2.6.23

Stolpia- Carpedi Soar

Pennod arall gan Steffan ab Owain, y tro hwn am hen ddiwydiannau Rhiw a Glan-y-pwll, o rifyn Ebrill 2023

Mae ail-ddefnyddio adeiladau crefyddol eu naws at ddibenion eraill wedi bod yn digwydd ers blynyddoedd maith, ac nid yw’n syndod bellach gweld hen eglwysi a chapeli o un pen o’r wlad i’r llall wedi eu haddasu yn anedd-dai, neu’n siopau, neu’n weithdai. 

Profwyd hyn yn ein bro tros y blynyddoedd. A chofio bod tua thri dwsin o gapeli a phedair eglwys wedi bod ein plwyf yn y dyddiau a fu nid yw’n syndod bod nifer ohonynt wedi cau eu drysau gyda thrai ym myd crefydd yn ein gwlad.

Un o’r capeli cyntaf yn ein bro i gael ei droi yn ffatri oedd Capel Soar a berthynai i’r Wesleyaid. Codwyd hwn yng Nghae Baltic, Rhiwbryfdir, sef ar ochr y ffordd fach sy’n arwain drwyddo. Agorwyd y capel yn swyddogol ym  mis Tachwedd 1904 er bod gwasanaethau wedi eu cynnal yno ychydig fisoedd ynghynt. Pa fodd bynnag, er bod yn hen gapel bach wedi ffynnu  yn ei ddyddiau cynnar, credir iddo gau oddeutu 1939.


Bu’r capel yn wag am oddeutu deng mlynedd. Yna, ar ôl i’r Cyngor Tref a Phwyllgor Diwydiannau Gwledig Meirionnydd bwyso ar y Llywodraeth i sefydlu diwydiant ysgafn ar gyfer dynion anabl y cylch llwyddodd y Bwrdd Masnach i sicrhau adeilad y capel. 

Aed ati hi wedyn i gasglu arian, sef £5000, ac ar ôl apêl Mr H. Evans Jones, clerc y Cyngor Tref derbyniwyd £2000 yn lleol o fewn y ddwy awr gyntaf, ac o fewn rhai dyddiau roedd addewid am fwy o arian er mwyn cyrraedd y nod.

Enw’r cwmni a sefydlodd ffatri yn y capel oedd Fatima Industries Ltd a chynhyrchu carpedi a rygiau Indiaidd o ansawdd da oedd ei swyddogaeth. 

Agorwyd y ffatri ym mis Ebrill 1949 gan bwysigion y dre a chyfarwyddwyr y cwmni newydd. 

Cyflogwyd pump o ddynion yno i ddechrau, rhai ohonynt yn chwarelwyr yn dioddef o effaith clefyd y llwch (silicosis). Bwriedid cael lle i 25 arall o fewn ychydig fisoedd,  a’r gobaith am fwy yn ddiweddarach. 

Ymhlith y rhai a gyflogwyd yno ceid Mr Bob Jones a fu’n gweithio yn y chwarel am 43 o flynyddoedd, Mr Bob Pierce, Mr H. E. Jones, cyn filwr methedig, Mr Eric W. Jones, Mr James Hughes ac R. O. Davies, gyda Mr E. F. Chopin yn eu hyfforddi. 

Gwnaed y carpedi a’r rygiau o wahanol liwiau, megis llwydwyn, rhosliw, gwyrdd, llwydfelyn (beige) a lliw rhwd a dewis o’r mesurau canlynol: 4 troedfedd 6 modfedd wrth 27 modfedd; a 6 troedfedd wrth 27 modfedd.

Nid wyf yn sicr am ba hyd y bu’r ffatri yno, ond nid oes dwywaith amdani iddi roi hwb i’r rhai hynny a oedd wedi colli eu hiechyd ac nad allai wneud gwaith trwm. Rhywfodd credaf iddi ddod i ben cyn y flwyddyn 1961.

Tybed a oes rhai o’r darllenwyr yn cofio rhai’n gweithio yno? Bellach, y mae’r adeilad (sef yr hen gapel) wedi ei addasu yn gartref cysurus.


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon