13.5.18

Dathlu Dau Ddiwylliant


Wrth fynd i Batagonia, fe ddysgodd Elin Roberts -enillydd Ysgoloriaeth Cyngor Tref Ffestiniog 2017- lawer: o’r wleidyddiaeth i’r ieithoedd ac o’r hanes i’r ffordd o fyw. Yma cawn ychydig o'i hanes.

Roedd yn brofiad bythgofiadwy, yn enwedig fy mod wedi teithio yno ar fy mhen fy hun: o Landudno i Lundain; o Lundain i Rufain; o Rufain i Buenos Aires ac o Buenos Aires i Drelew. Roedd hefyd yn gyfle i gwrdd ac eraill a chreu ffrindiau oes. Drwy aros gyda theulu Billy a Gladys yn y Gaiman, cefais y cyfle i integreiddio fy hun yn y gymuned Gymreig a’r gymuned Castillano (Sbaeneg) hefyd.



Cefais gyfle i ymweld â Choleg Camwy yn y Gaiman, ysgol ar gyfer myfyrwyr 11-18 mlwydd oed. Dyma’r unig ysgol uwchradd yn y Wladfa ble mae yno gyfle i ddysgu’r Gymraeg. Yn ystod fy ymweliad yno cefais roi cyflwyniad yn ystod gwers Gymraeg i flwyddyn 9. Roedd yn gyfle i mi rannu gwybodaeth am y Blaenau a’i diwylliant yn ogystal â’r diwylliant Gymraeg. Roedd y plant yma yn dysgu Cymraeg, felly roedd hanner y cyflwyniad yn y Gymraeg a’r hanner arall yn Castillano. Wrth drafod gyda’r plant yn y dosbarth hwn a’r plant ym mlwyddyn 12, fe ddysgais cymaint am y gyfundrefn addysg yno. Yno mae’r flwyddyn ysgol yn dechrau yn mis Chwefror hyd mis Rhagfyr. Hefyd yn wahanol i Gymru, mae 2 dewis ar gyfer eu hastudiaethau lefel A: y Dyniaethau neu’r Gwyddorau.

Roedd fy mhrofiad o ymweld â Choleg Camwy yn wahanol i fy mhrofiad o ymweld ag Escuela 28 de Julio yn Nhir Halen oherwydd roedd yr ysgol yn Nhir Halen yn hollol Sbaeneg.  Nid oedd y myfyrwyr yn medru’r Gymraeg, ond roedd ganddynt y balchder mwyaf am fod ganddynt gyfenw Cymraeg a’u bod yn ddisgynyddion Cymreig. Daeth hyn drosodd yn glir wrth gael sesiwn trafod gyda’r myfyrwyr.

Elin efo aelodau Comisión de Amigos de la Cultura Galesa, y tu allan i Gapel Berwyn, Rawson.
Teimlaf bod y syniad o falchder i’w weld yn gryf yn y Wladfa; roedd i’w weld yn glir yn yr Eisteddfod. Roedd yr Eisteddfod yn ddathliad o’r diwylliant Cymraeg yn ogystal â’r diwylliant Sbaeneg; fe agorwyd yr Eisteddfod gydag anthem genedlaethol yr Ariannin a'i chloi gydag anthem Cymru. Wrth ddathlu’r ddau ddiwylliant gyda’i gilydd, roedd y ddau yn cael eu parchu’n gyfartal.

Wrth fynd draw i Rawson, roedd yr ymdeimlad o falchder a pharch i’w weld eto. Cefais y cyfle i gwrdd â Chyfeillion Diwylliant Cymreig, Rawson (Comisión de Amigos de la Cultura Galesa - Rawson) ac ymweld a’r Museo Salesiano sef amgueddfa am hanes y Cymry cynharaf yn y Wladfa. Yno roedd gwahanol arteffactau o’r Cymry cyntaf: esgidiau, llyfrau a dillad. Roedd yn ddiddorol cael mynychu Capel Berwyn yn Rawson oherwydd fe ddysgais am bwysigrwydd crefydd o fewn yr iaith Gymraeg yno. Roedd hyn hefyd yn amlwg wrth i mi fynychu Oedfa yng Nghapel Bethel yn y Gaiman.

Wrth ddysgu am hanes y Wladfa, roeddwn yn ysu i gael dysgu mwy am wleidyddiaeth yr Ariannin. Cefais y cyfle i gymharu cyfundrefn wleidyddol Cymru â chyfundrefn wleidyddol yr Ariannin wrth gwrdd â Mariano García, El Intendente de Gaiman (Maer y Gaiman). Roedd yn ddiddorol cymharu gweithredoedd eu cyngor tref nhw gyda chynghorau tref yng Nghymru. Yno, mae’r cynghorau tref yn debycach i’n cynghorau sir ni gan fod ganddynt gyfrifoldebau megis addysg, priffyrdd a’r amgylchedd. Roedd hefyd yn ddiddorol bod bobl ifanc 16 ac 17 mlwydd oed yn gallu pleidleisio yno a’i fod yn orfodol i unigolion 18 mlwydd oed a throsodd i bleidleisio. Mae hyn yn wahanol i’r drefn yma.

Roedd parch tuag at y ddau ddiwylliant i’w weld o fewn yr agwedd tuag at ddysgwyr Cymraeg a Sbaeneg.  Roedd trigolion y Wladfa yn rhoi cymaint o amser iddynt; yn rhoi amser i wrando ac amser i sgwrsio. Roeddwn yn gweld hyn gyda’r dysgwyr Cymraeg o brifysgolion o America ac o’r Almaen. Cefais y profiad o hyn wrth ymarfer fy Sbaeneg; roedd y bobl yn barod i roi amser i mi ac yn barod i fy nghynorthwyo i gael hyder yn yr iaith. Teimlaf bod hyn yn rhywbeth y gallwn ni fel Cymy ymarfer a gwella arno, sef, rhoi amser i ddygwyr y Gymraeg. Rhoi amser i wrando. Rhoi amser i sgwrsio. Rhoi hyder i bobl yn eu Cymraeg.

Hoffwn i ddiolch i’r Cyngor Tref am eu hysgoloriaeth hael. Hoffwn i hefyd ddiolch i Billy a Gladys am eu parodrwydd i fy nghroesawu fel aelod o’u teulu. Hoffwn hefyd ddiolch i Patricia Alejandra Lorenzo Harris a Nanci Jones (Comisión de Amigos de la Cultura Galesa), Mariano García (Maer Gaiman), Patricia Ramos (Escuela 28 de Julio) a Gabriel Restucha (Coleg Camwy).
---------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2018

1 comment:

  1. Da iawn chdi Els..........Dwi falch iawn ohona ti........Cariad Mawr a Pob Bendith xxx

    ReplyDelete

Diolch am eich negeseuon