21.5.18

Lloffion o’r Fro

Pytiau diddorol gan W. Arvon Roberts
 
Storm o fellt a tharanau

Teimlodd gymdogaeth Ffestiniog effeithiau y storm ddiweddar. Tarwyd dafad gan fellten, gan dynnu y gwlân oddi ar ei chefn a’i hochor; yna aeth i’r stabl, a lladdodd geffyl gwerthfawr, oddi yno aeth trwy dai Richard Jones a William Pearce: yn y tŷ olaf doluriwyd y fam ychydig ar ei throed, a niweidiwyd y dodrefn yn ddrwg. Ond, dihangodd y preswylwyr heb ragor o niwed. (1840)

Y llifeiriant diweddar
Yn Maentwrog, roedd llanc ifanc, tua deunaw oed, yn gyrru gwartheg ei feistr tuag adref drwy nant gyfagos, a thra roedd yn ymdrechu i’w gyrru trwodd, llithrodd i’r dŵr a chafodd ei gipio i ffwrdd gyda’r lli. (1841)


Pryddest fuddugol
Y Nos” oedd pryddest fuddugol Eisteddfod Cwmorthin Ebrill 1885, gan John G Hughes (Ioan Moelwyn). Gwerthwyd hi am dair ceiniog, ac yr oedd ar werth gan yr awdur yn Ffestiniog. Meddai yr awdur yn ei golofn ‘At y Darllenydd’:
“Wele fi am y tro cyntaf yn cyflwyno pryddest o’m heiddo i sylw. Os y darllenir mewn ysbryd beirniadol, hyderaf y cedwir mewn cof nad yw yr awdur eto ond pedair ar bymtheg oed”
Yn yr ymgais hon o eiddo y cyfaill ieuanc, tybiwn y gwelwn brawf o un a ddaw yn sicr os y pery yn fardd. Y beirniaid oedd Gwilym Eryri. (1885)

O gylch Ffestiniog
Llwyddodd Richard Jones, Ffestiniog, yn ei arholiadau fel meddyg, yng Ngholeg Caeredin. Ysgrifennodd draethawd ar ‘Re-current Typhoid Pneumonia'

Yng nghyfarfod cystadleuol Bethel, dyfarnwyd fod Côr Bryn Bowydd dan arweiniad W. Davies, wedi curo Côr Ffestiniog ar ganu, am wobr o £1.10 swllt. Côr Meibion Trawsfynydd enillodd y wobr o £2.8 swllt.

Dihangfa gyfyng gafodd merch saith mlwydd oed i Owen Hughes, Walter Terrace, rhag boddi. Syrthiodd y fechan i’r gronfa ddŵr oedd yn cychwyn tua Melinau Coed Bowydd, a thynnwyd hi i lawr i’r bibell; aeth trwy bibellau am rai llathenni a nofiai yn y cafn i gyfeiriad y felin lifio pan y gwelwyd hi gan Mrs Humphreys, Park Square, yr hon a’i thynnodd allan o’r dŵr. Cludwyd hi adref gan gymdogion, a gweinyddwyd arni gan Dr. Evans. Yr oedd wedi derbyn niweidiau ar ei chorryn a’i gwegil, ac amryw friwiau eraill. (1891)
-----------------------------------------

Ymddangosodd yn rhifyn Ebrill 2018

(llun Paul W)


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon