Tra’r oeddwn yn siop OXFAM ym Mhorthmadog yn ddiweddar, sylwais ar gwsmeriaid yn trafod eitem oedd ar werth gydag un o’r staff. ‘Roedd y gwrthrych yn debyg iawn i gwpan cystadleuaeth mewn eisteddfod. Bore Sadwrn canlynol, tra yn Siop Goffi Antur Stiniog yn y Blaenau, galwodd un o’r genod oedd yn gweini – “Tyrd i weld hwn”.
A beth oedd, ond yr eitem welais yn y siop elusen!
(Lluniau gan Dafydd Roberts) |
Arni ‘roedd y geiriau CWPAN CYSTADLEUAETH TYLLU BLAENAU FFESTINIOG, 1902. Cyflwynwyd y gwpan i arddangosfa Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog yn ddi-enw, ond diolch o galon i’r dieithriaid a wnaeth. Galwch i'w gweld hi yng nghypyrddau gwydr y Gymdeithas yn y siop goffi.
I geisio darganfod mwy am y gwpan, euthum â hi at Steffan ab Owain, arbenigwr ar hanes y Blaenau. Wedi ymchwilio, gwelwyd mai cwpan oedd ar gyfer enillydd cystadleuaeth tyllwyr chwareli ithfaen yn yr ardal. Yn anffodus tydi enw’r enillydd ddim ar y gwpan.
Dyma gyfieithiad gan Steffan o erthygl ym mhapur newydd ‘The North Wales Express’, 22 Awst 1902.
CYSTADLEUAETH DRILIO A SEICLO
Cynhaliwyd cystadleuaeth Pencampwriaeth Seiclo a Drilio gogledd Cymru ym mharc Blaenau Ffestiniog dydd Sadwrn, a hynny mewn tywydd dymunol. Drilio’r twll dyfnaf mewn gwenithfaen o fewn 15munud gyda dewis o 15 ebill oedd un gystadleuaeth. Enillwyd y wobr gyntaf, sef un gini a chwpan arian wedi ei hengrafio gan Evan Williams, Minffordd; yn ail – Richard Williams, Minffordd; a 3ydd – Morris Hughes, Llanaelhaearn.Yn y gystadleuaeth ar gyfer Chwareli Ffestiniog yn unig, yr enillwyr oedd – 1af John J. Davies, Manod; ail – E.W. Owen, Penrhyndeudraeth; a 3ydd – Jonathan Ellis, y Blaenau.
Yn y gystadleuaeth seiclo enillwyd y wobr gyntaf, sef cwpan arian a chloc hardd, gan Hugh Hughes, Penmachno, a’r ail wobr gan John Jones, y Sgŵar, Blaenau.
Enillwyd gwobr yn y gystadleuaeth tynnu rhaff dan dîm Chwarel Maenofferen; curwyd timau Chwarel Foty a Bowydd (Lord) a Llanaelhaearn ganddynt.
Dafydd Roberts
- - - - - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2023
'Cwpan Arall' -rhifyn Mehefin
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon