Showing posts with label Trawsnewid. Show all posts
Showing posts with label Trawsnewid. Show all posts

2.5.24

Telyn Trawsfynydd

Telyn Deires am y tro cyntaf erioed yn Neuadd Trawsfynydd 

Pe bawn i’n gofyn ichi beth yw offeryn cenedlaethol y Cymry, mae’n debyg y basech yn enwi y delyn.
Mae’n bwysig inni felly warchod y traddodiad hwnnw. Mae'r rhan fwyaf o delynorion gwych yr ardal hon yn chwarae telynau pedal wrth gwrs, rydan ni’n meddwl am bobl fel Dylan Rowlands, Llan Ffestiniog, sydd wedi hybu canu’r delyn yn wych iawn dros y blynyddoedd diwethaf. 

Ond cafwyd noson unigryw a hanesyddol yn Neuadd Trawsfynydd yn ddiweddar pan oedd y grŵp gwerin Hen Fegin o ardal Maldwyn yn perfformio yn y Neuadd, gyda merch ifanc dalentog iawn, Cadi Glwys Davies yn cyflwyno alawon ar y delyn deires, maint llawn (Enillydd Cenedlaethol yn yr Ŵyl Gerdd Dant ddiwethaf) 

Gallech glywed pin yn disgyn wrth iddi drin y tannau mor gelfydd. Ac mae sŵn y delyn deires yn eithaf unigryw. I nifer o’r gynulleidfa hwn oedd uchafbwynt y noson hwyliog hon. Yn sicr roedd pawb yn mwynhau a gwerthfawrogi swyn y delyn gan y ferch ifanc. Roedd ei mwynhad amlwg hi o’r cyfle yma i ddiddanu cynulleidfa Trawsfynydd yn ysbrydoledig. Nid yn unig hynny ond cawsom flas o’i dawn yn clocsio yn ogystal! Y mae Cadi yn wyres i’r gôl-geidwad enwog y mae nifer ohonoch yn ei gofio, sef Dai Davies. Mae’n siŵr y byddai yn hynod falch iawn ohoni.

Cafwyd gwrandawiad ardderchog hefyd i grŵp nad oedd llawer yn gwybod amdano sef Hen Fegin.
Pedwar o ddynion a Cadi Glwys, yn canu a chyfeilio ar amryw o offerynnau gwerin. Roeddynt yn
cyflwyno amrywiaeth o ganeuon, gwreiddiol a thraddodiadol, rhai caneuon yn ddigyfeiliant a oedd yn
ymdebygu yn eu harmonïau i ganeuon Plygain. Neu, o bosib yn debyg i sain y grwp gwerin Plethyn.
Doedd hynny ddim yn syndod wrth gwrs gan fod dau o hen grwp Plethyn yn y grwp newydd hwn, sef
Roy Griffiths a John (Jac) Gittins. Y ddau arall oedd Rhys Jones, y ffidlwr, sydd yn nai i Idris Jones (neu Ken Rownd a Rownd fel yr adnabyddir i lawer) sy’n ffidlwr o fri hefyd a Bryn Davies ar yr acordion, sy’n digwydd bod yn dad i Cadi Glwys Davies!

Mae’n braf cael hybu grwpiau newydd fel hyn, tydi Hen Fegin ddim yn cael llawer o sylw ar y radio
a theledu hyd yma, ond yn amlwg yn grwp o safon. TrawsNewid oedd yn gyfrifol am y trefnu a braf
oedd cael paned a chacen (cynnyrch cartref!) ar y canol, y cacenni wedi eu cyfrannu gan bump o ferched caredig y fro. Hyfryd dros ben!! 

Roedd hon yn noson hyfryd a chartrefol, a hanesyddol hefyd; roedd y rhai a ddaeth i’r noson wedi cael boddhad mawr, nifer o gefnogwyr di-Gymraeg yn bresennol hefyd, sy’n hynod bwysig i gymhathu’r bobl ddŵad i’r gymuned. Efallai fod y noson yn haeddu cynulleidfa helaethech ac mae’r rhai oedd yn methu dod wedi cael colled – ddim dwywaith am hynny. Ond yn sicr roedd y rhai a fynychodd yn mynd i gofio am y noson hon am amser hir iawn.

- - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2024

17.3.17

Bro Ffestiniog ar Flaen y Gad

Rhan o erthygl Ceri Cunnington, a ymddangosodd yn rhifyn Chwefror 2017.

Mae’r ardal hon wedi gweld nifer o welliannau pwysig yn y cyfnod diweddar, megis datblygiad canol tref Blaenau a thwf gweithgaredd nifer o fentrau cymunedol. Yn gynyddol mae ardaloedd eraill yn edrych gyda chryn edmygedd ar yr hyn sy’n digwydd yma.

Llun -Paul W

Ym Mro Ffestiniog, bellach, mae sawl menter gymunedol lwyddiannus, yn cynnwys Antur Stiniog, Trawsnewid, Seren, Pengwern Cymunedol, CellB/Gwallgofiaid, GISDA, Dref Werdd,  Canolfan Hamdden Ysgol y Moelwyn, OPRA Cymru, Deudraeth Cyf, Caban Bach Barnardos ac yn y blaen. Erbyn hyn mae’r mentrau yma wedi dod at ei gilydd er mwyn cydweithio er lles yr ardal gyfan, dan ymbarel (neu barasôl!) Cwmni Bro Ffestiniog.

Gwnaeth Partneriaeth Cymunedau’n Gyntaf Bowydd a Rhiw (CG) gyfraniad allweddol at sefydlu a chynnal sawl menter, corff , mudiad, cwmni, prosiect a gweithgaredd cymunedol. Rhoddodd y cynnydd mewn mentrau cymunedol wedd newydd i’r hen draddodiad cyfoethog o weithgaredd cymdeithasol ym Mro Ffestiniog. Mae’r datblygiadau cyfoes yn rhan o broses o drawsnewid diwylliannol yn yr ardal; o ail gynnau’r meddylfryd o wneud pethau trosom ein hunain ac o fentergarwch cymunedol newydd.

Gan edrych i’r dyfodol mae sawl gwers yn codi o brofiad CG. Un o’r pwysicaf, o safbwynt y gymuned, yw’r angen i gryfhau cyfathrebu gydag, ac ymysg aelodau’r gymuned, cynyddu cyfranogiad y gymuned a chydlynu a chydgordio’n well y gwaith y mae gwahanol asiantaethau a mentrau gwirfoddol a chymunedol yn ei wneud.

Mae enghreifftiau lu o asiantaethau cyhoeddus, elusennol a gwirfoddol yn gweithredu ar wahân, yn ôl eu hagenda eu hunain heb gyfathrebu na chydweithio yn ddigon effeithiol gydag eraill na chyda’r gymuned. O safbwynt datblygu’r gymuned mae angen strategaeth integredig i daclo materion megis tlodi plant, ffyniant economaidd, gwella iechyd, datblygiad diwylliannol ac addysgol, gwarchod yr amgylchedd ac yn y blaen.

I fod yn fwy effeithiol rydym angen cydweithio effeithlon rhwng asiantaethau, rhwng mentrau cymunedol, gyda’r gymuned ac o fewn y gymuned. Dyna pam y sefydlwyd Cwmni Bro Ffestiniog fel modd i gychwyn ateb yr angen hwn yn ogystal â sbarduno a chynnal mentergarwch cymunedol pellach.

GWELEDIGAETH CWMNI BRO FFESTINIOG
Mae’r Cwmni Bro wedi dechrau gweithredu fel rhwydwaith cymunedol sy’n cysylltu’r gwahanol fentrau cymunedol. Nôd y Cwmni yw gwella cyfathrebu, hybu cydweithio rhwng mentrau ac asiantaethau, cydgordio gweithgareddau, gwneud gwell defnydd o adnoddau, cynyddu cyfranogiad cymunedol yn ogystal â hybu gweithgarwch a mentergarwch cymunedol a gwirfoddol. Hyn i gyd yn cynnal ac adeiladu ar y broses o adfywiad cymunedol a thrawsnewid diwylliannol sydd eisoes ar waith yn yr ardal.

Gellir adeiladu ar brofiad blaenorol Partneriaeth CG o sbarduno menter gymunedol. Er bod prif ffocws CG wedi bod ar ardal ddaearyddol benodol wrth edrych i’r dyfodol, mae’n eglur bod angen strategaeth integredig ar gyfer yr ardal gyfan. Mae gofyn bod yn hyblyg wrth geisio pennu ffiniau’r ardal. Rhagwelir mai’r uned ‘naturiol’, yn fras, yw dalgylch Ysgol y Moelwyn a bod hon yn ardal ddaearyddol synhwyrol o ran maint ac o ran ymwybyddiaeth a thraddodiad cymunedol. 

Bydd  angen staff a gwirfoddolwyr profiadol i hwyluso proses gyfranogol o gynllunio strategol ar gyfer yr ardal. Maes o law, pan fydd y rhwydwaith a’r cwmni wedi’u sefydlu’n gadarn, a chynllun strategol yn ei le, y nôd yw y bydd y cwmni yn datblygu i fod yn gorff hunan-gynhaliol a fydd yn cynnal ei staff proffesiynol ei hun.

SWYDDOGAETH CWMNI BRO FFESTINIOG
Mater i’r gymuned fydd penderfynu ar union gyfeiriad a swyddogaeth y Cwmni Bro ond mae nifer o gamau y gellir eu rhagweld. Fe’u rhestrir isod:-

(1)    Cyfathrebu, trafod a chenhadu yn lleol gydag asiantaethau a’r gymuned ynglŷn ag union bwrpas, ffurf a swyddogaeth y Cwmni. Bydd angen trafod yn ofalus natur perchnogaeth a rheolaeth gymunedol y cwmni yn ogystal â pherthynas effeithiol rhwng mentrau cymunedol yr ardal.
(2)    Hwyluso trafodaeth a phenderfyniadau ar gyfansoddiad a swyddogaeth y cwmni.
(3)    Sefydlu trefn effeithiol ar gyfer cyfathrebu a rhannu gwybodaeth rhwng asiantaethau, mentrau a’r gymuned. Gosod yn ei le ddulliau ymgynghori a threfn ar gyfer cyfranogiad y gymuned. Bydd datblygu dulliau digidol effeithiol o gyfathrebu yn allweddol yn hyn o beth.
(4)    Hwyluso ennyn llais y gymuned ynglyn â’r diffygion a’r cyfleoedd o ran datblygiad yr ardal.
(5)    Llunio, mewn modd cyfranogol, gynllun cymunedol integredig a hyblyg ar gyfer yr ardal.
(6)    Ymchwilio a datblygu dulliau o hybu a hyrwyddo menter gymdeithsol a datblygu cymunedol.
(7)    Datblygu a marchnata Cwmni Bro fel cwmni cydweithredol elusennol a democrataidd yn gyfrifol am hyrwyddo datblygiad cymunedol yr ardal.
(8)    Chwilio am ffynonellau cefnogi a chyllido’r Cwmni Bro, y mentrau sy’n aelodau o’r Cwmni yn ogystal â mentrau newydd yn yr ardal.

Mae llwyddiant Cymunedau’n Gyntaf yn yr ardal ynghŷd â’r gweithgaredd cymunedol newydd yn y fro yn golygu bod nifer o frodorion wedi ennill profiad a hyder fel gweithwyr datblygu cymunedol ac eraill fel gwirfoddolwyr. Mae hyn yn adnodd amhrisiadwy ar gyfer y dyfodol.

Ond yr adnodd pwysicaf yw pobol y fro a’n diwylliant cymunedol. I raddau helaeth mae’r cyfrifoldeb am ein dyfodol yn ein dwylo ni. Mae cyfle yn yr ardal hon i ni greu dyfodol amgylcheddol, economaidd, a chymdeithasol yn codi o’r gorau yn ein traddodiad diwylliannol. Medrwn arloesi a chreu esiampl y gall cymunedau eraill ei efelychu.

Dyma’r her i ni bobol Bro Ffestiniog!

Croeso i chi anfon sylwadau ar y datblygiadau yma.   Cyswllt:  <cericunnington@yahoo.co.uk>

8.12.16

Chwarae Trên?

Casgliad o eitemau diweddar, a hŷn, ar thema'r hen reilffordd GWR.

Cymdeithas Reilffordd Trawsfynydd a Blaenau Ffestiniog.
Yn ystod y misoedd diwethaf ffurfiwyd y cwmni hwn yn un swydd er mwyn ail agor y darn rheilffordd rhwng Blaenau a Traws. Bydd hon yn gamp eithriadol a hynny er mwyn gweld trên yn rhedeg dros y cledrau hyn o fewn y flwyddyn! Mae hyd y rheilffordd yn saith milltir a chadwyd y lein o’r Atomfa i’r Blaenau ar agor am flynyddoedd ar ôl cau i'r cyhoedd ym 1960.

Un o’r cefnogwyr amlycaf, ac ef sydd wedi bod yn siarad gyda’r wasg ar ran y cwmni newydd, ydy brodor o Lundain fu ers saith mlynedd yn ceisio cael trwydded i fedru mynd ar y rheilffordd a chlirio’r tyfiant sydd wedi cau dros y lein mewn sawl lle dros y blynyddoedd. Bu'n son am ei gynlluniau ac roedd yn gweld y rheilffordd fel atyniad ymwelwyr ardderchog yn yr ardal.

Ar safle gwe'r cwmni mae’r Gymraeg unwaith eto yn cael ei mwrdro … pam na fedr pobl ddangos mwy o barch i’r iaith a chael pobl cymwys i gyfieithu?!

Ond nid hwn oedd yr unig gynllun i fynd a bryd nifer o selogion ail agor y lein …soniwyd yn Llafar bedair blynedd yn ôl am y cynlluniau i agor Velorail ar y lein a chafodd y prosiect hwnnw gryn sylw yn y wasg ac yn lleol. Ond be sydd wedi digwydd i’r cynllun hwnnw tybed?

Agorwyd y rheilffordd o’r Blaenau i’r Bala yn 1883 ac fe’i caewyd i’r cyhoedd ym 1960 a boddwyd rhan o’r lein i greu argae ddŵr fel rhan o gynllun Tryweryn.


Be’ ydy barn darllenwyr Llafar Bro am y digwyddiadau diweddar yn ymwneud â’r lein i Traws?
- - - - - - - - - -

Ymddangosodd yr uchod yn rhifyn Hydref 2016. Daeth ymateb erbyn rhifyn Tachwedd, gan deulu o’r Blaenau -dyma bytiau o'u llythyr:

Geiriau go allweddol yn yr erthygl ydi y byddai rhedeg trên ar y lein yn "atyniad ymwelwyr ardderchog yn yr ardal".

Ia, gwych i ymwelwyr efallai, ond be amdanom ni'r trigolion?
Rydym ni fel teulu'n meddwl y byddai creu llwybr beicio a cherdded yn fwy gwerthfawr o lawer.

Dyna oedd barn y mwyafrif llethol yn y cyfarfod cyhoeddus yn Ysgol y Moelwyn fis Gorffennaf y llynedd hefyd, lle trafodwyd dyfodol y lein.

Dychmygwch: dros chwe milltir o lwybr beicio gwastad yn Stiniog! Beicio diogel, di-draffig i deuluoedd ac unigolion. Ac i dwristiaid hefyd, os hoffen nhw!

Wrth gwrs, anwybyddu dymuniadau pobl leol wnaeth Network Rail, ond hoffwn ddiolch i Antur Stiniog am eu hymdrechion dros flynyddoedd hir o drafod rhwystredig efo'r awdurdodau, i geisio cael defnyddio'r lein at fudd cymunedol.
- - - - - - - - - -


 
Yn rhifyn Tachwedd 2011, cafwyd hyn:

Velorail Stiniog
Mae'r cerbyd cyntaf fydd yn cael ei ddefnyddio yn y cynllun Velorail rhwng Blaenau a Traws wedi cyrraedd swyddfa Antur Stiniog yn y Blaenau. Hwn fydd y cynllun Velorail cyntaf yn y wlad. Mae Antur Stiniog yn gobeithio y bydd y cynllun yn gweld y cerbydau cyntaf ar gyfer ymwelwyr ar yr hen reilffordd tua diwedd yr haf nesaf.

Cerbyd velorail Antur Stiniog
Defnyddir y cerbyd pum sedd sydd wedi cyrraedd y swyddfa yn y treialon i ddarparu'r ffordd fel petai. Mae'r math hwn o velorail eisoes yn boblogaidd yn Yr Iseldiroedd, Ffrainc a'r Almaen. Os chwiliwch ar y we am St Eulalie-de-Cernon, sef pentref bychan ger tref Millau yn ne Ffrainc, gallwch weld lluniau a gwylio ffilmiau o bobl yn defnyddio'r velorail ac  fe gewch weld sut maent yn gweithio a chymaint mae pobl yn eu mwynhau.

Yn ôl Ceri Cunnington maent yn gobeithio cael y cerbyd ar y trac cyn y Nadolig i weld sut mae'n gweithio ac ar hyn o bryd mae Antur Stiniog yn edrych ar sut i ariannu'r prosiect. Yn ôl Ceri bydd yn gweithlo gyda Rheilffordd Ffestiniog, Coleg Meirion-Dwyfor ac hefyd ysgolion lleol i gwblhau'r prosiect.

Defnyddir pum cerbyd i ddechrau a bydd y nifer yn cynyddu yn ôl y diddordeb a'r defnydd. Mae Antur Stiniog yn credu y dylid gweld yr hen reilffordd fel adnodd gwych i ddenu ymwelwyr i'r dref ac ar hyn o bryd mae'r adnodd hwnnw yn wastraff llwyr.

Gwyliau iach (ffasiynol lawn y dyddiau hyn yn ôl y son!) fydd y velorail yn ei annog ac wrth gwrs bydd golygfeydd gwych i dynnu sylw pan fo’r coesau'n diffygio! Felly, does dim angen trydan nac olew, na phetrol neu ddisel; dim ond grym traed a’u gallu i bedalu bydd ei angan ...

Bydd Antur Stiniog yn cynnal dyddiau lle bydd pobl yn medru helpu i glirio'r cledrau (mae drain ac ysgall wedi meddiannu'r cledrau mewn mannau) Mae hon yn fenter gyffrous iawn a gwych o beth fod Antur Stiniog wedi cael gweledigaeth fel hon. Bûm yn St.Eulalie ddwy flynedd yn ôl a gallaf dystio at faint mae’r dref fechan honno wedi elwa o gael y Velorail ac roedd y lle yn haid o ymwelwyr yno, ynghanol mis Awst does dim digon o gerbydau oherwydd y niferoedd… a gobeithio y caiff velorail Stiniog yr un broblem yn y man! TVJ

- - - - - - - - - -


Yn ôl yn 2001 cafwyd y darn isod mewn erthygl dan y bennawd 'Newyddion yr Amgylchedd':

Lein Traws
Cyhoeddwyd adroddiad terfynnol cwmni ymgynghorwyr Atkins ar gyfleon datblygu’r rheilffordd rhwng y Blaenau a Thrawsfynydd rwan bod yr atomfa wedi gorffen cludo tanwydd ar ei hyd.  Comisiynwyd hwn gan Gyngor Gwynedd, Cyfle Ffestiniog a Thrawsnewid i gynnal asesiad manwl ar gostau a gwerth economaidd sawl opsiwn, er enghraifft cludo nwyddau, trên ymwelwyr arall neu lwybr cerdded a beicio.

Ar ôl pwyso a mesur, mae’r adroddiad yn argymell yr olaf, sef llwybrau hamdden, fel yr opsiwn sydd debycaf o ddod a budd i’r ddwy gymuned. 

Gyda datblygiadau llwybrau beicio cyffrous ar y gweill gan Trawsnewid, a datblygu llwybrau troed yn y Blaenau, dyma gyfle gwych i ddenu rhywfaint o wariant i’r fro o’r ddwy ardal weithgareddau agored poblogaidd hynny: Coed y Brenin a Betws. Bydd y cyngor sir yn ystyried yr adroddiad rwan, felly ewch ati i sicrhau bod eich cynghorwyr yn cefnogi’r adroddiad.

Taflen grynodeb o adroddiad manwl WS Atkins Consultants Ltd (Assessment of the Development Oppoortunities on the Blaenau Ffestiniog Railway Line. Final Report. Mawrth 2001)
- - - - - - - - - -

Be ydi'ch barn chi? Gadewch i ni wybod.