14.1.26

‘Tyrd a’r haul yn ôl efo chdi’

Roedd y diweddaraf o nosweithiau Cyfres Caban gan YesCymru Bro Stiniog yn wledd arall, ac fel dyweddodd Delyth, ein compère dawnus, wrth gloi’r noson, roedd yn enghraifft berffaith o’n harwyddair Adloniant; Diwylliant; Chwyldro!

Roedd hon yn noson dairieithog: Cymraeg, Norwyeg, a Saesneg. Ond ar ben hynny, roedd yn noson aml-gyfrwng hefyd, efo pytiau o ffilm, cwis, sgwrs a chân a barddoniaeth... ond hefyd, ein profiad cyntaf yn y gyfres, o ddawns greadigol!

Un o feibion y Manod, yr actor Gwyn Vaughan Jones a’i bartnar Siri Wigdel, oedd y siaradwyr gwadd ar y noson, ond cafwyd llawer mwy na hynny ganddyn nhw. Un o Norwy ydi Siri, ond mae wedi bod yng Nghymru ers dros 30 mlynedd, yn rhugl ei Chymraeg ac yn cyfrannu at ein diwylliant ers blynyddoedd. Roedd y cwis fer ar y dechrau am Llychlyn -neu Sgandinafia- a’r gwledydd Nordig, yn agoriad llygad, a Gwyn yn ei gweld yn ddifyr iawn cymharu efo sefyllfa Cymru yn cael ei rheoli gan wlad arall. Cawsom ein hatgoffa gan yr ystadegau NAD ydi Cymru’n rhy fach, NAC yn rhy dlawd ein hadnoddau, i fod yn annibynol! Sweden ydi’r fwyaf o’r gwledydd efo poblogaeth dros 10 miliwn; rhwng 5 a 6 miliwn sydd yn Norwy, Denmarc a’r Ffindir. Mae dros dair miliwn o bobl yng Nghymru wrth gwrs, ond ystyriwch Wlad yr Iâ a’i 380 mil o bobl! Ia, poblogaeth debyg i Gaerdydd, ond eto mae Gwlad yr Iâ ymysg gwledydd gorau’r byd o ran iechyd, addysg a chyfoeth GDP. Ac Ynysoedd y Ffaro wedyn, sy’n wlad annibynol efo llai na 60,000 o boblogaeth. Maen nhw’n cydweithio ag eraill o ran amddiffyn a materion tramor, ond yn hunanlywodraethol fel arall. Mae Cymru’n hen ddigon tebol hefyd!

 

Mae Gwyn yn amlwg wedi gwirioni efo Norwy. Yn debyg i Eryri o ran tirwedd er yn fwy creigiog; gwladwriaeth les anhygoel yno, ac yn cael ei hadnabod fel un o wledydd hapusaf y byd! Gwlad fodern iawn ond sy’n parchu ei thraddodiadau a’i diwylliant. Mwy felly nag ydym ni yma yng Nghymru.

Gwlad hir iawn ydi Norwy, dros fil o filltiroedd o’r de i’r gogledd, a’r gogledd yn teimlo fod ei hadnoddau’n cael eu hecsbloetio a’r de yn elwa ar eu traul. Roedd diffyg parch at y bobl Sámi, diwylliant cynhenid yr ardal Arctig, yn y gorffennol. Daeth Siri i sylweddoli ei bod yn rhannol o dras Sámi, ac mae hi’n gweithio ar sioe ar sail hynny. Gwelsom ffilm fer ohoni yn dehongli barddoniaeth trwy ddawns, mewn tirlun llawn eira -lleoliad efo dim ond 2-3 awr o olau dydd yr adeg yma o’r flwyddyn.

Yn ail hanner y noson, mi gawsom wledd gan Gai Toms, a’r cyfansoddwr-ganwr lleol ar ei orau o flaen cynulleidfa oedd yn gwrando’n astud a gwerthfawrogi pob gair a chân. Dechreuodd trwy ddiolch i Siri am ‘agor ei ddychymyg’ am y celfyddydau creadigol, a bod yn ddylanwad mawr ar ei yrfa (bu’n ddarlithydd iddo yng Ngholeg Meirion Dwyfor -darllenwch lyfr Gai, Llechan yn y Gwaed, am fwy o fanylion). Rhoddodd Gai deyrnged i’w fam hefyd, yn son am fynd i weld y wawr o ben y Manod Mawr, ond y lle yn niwl dopyn a dim byd i’w weld! Yn ystod y cyfnod clo aeth ati i addasu cân Galway Bay i sôn am y gorwel pell na welodd ei fam bryd hynny. “Os gewch chi gyfle, ewch i ben y Manod, ar noson braf o haf, does nunlla gwell”. Mae’n gobeithio gwelith y gân olau dydd ar albwm Y Filltir Gron sydd ar y gweill ganddo.

Roedd Gai yn chwerthin bod pobl Tanygrisiau byth yn gweld y machlud ‘chwaith, gan fod y Moelwyn yn y ffordd! ‘Tra bod pobl Manod a Llan yn llygad yr haul, mae’r gwybaid bach allan yn poenydio pobl Tangrish!’

Albym ddiweddara’ Gai ydi ‘Baiaia!’ ac mi gawsom ddatganiad arbennig o’r gân hyfryd Agorydd, lle mae’n galw: Tyrd â’r haul yn ôl efo chdi, agorydd sy’n dywyll ac oer hebddat ti. 

Yn ystod ei set, bu Gai’n cyfeilio i ddarlleniad angerddol o Under Milk Wood gan Gwyn, tra oedd Siri’n dehongli trwy ddawns ymysg y gynulleidfa! Cyflwynodd y gân Fiskesteinen (o albwm Mim Twm llai, Yr Eira Mawr) trwy egluro ei fod -tra ar ymweliad â Norwy, wedi clywed rhywun yn canu cân werin yno ar yr alaw hyfryd ddaeth yn adnabyddus yng Nghymru fel Llongau Caernarfon! Efo Siri’n adrodd a chanu Norwyaidd, cyfeiliodd Gai efo addasiad o’r alaw. Ewch i dudalen facebook YesCymru Bro Ffestiniog i gael blas. Diolch Gai am ofalu am y sain ar nosweithiau Cyfres Caban, ond diolch arbennig am ddiddanu efo casgliad syfrdanol hardd o ganeuon y tro hwn, a chrefft arbennig ar y gitâr. Braf oedd cael rhagolwg o gân newydd Nadoligaidd sydd ar y gweill, ac er iddo’i chyflwyno fel “cân anorffenedig” roedd yn werth ei chlywed yng nghysgod coeden nadolig fawr caffi Antur!

Cafwyd Tafarn yn Nolrhedyn i gloi, a phawb wedi eu plesio! ‘Melys Gybolfa’ go iawn o noson; adloniant rhagorol ar noson dywyll, aeafol. Diolch am gefnogaeth wych ein cynulleidfa, ac roedd yn braf gweld wynebau newydd y tro hwn hefyd. Cofiwch nad oes raid i chi fod yn aelod o YesCymru i fynychu’r gyfres, ac mae pob noson am ddim!

Nos Wener olaf Ionawr fydd y nesa’ efo’r awdur Simon Chandler- cyfaill Llafar Bro a llysgenad Stiniog ym Manceinion! Y delynores a’r gantores werin amryddawn Gwenan Gibbard, aelod o’r grŵp hynod boblogaidd Pedair, fydd yn canu ar y noson. Edrychwn ymlaen i’ch gweld eto. PW

- - - - - -

Ymddangososdd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2025

Hanes noson Dafydd Iwan 

 

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon