14.2.22

Pwy Oedd y Rhain?

Ydach chi wedi clywed am John Black o Dŷ’n y Maes?  Neu John Thomas Owen, Bryn Tirion?  Neu beth am Oscar Phillips, Llwyn?

Wel, mae eu henwau wedi eu hysgrifennu ar y Gofgolofn yn Ffestiniog, ymhlith y tri deg naw o hogiau’r ardal gollodd eu bywyd yn y Rhyfel Mawr, 1914 i 1918.

Cofgolofn y Llan. Llun gan Paul W

Yn eu plith hefyd mae Arthur Price ac yr oedd nith iddo, Susan Salter o Norwich, yn awyddus i wybod rhagor amdano.  Aeth i weld man ei fedd yn Proven, Gwlad Belg, fwy nag unwaith a gwnaeth ymchwil i hanes Arthur ac i hanes y bechgyn eraill sydd a’u henwau ar y Gofgolofn.  Ysgrifennodd Susan lyfr Saesneg, ‘Ffestiniog Remembers’ i gynnwys peth o’u hanes a’i gyflwyno mewn arddangosfa yn Neuadd Ffestiniog ar ganmlwyddiant diwedd y Rhyfel Mawr yn 2018.  Nid oedd raid iddi fy mherswadio innau, fel nith arall i Arthur Price, i’w helpu ac i gyfieithu ei llyfr i Gymraeg.

Gwyddom o’i ddarllen i ddau ddeg tri ymuno â’r Royal Welsh Fusiliers gyda dau yn ymuno â Chorfflu Feddygol y Fyddin.  Gyrrwyd rhai i Salonica yng ngwlad Groeg, eraill i Gallipoli yn Twrci.  Roedd afiechydon yn frith yno a buont farw o’u clwyfau neu o falaria neu dwymyn farwol, un bachgen yn marw o fewn dyddiau wedi cyrraedd.

Ond i Ffrainc neu wlad Belg yr aeth y mwyafrif ac yno yng Nghoed Mametz, yn y Somme, Passchendaele, Ypres neu faes brwydr arall yno y cawsant eu lladd.  Gwyddom fan beddrod rhai o’r hogiau ond does gan eraill ddim bedd i ddangos yn union lle claddwyd hwy.  Ym mynwent y pentref y claddwyd un neu ddau ac ar gopa Pen Ffridd ar dir Bryn Llewelyn y claddwyd un arall, sef y Barwn Newborough, ef o afiechyd a gafodd yn Ffrainc.

Os am wybod mwy am gefndir yr hogiau, ewch i Amgueddfa’r Ffiwsilwyr yn y Blaenau.  Cewch edrych ar gopi o lyfr Susan Salter a gweld llun pob un o’r tri deg naw milwr ac un arall fu farw o’i glwyfau yn 1923.

Neu beth am ddarllen profiadau’r rhyfel gan Tom Price, brawd Arthur Price?  Mae copi o’i lyfr, ‘Rhywle yn Ffrainc’, hwnnw hefyd yn yr Amgueddfa.
Lonna Bradley
- - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol (heb y llun) yn rhifyn Rhagfyr 2021.   

Cofiwch am gyfres fanwl Vivian Parry Williams: Stiniog a'r Rhyfel Mawr

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon