11.4.18

Darn arall o hanes lleol

Erthygl gan Vivian Parry Williams

Daeth crair hynod i’m meddiant y dydd o’r blaen. Ei gael yn anrheg gan gyfeilles imi, sy’n arfer cerdded yr un llwybrau â minnau ar ambell daith Cymdeithas Edward Llwyd. Roedd Elinor yn gwybod fy mod yn ymwneud â’r Gymdeithas Hanes yma yn y Blaenau, ac yn meddwl y byddai gennyf ddiddordeb ynddo.

Roedd yn hollol gywir, a’r crair yn drysor arall o hanes y dref. Tysteb ydi’ o, a gyflwynwyd i ŵr a gwraig fu’n berchenogion ar westy’r North Western, neu’r ‘Ring Newydd’ ar lafar, ar eu hymadawiad â’r Blaenau. Mae’r dysteb wedi ei wneud o ledr caled iawn, a’r cas wedi ei addurno yn hardd, gyda phatrwm wedi eu hargraffnodi mewn aur o’i amgylch. Cawn y geiriau Saesneg, Presented to Mr & Mrs Westworth, hefyd mewn argraff  hardd aur yn y canol.

Oddi mewn gwelir, wedi ei osod mewn llawysgrifen liwgar, gain iawn y dysteb i’r ddau uchod. Yn y Saesneg eto, canmolir hwy i’r entrychion am eu hymddygiad, eu cyfeillgarwch a’u gwasanaeth wrth gadw’r gwesty safonol hwnnw yn y Blaenau am gyfnod o bum mlynedd. Ar y dudalen gyferbyn, cynhwysir hefyd gerdd ganmoliaethus, Saesneg, gan Bryfdir, ynghyd â chwpled bychan gwallus ei Gymraeg,
"Llwyddiant yn mhob dull iddoch, 
Lle bynnag, bynnag y bo’ch." 
Ar yr ochr chwith i’r ddogfen gosodwyd llun o’r gŵr, a llun o’r wraig ar yr ochr dde. Rhaid cynnwys y canlynol yn yr iaith yr ysgrifennwyd ef: Signed on behalf a circle of your well-wishers and admirers. Blaenau Ffestiniog, December 14 1899, gan gynnwys enwau’r sawl a drefnodd y dysteb - David Richards; Rob O.Jones; Lewis Thomas; W.E.Ffestin Williams; W.Vaughan Roberts a Richard Jones. 

Yr hyn sy’n fy nharo i yw i’r fath dysteb gael ei gyflwyno i bâr nad oeddynt ond wedi treulio pum mlynedd ymysg trigolion ‘Stiniog, a hynny trwy gadw busnes, digon llewyrchus y cyfnod, yma. Byddai’r dysteb wedi costio’n ddrud i’r rhai a’i dyfeisiodd, a’i chyflwyno i’r Westworths.

Pam tybed fod y ddau hyn yn haeddu clod o’r fath? Yn debygol, roedd y rhai sydd â’u henwau wedi’i arwyddo ar y dysteb yn gwsmeriaid cyson yn y Ring Newydd. Er chwilota tudalennau o bapurau newyddion y cyfnod, ni welais gyfeiriad o gwbl o enwau’r Westworths dros eu pum mlynedd yn y Blaenau. Yn rhyfeddach, ni cheir gair am hanes y cyflwyniad o’r dysteb urddasol, hardd i’r cwpl ar eu hymadawiad o’r dref. Beth bynnag y rheswm dros y cyflwyniad, bydd y dysteb yn cael lle haeddiannol yn arddangosfa’r Gymdeithas Hanes bob haf o hyn ymlaen. A diolchwn yn fawr iawn i Elinor am sicrhau bod darn bach arall o hanes ein tref ar gael ar gyfer dinasyddion heddiw a’r dyfodol.
-----------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2018

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon