Ar ôl crwydro o fferm y Ffynnon i Fwlch Iocyn yn y bennod ddwytha, dyma ran olaf plwyf Ffestiniog Les Darbyshire, a Thrawsfynydd yn dilyn y tro nesa'.
Y ffarm nesaf ydyw Pengwern, hon yn ‘home farm’ y Plas yn cael ei rhedeg gan y goruchwyliwr, ffarm daclus a glân ond er budd y Plas yn unig. Ymlaen ar hyd yr hen ffordd i fferm Bryn Rhug a oedd yn medru cadw y teulu ar gynnyrch y ffarm ac nid oedd angen iddynt gael gwaith tu allan i'r ffarm. Dal ymlaen ar y ffordd a throi i fyny Lôn Dywyll sydd yn ymuno â'r brif ffordd ger y tŷ o’r enw Cartref, neu fel yr oedd yn cael ei adnabod -Plas Bowton- ac ar ochr arall i'r ffordd, mae ffarm Teiliau Bach, hon eto yn ffarm lewyrchus, a hefyd gerllaw Teiliau Mawr.
I orffen y daith awn yn ôl i gylch Bethania i weld y ffermydd bach yno. Tŷ’n Drain, Penbryn, a'r Fuches Wen: tyddynnod i gyd ond yn bwysig i'r gymdogaeth, a dyna cylch y Blaenau wedi cau.
Yn bwysig i'r ffermydd defaid oedd yr hawl i'w defaid gael pori ar y mynydd. Roedd gan bob ffarm rif neilltuol yr oedd yn rhaid cadw ato. Tybed, erbyn heddiw, be ydi hanes yr hawl yma?
Roedd gan ffarm Tyddyn Gwyn hawl i ddefaid a'r ceffylau bori ar fynydd Tanymanod ac ar y mynydd rhwng y gwaith sets Pengwern draw at Gae Clyd.
Er mai hanes ffermydd sydd ganddom, mae yna hefyd yn yr un cyfnod, weithgareddau eraill yn gysylltiedig mwy na heb gyda'r ffermydd, sef cariwrs. Hyd y gwn i roedd yna gariwrs yn Nhanygrisau, Blaenau, Manod a Llan i gyd gyda’u trol a cheffyl. Roeddent yn rhan o'r gymdeithas - yn y Manod roedd Bob Tyddyn Gwyn hefyd yn gariwr, byddai yn clirio'r lludw ar ddydd Llun ac wedyn yn dosbarthu glo, hyn yn golygu llwytho'r glo o'r tryc lein i'r drol ac wedyn ei bwyso a mynd a fo i gwsmeriaid Richard Lewis, John Jones y Post a Dafydd John Russell. Yn hwyrach fe brynwyd busnes glo Richard Lewis gan y Co-op lleol a sefydlu iard Stesion Manod yn brif depot glo iddynt, a hyn mewn rhyw ffordd oedd yr ergyd olaf i'r cariwrs lleol. Roedd y Co-op yn defnyddio loris mecanyddol i ddosbarthu’r glo, a hefyd yn medru ehangu y cylch, nid oedd angen ceffyl a throl mwyach.
Un arall oedd yn gariwr oedd Harri Glasfryn o gylch Bethania. Hen lanc oedd Harri a Mary Bank oedd ei ‘housekeeper’, un o Benmachno oedd hi. Roedd gan Harri drol a cheffyl at waith lleol, ac roedd ganddo un neu ddau o geffylau yn gweithio yn y chwarel. Cofiaf i'r ceffyl a oedd yn gweithio yn y chwarel farw. Nid oedd Harri yn gefnog a dyma y gymdogaeth yn casglu arian i brynu ceffyl arall iddo.
Diddorol hefyd yw hanes beth a elwir yn ‘Y Midnight Express’ - roedd y cyngor lleol yn cyflogi cariwr gyda throl pwrpasol i glirio golch ayyb, o'r tai nad oedd wedi ei cysylltu â phibellau carthffosaeth ac roedd hyn yn cael eu wneud liw nos - nid wyf yn cofio enw y cariwr, ond yr oedd yn un rhadlon braf ei fyd, yr oedd ganddo fodrwy aur yn un glust, peth anghyffredin yn y cyfnod yna i ddynion.
Yn olaf, darn arall pwysig i’r byd amaethyddol oedd y busnes llaeth. Yr oedd llawer ohonnynt yn y cylch, Harri Pritchard, Lewis Dorfil, Davies Bowydd, a Glyn Dairy i enwi ond ychydig. Byddant yn mynd i wahanol ffermydd i gasglu llefrith ac wedyn yn ei ddosbarthu i'w cwsmeriaid. Y llaeth yn y mwyafrif mewn poteli gwydr a oedd yn dal peint - ond cyn hynny byddant yn dod a fo mewn piser a defnyddio piser mesur peint, neu un hanner peint, i arllwys y llefrith i jwg y cwsmar.
Byddant allan ym mhob math o dywydd, diolch amdanynt ac am eu hymroddiad i'r gwaith.
---------------------------------------------
Dyma ail hanner erthygl a ymddangosodd yn rhifyn Ebrill.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod.
Llun -Paul W
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon