Nofel ddiweddaraf Geraint V. Jones.
Da yw gweld cyhoeddi nofel gynta’ cadeirydd Llafar Bro ers deng mlynedd, a honno yn trafod pwnc na ddaeth o ysgrifbin Geraint o’r blaen.
Nofel gyffrous sy’n mynd â’r darllenydd i fyd arswydus y goruwchnaturiol yw Yn Fflach y Fellten.
‘Roedd y syniad o lunio stori ysbryd wedi bod yn cronni yn fy mhen ers tro,’ meddai, gan gyflwyno’r nofel fydd yn sicr o gyffroi meddyliau’r darllenwyr. A dweud y gwir, ychydig iawn o nofelau a gafwyd dros y blynyddoedd yn rhoi sylw i ysbrydion a materion yn ymwneud â’r goruwchnaturiol.
Stori sy’n gafael go iawn sydd yma, a’r awdur yn ein tywys hyd y llwybrau tywyll, a’r dirgelion oedd yn cuddio y tu mewn i furiau Plas Dolgoed. Cawn ein hudo yma i fyd llawn ysbrydion, a’r golygfeydd arswydus a wynebai Maldwyn Davies, perchennog y Plas.
Rhag datgelu gormod o gyfrinachau, ddywedai ddim mwy. Dim ond eich gwahodd i ymweld â’ch siop lyfrau leol i brynu nofel fechan nad yw’n hawdd ei rhoi i lawr nes cael atebion i rai o’r dirgelion hynny.
Yn Fflach y Fellten: Geraint V. Jones, Y Lolfa, £5.99
---------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2018
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon