19.2.22

Rhod y Rhigymwr- Gwilym Ystradau a Gwilym Ychain

Cyfres lenyddol Iwan Morgan

Rydw i wedi cadw pob ysgrif a luniais ar gyfer ‘Rhod y Rhigymwr’ o’r dechreuad, ac yn ddiweddar, cefais amser i edrych yn ôl ar yr hyn a gyflwynais. Yn 2015*, un o’r hen feirdd lleol a gafodd sylw oedd Rowland Walter, neu, a rhoi iddo’i enw barddol, ‘Ionoron Glan Dwyryd’ [1818-94] ... gŵr a anwyd yng Nghefn-faes, Congl-y-wal, ac a gladdwyd ym Mynwent Cedar Grove, Vermont, Unol Daleithau’r America. Yn ysgrif Ebrill 2015, cyfeiriais at awdl a gyfansoddodd ... ‘Crwydriaid Awen’ - sy’n disgrifio’i hiraeth am ei henfro yma’n ‘Stiniog. Wrth ddyfynnu un englyn o’r awdl, nodais ei fod yn cyfeirio at ‘Gwilym Ystradau’ o Danygrisiau:

Tynnu gwres mae Tanygrisiau - o’r haul
     I fron ei llechweddau;
Llu yn hon sy’n llawenháu,
Ystrŷd ‘Gwilym Ystradau.’
Er holi, chefais i ddim gwybodaeth am bwy oedd ‘Gwilym Ystradau.’ Ond wrth chwilota am un ‘Gwilym’ arall arferai fyw yn Nhanygrisiau, ac a briododd berthynas i’m nain, mam fy nhad, dyma ganfod y wybodaeth ganlynol...

Ganwyd William Williams yn Llwyn Gell, Rhiwbryfdir, tua 1813. Cafodd ei fagu gan ei ewyrth, William Jones, yn y Tŷ Newydd, Tanygrisiau. Prin iawn oedd manteision addysg yn ystod dyddiau ei ieuenctid, ac fel sawl un o’i gyfoedion, bu’n rhaid troi am y chwarel i geisio gwaith. Gwnaeth ddefnydd da o’i oriau hamdden i gasglu gwybodaeth a diwyllio’i hun. 

Fel ei gyfaill, Rowland Walter, dysgodd y cynganeddion, ac ystyrid ef yn fardd pur fedrus yn y gymdogaeth. Bu’n byw mewn sawl man yn Nhanygrisiau, ond am gyfnod byr, aeth i fyw i Glan yr Afon Ddu, gerllaw Chwarel Moelwyn. Dyma fel y disgrifia unigrwydd y lle hwnnw:

Mudais, nid wyf yn gymydog - yn awr
     I neb ond y llwynog;
I ryw fan ger y fawnog
Lle ni chân tylluan na chog.
Wedi priodi â gwraig o’r enw Mary, bu’n byw yn rhesdai Wrysgan Fawr, Tanygrisiau. Dyma’r tai y cyfeiria Ionoron Glan Dwyryd atyn nhw fel ‘Ystrŷd Gwilym Ystradau.’ 

Bu Gwilym yn cyfeillachu â llawer o feirdd eraill ei ddydd, rhai megis Moelwyn Fardd a Gwilym Peris. Enillodd sawl gwobr mewn eisteddfodau lleol. Cerddi ar destunau nodweddiadol yr oes oedd y mwyafrif o’r rhai y derbyniodd wobrau amdanynt ... ‘Cywydd i’r Argraff-wasg', Awdl - ‘Bywyd ac Angau y Gwaredwr’, Awdl Goffa ‘I Robert Lloyd, Plas Meini, Ffestiniog’ ac Awdl - ‘Gwaredigaeth Israel o’r Aifft, dan law Moses'.

Ymhlith yr hyn a ddarllenais o’i waith, mae yna englyn Saesneg - un byrfyfyr, a ysgrifenwyd ar ran goruchwyliwr un o Chwareli ‘Stiniog. Yn ôl yr hanes, daeth Gwilym ar ei draws yn y Grapes, Maentwrog. Roedd y goruchwyliwr yn awyddus i gael gwydraid o frandi, a chan mai Saesnes oedd y forwyn a weinyddai yno, dyma ofyn i Gwilym weithio englyn sydyn i ofyn iddi am y ddiod, a hynny’n yr iaith a ddeallai:

Fair waiter, if you are witty, - now come
     And make haste, my lady;
Now, fair maid, do run for me
Yonder, for a glass of brandy.
Bu Gwilym Ystradau farw’n 48 oed, a chafodd ei gladdu ym Mynwent Llan Ffestiniog ar 2il Tachwedd 1861. 

Fel rhan o’m hymchwil i hanes fy nheulu ... ‘Edrych tua’r gorffennol’, deuthum ar draws ‘Gwilym’ arall oedd yn dipyn o fardd gwlad. Ganwyd William Owen Evans ym 1828, yn fab i Ifan Ifan y Gof, Trefeinion, a’i briod, Siân William. Ar 25 Tachwedd 1853, priododd Gwen Morris, merch William Morris, Tanygrisiau a’i briod, Catherine Griffith Evan [a anwyd yn Tanrhiw, Beddgelert]. Roedd Gwen [1831-1906] yn gyfyrdres i’m hen nain, Elen William Parry [1841-89], Beudy Coed, Nantmor. 

O chwilota’n rhai o bapurau newydd y cyfnod, ceir fod William O. Evans, neu, a rhoi iddo ei enw barddol ... ‘Gwilym Ychain,’ yn ennill gwobrau yn yr eisteddfodau neu’r ‘cyfarfodydd diwylliannol’ a drefnwyd gan chwareli’r ardal yn ystod ail hanner y 19eg ganrif. Yn Awst 1872, fe’i cawn yn fuddugol am weithio englyn i’r ‘Water Ballast’ a chywydd i  ‘Afon Iorddonen’ yng Nghystadleuaeth Lenyddol y Meistri Holland. Yn Eisteddfod Ffestiniog, a gynhaliwyd yn Assembly Rooms y Blaenau ar y Llungwyn 1874, daeth yn fuddugol am gyfansoddi pryddest - ‘Cymylau’, dan feirniadaeth Hwfa Môn. Derbyniodd bunt a chweugain o wobr. Gwasanaethodd fel beirniad adrodd o bryd i’w gilydd hefyd.

Fel ei dad o’i flaen, gof oedd Gwilym Ychain. Bu farw ar 3ydd Awst 1882, a’i gladdu ym Mynwent Llan. Ar ei garreg, mae englyn o’i waith ei hunan:

‘William Owen Evans [Gwilym Ychain], Bodychain, Tanygrisiau’ ... fu farw yn 53 oed ...

‘Drwy guro caf drugaredd - a’i ras Ef
     Yn drysor diddiwedd;
Da gennyf fod digonedd
I ddyn crin ar fin ei fedd.’
Bu Gwen Evans, ei briod, farw ar 1af Ebrill 1906, yn 75 oed. 

- - - - - - 

Rhan o erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2022

Ionoron Glan Dwyryd (colofn Iwan o 2015)


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon