rhamant Bro, 1992 os am fwy o’i hanes.

Y newyddiadur nesaf i’w ddilyn oedd ‘Y Gwir’ yn 1889, ac yna yn 1891 daeth ‘Y Chwarelwr’ allan o wasg Humphrey Evans. Taid y brodyr Evans, Gwasg y Faner oedd y gŵr hwn. Ni pharhaodd y ddau yma ddim mwy na rhyw flwyddyn neu ddwy, fodd bynnag.

Erbyn diwedd y ganrif, sef yn 1899 daeth newyddiadur arall allan o wasg Thomas Williams. Enw hwn oedd ‘Y Glorian’, ac o beth gasglais, bu yn cylchredeg hyd at tua 1916. Gwelodd degawd cyntaf yr ugeinfed ganrif cymaint a phedwar papur newydd wythnosol yn ymddangos o weisg ‘Stinog ... h.y. ar wahan i’r Rhedegydd a’r Glorian, cofiwch.

Yn y flwyddyn 1903 daeth Lewis Davies a phapur o’r enw ‘Y Gloch’ allan o’i wasg yn y ‘Co-operative Buildings’, lle bu’r Clwb Sboncen rai blynyddoedd yn ôl. Yna, yn 1906 daeth Thomas Williams ac ail bapur allan o’i wasg brysur sef ‘Yr Arweinydd’.

Cofier, roedd y gweisg hyn yn argraffu llyfrau, pamffledi, rhaglenni a thocynnau, a.y.b. yn ogystal.

Gwelodd y flwyddyn 1908 bapur newydd o’r enw ‘Yr Aelwyd’ yn cystadlu yn galed yn erbyn y pedwar arall. Hyd yn oed gyda phoblogaeth o ddeng mil o bobl methaf a deall sut yr oedd Lewis Davies yn disgwyl i hwn werthu digon i gadw’i ben uwchben y dŵr ... oherwydd o beth welwn i, nid oedd ddim gwahanol i’r un o’r lleill!

Pa fodd bynnag, erbyn diwedd y ddegawd cyntaf, sef oddeutu 1910 ymddangosodd ‘Y Gwyliedydd Newydd’, eto o wasg Lewis Davies, Credaf i’r Aelwyd a’r Arweinydd barhau tan tua 1915/1916, ond bu i’r Gloch ddarfod ychydig flynyddoedd cyn hynny. Serch hynny, ail-ymddangosodd Y Gloch ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, oddeutu 1922, mi gredaf, a pharhaodd tan tua 1936.

Fel y gwelwch, byrhoedlog oedd hanes amryw o’r papurau newydd yma, ac yn sicr, nid oedd galw am gymaint a saith o newyddiaduron ar y tro ym Mlaenau Ffestiniog a’r cyffiniau. Byddai dau bapur gyda gwahanol safbwyntiau ac agweddau gwleidyddol wedi bod yn ddigon derbyniol, feddyliwn i ... ond wedyn, nid felly y bu pethau, a phwy ydwyf i, i newid hanes, ynte?

-------------------------


Gallwch ddilyn cyfres Stolpia efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.