Cyfres Nia Williams
Lle mae 'Garmon House, Glanpwll heddiw, roedd yn arfer bod yna le deintydd.
Gŵr gydag atal dweud, mwstash bach, a thei bo oedd bob amser yn dwt, oedd Mr Williams. Car bach du (standard dwi’n meddwl?); yn aelod yng nghapel Annibynnwyr Bryn Bowydd.
Mi fyddai Mrs Williams wastad yn eistedd yn y 'bay-window' tu ol i leni net. Lle da i weld pawb yn pasio – rhai i Rhiw a rhai i Danygrisiau – pawb yn cerdded bryd hynny.
Mr Williams oedd y deintydd cyntaf i drin fy nannedd: hyn oherwydd fy mod wedi cael y ddannodd. Mi fyddai hyn cyn 1948 a dyfodiad yr NHS. Cofiaf na fynwn siarad drwy’r fin nos er mwyn cael cydymdeimlad, a byddwn yn cyfathrebu drwy sgwennu!
Mi roedd gan Mr Williams weithdy yn y cae tu cefn i’r ty- 'Cae Dentist'. Yma byddai yn creu dannedd gosod, ac mae’n rhaid bod ganddo lawer o gwsmeriaid, oherwydd mi fyddem ni yn cael digon o sialc (plaster paris) i ni chwarae 'London” (hop scotch).
Mi oedd gan Mrs Williams deulu yn y Penrhyn, cysylltiedig a Phont Briwat. Y peth oedd yn nodedig oedd eu bod yn byw mewn bynglo - doedd yna ddim bynglos yn y Blaenau – tai unllawr, ond dim bynglos.
---------------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2018.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen 'Briwsion'.
Llun -Paul W
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon