Er mod i wedi byw’n yr ardal ers dros ddeng mlynedd ar hugain, fum i ‘rioed yr ochr draw i Lyn Trawsfynydd tan yn ddiweddar iawn. Y ‘fitbit’ a gefais yn anrheg gan Alwena’r wraig ddechreuodd pethau. Ers tro bellach, rydw i’n cerdded o’r Caffi ger yr Atomfa i fyny at Argae Maentwrog (neu’r ‘Main Dam’ fel y cyfeiria llawer ati) - taith hynod bleserus a gymer ryw 35 munud i gerdded i fyny a’r un amser i ddychwelyd.
Ardal Pandy'r Ddwyryd, Llyn Traws. Llun -Paul W. |
Rhaid fu manteisio ar y tywydd braf a sych a gafwyd a mentro ymhellach, gan ddilyn y llwybr beicio drosodd am Moelfryn Isaf a Choed Rhygen, a’r ffordd dar am Dŷ’n Twll, Cae Adda a Thŷ’n Drain, cyn croesi’r bont bren hir ar draws y llyn tua Bryn ‘Sguboriau a phentre’r Traws. Yna dilyn y llwybr beicio sy’n cydredeg â’r briffordd a throi i lawr eto tua’r llyn gan ddilyn Nant Islyn.
Gweld meinciau a byrddau picnic yn cofnodi enwau’r hen ffermydd a ddiflannodd dan ddŵr y llyn pan foddwyd y Gors Goch ynghanol y 1920au - Brynrwy, Ty’n Ddôl a Phandy’r Ddwyryd - lle trigai Lowri William (1704-78), a fu’n gyfrifol ‘am blannu hadau gwir grefydd yn y parthau hyn gyntaf’.
Pan ddaeth yr Ŵyl Cerdd Dant i Ysgol Ardudwy, Harlech ym 1974, un o’r darnau a ddewiswyd ar gyfer yr unawd i rai dros 21 oed oedd cywydd J. H. Roberts (Monallt)- ‘Trawsfynydd’. Un o Fôn ydoedd yn enedigol, ond a fu’n gweithio ar y ffordd i Gyngor Sir Meirionnydd am nifer o flynyddoedd. Roedd Monallt yn gynganeddwr cywrain, yn Gymro pybyr, yn Gristion digymrodedd ac roedd ei gariad tuag at ‘y pethe’ yn angerddol. Ef oedd tad y diweddar Brifardd ac Archdderwydd Emrys Deudraeth (1929-2012).
Wrth edrych ar y llyn yn disgleirio dan heulwen Chwefror ac ar goncrid yr Atomfa’n y pellter, dychwelodd rhai o gwpledi o gywydd Monallt i’r cof:
‘O fewn i blwy’ Trawsfynydd
Glân deios yn swatio sydd,
A’r gwynt o’i oriog antur
Yn rhoi marc ar lawer mur;
Ond y ddyfal ardal hon
Ddyry fawredd ar Feirion ...
A’r un brys, yr hen Brysor
A lif o hyd i’r gloyw fôr –
Bydd hon dan wres plwtoniwm
Yn mynnu canu’n y cwm’.
Cefais gryn flas ar y cerdded, a dyma benderfynu mentro ar daith arall – o’r caffi at yr argae a throsodd i Landecwyn - gan ddilyn y ‘gamlas’ i’w phen a thros y crawcwellt i gyfeiriad Panwr a Nantpasgan, yna i lawr i gyfeiriad Caerwych a Llyn Tecwyn Isaf tua Bryn Bwbach. Roedd y golygfeydd yn odidog a gwelwn olion sawl hen furddun oedd yn dyst bod rhai wedi bod yn preswylio’n yr unigeddau yma mewn oes a fu.
Daeth englyn arall o waith Monallt i’r co’ wrth droedio glannau nant fechan a lifai i lawr o gyfeiriad Bryn Cader Faner – a honno mewn mannau wedi rhewi’n gorn:
‘Hi a wasgwyd i gysgu, - am ei dŵr
Mae dôl yn sychedu;
Stôr o ddawn dan ffenestr ddu
A’i pharabl wedi fferru.’
Wrth gerdded i lawr drwy Goed Caerwych, sylwais ar lwybr oedd yn arwain tuag Aberdeunant Uchaf. Cofiais mai yno’r oedd cartre’r pregethwr enwog gydag enwad y Wesleaid – David ‘Tecwyn’ Evans (1876-1957). Adroddais linellau ei emyn wrth brofi’r heddwch tangnefeddus o’m cwmpas:
‘Duw a Thad yr holl genhedloedd,
O! sancteiddier d’enw mawr;
Dy ewyllys Di a wneler
Gan dylwythau daear lawr;
Doed dy deyrnas
Mewn cyfiawnder ac mewn hedd’.
A’r pennill olaf:
‘Rhodded pobloedd byd ogoniant
Fyth i’th enw, Arglwydd Iôr;
Llifed heddwch fel yr afon,
A chyfiawnder fel y môr;
Doed dy deyrnas
Mewn tangnefedd byth heb drai’.
Clywn furmur y nant fechan islaw, ac wedi dod allan o’r coed ar gyrion Caerwych, gwelwn Afon Dwyryd, y Traeth Bach ac Aber Iâ’n banorama o’m blaen ynghyd â Chastell Harlech a Bae Aberteifi i gyfeiriad y de orllewin.
------------------------------------
Rhan o erthygl Iwan Morgan, a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2018.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon