Cyfres Les Derbyshire.
Ar ol crwydro o Dalywaenydd i Danybwlch ac yn ol i Dyddyn Gwyn, symudwn ymlaen i gyfeiriad Plas Tanymanod, ac wedyn Ty’n Drain, Pen y Bryn, Pen Cae a'r Fuches Wen, tyddynnod i bob pwrpas.
Yn gyfagos, ac i lawr y dyffryn, mae fferm Cwm Bowydd: hon mae'n debyg yw ffarm fwyaf y cylch. Ffarm ddefaid a gwartheg, â digon o dir pori ynddi, mae yn debyg iddi hefyd fod y ffarm hynaf y cylch a dywedir i'r tŷ gael ei adeiladu yn y 15fed ganrif.
Yn ôl i'r Manod ac fyny'r ffordd i Gae Clyd, cawn Tanybwlch a oedd yn cynnwys dau dŷ; nid oedd y rhain yn ffermydd ond ʼroedd stablau tu cefn iddynt. Morris Jones, ei wraig a'i ddau blentyn, Stanley a Ted oedd yn byw yn rhif dau. ʼRoedd ‘Moi Tanybwlch’, fel ei adnabyddir, yn arbenigwr ar geffylau a chredaf ar un cyfnod yr oedd yn gweithio yn y chwarel gyda'r ceffylau. Ceffylau oedd ei fyd, hardd oedd gweld ei waith adeg y cymanfaoedd pan oedd y ceffylau'n cael eu haddurno, a'r plant yn eistedd yn y lori - golygfa gwerth ei weld. Mae’n hawdd deall pam fod ei fab, Ted Breeze Jones, yn naturiaethwr.
Nepell o Danybwlch, ac ar y brif ffordd, mae Tŷ Gwyn, lle oedd y stablau tu cefn i'r adeilad. Tebygrwydd eto mai ceffylau at wasanaeth y chwareli a oedd yno, lle’u defnyddwyd i dynnu wageni o'r twll i'r felin.
Wedyn dilyn y ffordd i ben draw Cae Clyd, mae Bron Manod, fferm ddefaid eto gyda 'chydig o wartheg ac un ceffyl. John Davies oedd y perchennog - dyn cyfiawn a gonest, 'roedd effaith y Rhyfel Fawr arno a bu'n dioddef o be elwid yn ‘Trench Foot’, clwyf a oedd yn boen i lawer o hen soldiwrs wedi gorfod sefyll mewn dŵr yn y ffosydd am gyfnodau hir.
Ymlaen i Fryn Eithin: y teulu Thomas oedd yn byw yno, tyddyn arall. Y gŵr yn y chwarel, 'roedd mab y ffarm, Ceredig, yn cyd oesi a fi yn ysgol y Manod. Ffordd drol annifyr oedd yn cysylltu'r ffarm, a hefyd i'r ffarm fechan gyfagos sef Cae Canol; sut yr oeddynt yn cael bywoliaeth ynddi nis gwn. Yn anffodus ʼroedd gan Bob nam ar ei leferydd, a byddan ni, y plant, yn mynd ato yn yr haf i chwarae a helpu efo'r cynhaeaf gwair. Cyfagos i'r ffarm oedd ffarm y Tryfal yng ngylch Llan Ffestiniog.
I’r dde o Bron Manod mae dwy ffarm, sef Cae Du a Frondirion, ffermydd bach a'r gwŷr yn y chwarel. Ffordd drol oedd yn eu cysylltu nhw a'r brif ffordd ger Rhiwlas, ac yr oedd rhaid croesi'r rheilffordd a honno heb arwyddion, a gorfod fod yn ofalus pan yn croesi gyda throl a cheffyl. ----------------------------------------
Dyma ail hanner y bennod a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2018.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen 'Ffermydd Bro Ffestiniog'.
Llun -Paul W
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon