Parhau â chyfres Les Derbyshire
Yn y brif ffordd i'r dde o’r fynediad i Frondirion mae adeilad Rhiwlas, ond does dim gwybodaeth be oedd ei hanes, na'i bwrpas. Mynd i lawr at dai Tanrhos ac yn y cylch yma mae rhyw bump o ffermydd neu dyddynnod - sef Ffynnon (neu Y Ffatri fel y'i gelwid yn ogystal), Tŷ Newydd Ffynnon, Hendre Ddu a Llwyn Crai.
Yn Ffynnon y trigai John a Mary Evans a'i mherch Myra, tyddyn bach cyffyrddus a John yn gweithio yn y chwarel. Yr un patrwm yn Nhŷ Newydd Ffynnon gyda’r tad yn y chwarel a'i wraig, y mab a’i ddwy ferch gartref yn gwylio’r ffarm. Hendre Ddu oedd y ffarm wedi ei lleoli ar ochr y ffordd ac yn is na’r Ffatri. William Lloyd a'i wraig oedd yno gyda phump o blant sef Megan, Edwyn, Wyn, Dafydd a Winni. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, bu y tri o hogiau yn y fyddin a bu Dafydd yn garcharor yn yr Almaen am gyfnod go hir gan ddioddef llawer. Bu i Edwyn briodi merch o Loegr ac fe wnaeth ei gartref ym mro ei wraig ar ôl y rhyfel.
Mae Llwyn Crai yn ddieithr imi - ond roeddwn yn adnabod un a oedd wedi ei fagu yna, sef James Vernon, a oedd yn signalman yn Stesion Grêt. Erbyn heddiw mae yn un o ffermydd mwyaf y cylch. Mae ffordd drol yn arwain o Lwyn Crai, croesi'r ffordd newydd ac i fyny i ffarm Bwlch Iocyn, hon yn hen ffarm bwysig yn ei dydd - ffarm ddefaid yn bennaf, ond yn cadw gwartheg hefyd a'r unig fferm yng nghylch Manod oedd yn cadw tarw. ʼRoedd tarw Bwlch Iocyn wedi ei bridio oddiwrth wartheg duon Cymreig ac roedd hanes fod y tarw yn un peryg’. Roedd William Owens o dai Glanywern yn fforddoliwr ar lein y GWR a phan oeddent yn gweithio o gwmpas cae Bwlch Iocyn a'r tarw yn y cae, byddant yn aflonyddu arno a'i wylltio, ond rhyw ddiwrnod bu rhaid i William groesi’r ffens a mynd i’r cae. Yn anffodus, roedd yr hen darw yno hefyd, a phan welodd William, dyma’n dechrau rhedeg ato. Unochrog oedd y frwydr, a bu rhaid mynd a William gartref achos ei glwyfau, ond yn dra lwcus am ei fywyd. Mae hen ddywediad Saesneg yn dweud ‘Elephants never forget’. Credaf bod hyn yn wir am deirw Bwlch Iocyn hefyd!
Mae’r tŷ yn dyddio yn ôl i'r pymthegfed ganrif. Roedd Bwlch Iocyn yn arbennig am y peiriant corddi a oedd yno, yn wahanol i'r arferiad, cŵn oedd yn gweithio yr olwyn i droi y fuddai, yn anffodus fe wnaed i ffwrdd a fo rai blynyddoedd yn ôl. Yn ddiddorol pan oedd un yn mynd i'r ffarm i gael llaeth neu wyau, y ddefod oedd i gario piser o ddŵr o'r pistyll bach a oedd rhyw chwarter milltir i ffwrdd o'r tŷ. Roedd y pistyll ar ochr y brif ffordd, ac yn bistyll da gyda’r dŵr bob amser yn glir fel grisial ac yn oer, roedd yn dal i weithredu hyd yn oed mewn amser o rew - ond fel popeth arall dyn a'i ddiweddu. Bu i'r Cyngor Sir wneud gwelliannau i'r ffordd a drwy hynny fe gollwyd y pistyll am byth. Ni wn beth oedd sefyllfa dŵr ar y ffarm, na pam bod rhaid mynd a dŵr i'r tŷ, oedd yna ffynnon oddeutu y tŷ? Gwyddom mai yn y saithdegau y bu i'r Bwrdd Dŵr gysylltu'r ffarm a'i chyflenwad dŵr. Roedd colli y pistyll yn golled i'r ardal, yma y cawsant ddŵr pan oedd argyfwng ar y cyflenwad cyhoeddus, neu achos rhewi'r pibellau.
Bu i'r ffarm orffen cyn yr Ail Ryfel Byd a’r tŷ yn cael ei werthu fel tŷ preifat. Bu i John Lloyd y saer, ei atgyweirio i'r perchenog newydd. Dywedir mai Mr Wiley a oedd yn gysylltiol â Gwesty Portmeirion a theulu Clough Williams-Ellis oedd y perchnogion newydd.
Wedyn bu i un o fawrion y byd llenyddiaeth ymgartrefu yno am dair blynedd, sef Arthur Koestler a'i ail wraig Mamaine. Iddew o Hwngari oedd yn wreiddiol, ond wedi cael amser caled a rhyfeddol bu yn y Lleng Ffrengig (French Foreign Legion), yn garcharor yn yr Almaen, a bu hefyd yn filwr ym myddin Prydain. Yr oedd yn ffrind i Bertram Russell a theulu Clough Williams-Ellis, a phan ysgrifennodd ‘Darkness at Noon’, daeth George Orwell i Bwlch Iocyn am bythefnos i archwilio'r llyfr newydd.
Bu i Marcus Wright a'i wraig ddod yno wedyn, nis gwyddwn be oedd ei waith, roedd ganddo gar gwych ‘Bristol’ a oedd yn gar ‘hand made’, o’r un categori a'r Rolls Royce. Yr oedd ei wraig yn olffwraig gwych ac yn aelod o dîm Cymru.
------------------------
Hanner gyntaf y bennod a ymddangosodd yn rhifyn Ebrill 2018 yw'r uchod.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon