Cyfres Nia Williams
Priodasau
Mi roedd priodas yn achlysur cymdeithasol i’r holl ardal. Adnewyddwyd Capel y Rhiw tua 1948 a bu nifer o briodasau yn dilyn hynny. Mrs Griffiths (mam June, Marjory a Dilys) oedd gofalwraig y capel. Y hi oedd yn rhoi’r arwydd, drwy chwifio hances, i’r organyddes gael gwybod bod y briodferch wedi cyrraedd. Yr organyddion fyddai – Elwyn Roberts (fu’n Brifathro Ysgol y Moelwyn), Alwena Davies, Mari Ceinwen, Gwen (mam Raymond ac Emlyn) a Jinny Wilson (mam Evelyn). Gyda llaw mi roedd Rhiannon awr yn hwyr yn cyrraedd a hithau‘n byw dros ffordd i’r capel!
Heidiai’r plant i seddau yng nghefn y capel, a chwarae teg inni fuo na erioed ddim stŵr. Tra oedd y pâr ifanc yn arwyddo’r cofrestr yn y festri, caem ni gyfle i sefyll wrth y rheiliau a chael gweld y tynnu lluniau.
Y priodasau ydw i yn gofio ydi Rhiannon, Mari Ceinwen, Luned Pierce a Derek ac Alwena ac Elwyn. Tua diwedd y pnawn mi fyddai’r pâr priod yn gadael am eu mis-mêl ar y trên, Byddai clecars yn cael eu tanio fel bod y dref i gyd yn gwybod bod priodas wedi bod. Safem ni’r plant ger bont y lein yn chwifio.
Yn aml iawn digwyddai’r priodasau cyn diwedd y flwyddyn dreth, er mwyn rhyw fantais ariannol.
Angladdau
Bu dau angladd yn ardal Glanpwll pan oeddwn i tua 8 oed. Un oedd merch ifanc tua 20 oed, yn byw yn y tai steps ger pont y rheilffordd. Bu yn llesg am dipyn o amser. Er bod ein llenni ni wedi eu cau, mi welais yr arch yn cael ei chario i lawr y grisiau troellog cul. Dim ond hers a phawb arall yn cerdded. Mi gofiwch yn aml iawn y byddid yn cyhoeddi “cynhebrwng dynion yn unig” neu “cynhebrwng gwadd”.
Yr angladd arall oedd un hogyn tua 8 oed oedd o. Bu farw drwy ddamwain. Daeth lori lo, ac ar ôl dadlwytho neidiodd y gyrrwr i’r caban a chychwyn y lori, heb wybod ei fod o ac eraill wedi neidio, gan afael yng nghefn y lori er mwyn cael reid. Yn anffodus yn lle symud ymlaen, ysgytwodd y lori am yn ôl, collodd Robat afael yn y lori ac aeth olwyn y lori trosto. Cofiaf y Prifathro J.E. Williams (Dramodydd) yn rhoi teyrnged iddo yn y gwasanaeth – dweud mai bachgen mor annwyl oedd o. Hynny yn wir - mi roedd yn un o’n criw chwarae ni. Cawsom fel criw fynd i'w weld yn ei arch, edrychai fel pe bai yn cysgu. Ysgrifen ar ei wisg wen “Yr Arglwydd yw fy mugail…” Edrychai yn naturiol, yn fodlon dawel wedi “llithro i’r tawelwch mawr yn ôl”. Wnaeth y profiad ddim codi braw na rhoi hunllef i mi - byw a marw yn bethau naturiol, yn rhan o fywyd, a’i brofi o gyda’r criw. Y marw ddim yn codi ofn. Does gen i ddim cof am y cynhebrwng - mae’n siŵr ei fod ar adeg pan oeddem ni yn yr ysgol. Fel plant mi wnaethom gynnal aml i wasanaeth claddu i adar ac ambell anifail - a hynny yn drefnus, gydag urddas a difrifoldeb.
Fe wyddem bod marwolaeth yn y fro pan welem y saer William Griffiths, Y Nest yn cerdded heibio.
Y cynhebrwng mwyaf niferus, o ran cerddwyr yn dilyn yr arch oedd un Owen Dwyryd (ar lafar gwlad Joni Blawd, gan mai melinydd ydoedd.) Teulu wedi arbenigo mewn canu penillion a chwarae telyn. Pan oedd angladd pwysig fel hyn byddai’r heddlu (un!) yn atal y traffig a byddai’r fintai yn cerdded drwy’r dre i Manod (mynwent Bethesda). Byddai chwarelwyr yn colli hanner diwrnod (hanner stem) o gyflog.
----------------------------------------------
Addasiad o erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2018.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod.
(Llun- Paul W)
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon