Showing posts with label refferendwm. Show all posts
Showing posts with label refferendwm. Show all posts

12.10.19

Y Gair Olaf o Bwyllgor Amddiffyn Ysbyty Coffa Ffestiniog

Mewn cyfarfod ar Orffennaf 22 eleni, daethpwyd i’r penderfyniad i ddod ag ymgyrch Pwyllgor Amddiffyn yr Ysbyty Coffa i ben, a hynny bedair blynedd ar ddeg a mwy ar ôl y cyfarfod cyntaf yn 2005. Yr hyn a arweiniodd at ffurfio’r Pwyllgor yn y lle cyntaf oedd penderfyniad Bwrdd Iechyd Lleol Gwynedd i gau y Clinig Ffisiotherapi ar Ffordd Tywyn ac yna, ymhen amser, i’w ail leoli yn ward y dynion yn yr Ysbyty Coffa, a thrwy hynny greu esgus dros wneud i ffwrdd â’r gwlâu cleifion oedd yn fanno.


Ond dŵr o dan y bont ydi pob dim felly bellach ac mi fyddwch chi, bobol y cylch, yn cofio helyntion y blynyddoedd i ddilyn – y rali brotest fawr (uchod) pan fu mil a mwy ohonoch yn gorymdeithio drwy strydoedd y dref; llond bws wedyn yn teithio i lawr i’r Bae yng Nghaerdydd i ymuno yn y brotest genedlaethol yn erbyn y bwriad i gau nifer o ysbytai yng Nghymru, a Brian Gibbons, y Gweinidog Iechyd ar y pryd, yn gwrthod dod allan i’n hwynebu ni.


Trefnwyd sawl deiseb gennym hefyd dros y blynyddoedd ac roedd eich cefnogaeth i bob un o’r rheini hefyd yn anhygoel. Ac yna’r cyfarfod cyhoeddus (uchod) yn Ionawr 2015 i drefnu refferendwm a fyddai’n galw ar y Betsi a’r Llywodraeth yng Nghaerdydd i ail agor yr Ysbyty a gwarchod gwasanaethau pwysig eraill yn yr ardal.

A phan gynhaliwyd y refferendwm ar Chwefror 15fed, roedd 99.9% ohonoch o blaid y cynnig, efo dim ond 6 pleidlais o’r ardal gyfan yn cefnogi cynlluniau’r Bwrdd Iechyd!

Ond eto i gyd, fe gafodd y canlyniad ei anwybyddu YN LLWYR, nid yn unig gan y Llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd ond hefyd gan y Bwrdd Iechyd, gan ein haelod ni yn y Cynulliad a gan Gyngor Sir Plaid Cymru Gwynedd. Hynny yw, fe wrthododd y ddwy blaid fwyaf ar y pryd ddangos unrhyw gefnogaeth i’n hachos. Do, fe gawsom addewidion o sawl cyfeiriad arall ond addewidion gwag oedd rheini hefyd. Cynlluniau’r Betsi oedd yn bwysig yn eu golwg nhw i gyd, er gwaetha’r llanast roedd rheini yn mynnu ei wneud ... ac yn dal i’w wneud hyd heddiw, wrth gwrs, neu pam arall eu bod nhw’n cael eu cadw o dan ‘special measures’ ers pedair blynedd a mwy?

Roedd cau yr Ysbyty Coffa ym mis Mawrth 2013 yn ddigwyddiad du iawn yn hanes yr ardal hon, ac mae cleifion a’u teuluoedd, o orfod teithio milltiroedd lawer yn ddyddiol, i Alltwen neu Fangor, yn sylweddoli hynny yn fwy na neb erbyn heddiw.

Un wers chwerw a ddysgwyd dros y blynyddoedd oedd hon – Fedrwch chi ddim rhesymu efo pobol

di-reswm. Er enghraifft,  PEDWAR Gweinidog Iechyd gwahanol, i gyd yn gwrthod cyfarfod â ni, nac yma nac yng Nghaerdydd, gan ddadlau nad eu cyfrifoldeb nhw oedd ein problemau ni, yma yn y gogledd! A CHWECH Prif Weithredwr gwahanol y Betsi, dim un ohonyn nhw’n Gymro nac yn deall Cymraeg, a rhai ohonyn nhw heb hyd yn oed y syniad lleiaf lle i chwilio am Blaenau Ffestiniog ar y map!
Buom yn cyfarfod ag amryw o wleidyddion eraill hefyd, rhai mewn swyddi allweddol yng Nghaerdydd, a derbyn ganddynt bob math o addewidion i’n helpu. Ond pobol ffuantus efo cof byr iawn oedd rheini. Yr eithriadau oedd y ddau aelod seneddol, Liz Saville-Roberts (Plaid Cymru),  Guto Bebb (Ceidwadwyr), a’r aelod cynulliad Neil Hamilton.

Ein gweithred arwyddocaol olaf ni fel pwyllgor oedd herio hawl y Bwrdd Iechyd i werthu’r Clinig Coffa ar Ffordd Tywyn gan ddadlau mai arian lleol a’i cododd o fel cofeb i’r 54 o fechgyn yr ardal a laddwyd yn yr ail ryfel byd, a hynny cyn i’r NHS ddod i fodolaeth erioed. O ganlyniad i’r llythyr hwnnw, a llythyr tebyg wedyn oddi wrth Gyngor Tref Ffestiniog, fe gytunodd y Betsi i oedi’r gwerthiant am gyfnod o dri mis, er mwyn rhoi cyfle i’r ardal allu cyflwyno cynllun o’r hyn y bwriedir ei wneud efo’r adeilad. Erbyn heddiw, mae’r Cyngor Tref yn arwain y frwydr i sefydlu hospis yno, rhywbeth sydd wir ei angen yn yr ardal, a dymunwn bob llwyddiant i’w hymgyrch.
*    *    *    *    *

Er gwybodaeth: Mae rhan helaeth o’r ohebiaeth a fu efo hwn ac arall dros y blynyddoedd, yn ogystal â’r holl erthyglau i Llafar Bro, wedi cael ei throsglwyddo, bellach, i Adran Archif y Sir yn Nolgellau. Pwy ŵyr na fydd ryw stiwdant neu’i gilydd, yn y blynyddoedd eto i ddod, yn chwilio am destun ymchwil ar gyfer gradd uwch ac yn gweld Hanes Ysbyty Coffa Ffestiniog 1919 - 2013 fel pwnc o ddiddordeb. Pe digwydd hynny, yna bydd mwy na digon o ddeunydd ar gael iddo ef neu hi allu pori trwyddo!    GVJ
*    *    *    *    *

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2019.
Cofiwch bod llawer o erthyglau'r pwyllgor amddiffyn ar y wefan yma. Cliciwch ar y ddolen Pwyllgor Amddiffyn. (Os yn darllen ar ffôn, rhaid dewis 'View web version' i weld y dolenni)


12.11.16

O’r Pwyllgor Amddiffyn -Lobïo'r Senedd eto

Y Frwydr yn Parhau.
                               
Ddiwedd Medi aeth dirprwyaeth o’r Pwyllgor Amddiffyn i lawr i Gaerdydd i gyfarfod Aelodau’r Cynulliad sy’n cynrychioli’r rhan hon o’r wlad, sef Ucheldir Cymru, i’w cael nhw i roi pwysau cynyddol ar y Gweinidog Iechyd - ac ar y Betsi hefyd, felly, wrth gwrs – i newid rhywfaint ar gynlluniau adeilad newydd yr Ysbyty Coffa, fel bod ward i gleifion, uned mân anafiadau ac uned Pelydr-X hefyd yn cael eu cynnwys, a hynny’n unol â’ch dymuniad chi, bobol y cylch, yn y refferendwm a gynhaliwyd yn gynharach eleni.

Dros ddeuddydd buom mewn 8 cyfarfod i gyd, gyda gwahanol gynrychiolwyr o bob plaid, a chael addewid gan bob un ohonynt yn ddiwahân y bydden nhw codi’r mater efo Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd,  ac yn ceisio dwyn perswâd ar hwnnw i gyfarfod ag aelodau’r Pwyllgor Amddiffyn mor fuan â phosib  (rhywbeth y mae ef a’i ragflaenydd Mark Drakeford wedi gwrthod ei wneud dro ar ôl tro hyd yma, gan guddio tu ôl i’r esgus nad oedden nhw’n barod i newid dim byd ‘sydd wedi cael ei gytuno’n lleol’!)

Rhai o aelodau'r Pwyllgor Amddiffyn yn cyflwyno'r ddeiseb yn y Senedd yn 2014
Cafwyd cyfarfod ar y cyd hefyd gyda Sarah Rochira, Comisiynydd yr Henoed yng Nghymru, a Geoff Ryall-Harvey, Prif Reolwr y Cyngor Iechyd Cymunedol yng ngogledd Cymru, a does dim amheuaeth nad yw’r ddau ohonyn nhwtha hefyd yn dal i gefnogi’r ymgyrch i ail-sefydlu’r gwasanaethau a gollwyd o’r ardal hon, sef y gwasanaethau y pleidleisiodd 99.6% ohonoch chi, bobol yr ardal, drostynt yn y Bleidlais Gymunedol (Refferendwm) ychydig fisoedd yn ôl.

Dyma’r aelodau o’r gwahanol bleidiau sydd wedi addo mynd i ben y Gweinidog Iechyd am atebion: – Llafur: Joyce Watson, Plaid Cymru: Rhun ap Iorwerth, Dai Lloyd, Neil McEvoy, Simon Thomas a James Radcliffe (yn ogystal â Liz Saville Roberts ein AS yn Llundain, wrth gwrs), UKIP:  Neil Hamilton, Caroline Jones a Neil Bennet, Ceidwadwyr: Janet Finch-Saunders (fel cynrychiolydd ardal Dolwyddelan).

Roedden nhw i gyd yn cytuno bod angen ysbyty yn Ucheldir Cymru. Yn ôl un arbenigwr, mae denu staff cymwys yn gallu bod yn broblem i bob ardal y dyddiau hyn ond lle mae’r ddarpariaeth mor gyntefig ag yw hi yn Ffestiniog ar hyn o bryd, heb unrhyw offer pelydr-X na gwasanaeth Mân Anafiadau na gwlâu i gleifion na dim, yna mae’r broblem yn llawer iawn mwy dyrys.

Cafwyd sicrwydd hefyd y bydd y Pwyllgor Deisebau yn dal i gadw’n deiseb ni’n fyw hyd nes y ceir atebion onest a derbyniol oddi wrth y Gweinidog Iechyd. Manteisiwyd yn ogystal ar y cyfle  i gyfarfod â chyfreithiwr o Gwmni Watkins & Gunn yn y brifddinas i edrych i mewn i’r posibilrwydd o herio’r Betsi yn gyfreithiol.

Mewn geiriau eraill, dydi’r Pwyllgor Amddiffyn ddim yn barod i adael yr un garreg heb ei throi, hyd yn oed mor hwyr â hyn yn y dydd!

Yna, ar ddiwrnod olaf-ond-un y mis, fe gafodd y cyhoedd gyfle arall i weld cynlluniau’r Bwrdd ar gyfer y Ganolfan Iechyd newydd. Fe aeth pedair blynedd heibio ers i’r rheini gael eu llunio gyntaf ac mae llawer o brotestio, ac o geisio ymresymu ynglŷn â nhw wedi digwydd yn y cyfamser, ond dydi’r Betsi ddim wedi newid dim byd o gwbwl ar eu cynlluniau!

Sy’n profi eto fyth mor drahaus ac mor gwbwl ddigyfaddawd yw eu hagwedd nhw tuag at bobol yr ardal hon. 
-------------------------


Erthygl gan Geraint Vaughan Jones, a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2016.
Dilynwch hanes y frwydr efo'r ddolen isod, neu yn y cwmwl geiriau ar y dde.


29.10.16

Haf yr Ewros

Ifor Glyn yn cymharu dau ddigwyddiad gwahanol iawn dros yr haf.
Rhan o gyfres o erthyglau gan awduron gwadd, ar thema Ewropeaidd.


Pan fyddaf yn meddwl am yr haf, mae nifer o ddigwyddiadau yn dod i’r cof bob blwyddyn. Ar ddiwedd Mai bydd Eisteddfod yr Urdd yn cyhoeddi bod yr haf wedi cyrraedd ac yna yn cael ei dilyn gan sawl digwyddiad blynyddol sy’n siapio’r haf yng Nghymru … Steddfod Llangollen (er i mi ‘rioed fod yno); Sioe Fawr Llanelwedd; Glastonbury ar y teledu (rhy hen bellach i gael mynd); yr Eisteddfod Genedlaethol; ac yn fwy diweddar Gwyl Rhif 6 Portmeirion. Yna diwedd yr haf yn cael ei gyhoeddi gyda’r ysgolion yn ail ddechra.

Bob blwyddyn byddwn yn trafod yr un pethau… mae hi’n rhy boeth, yn rhy wlyb, gormod o ymwelwyr ar y ffyrdd, dim byd o werth ar y teledu -ac fel ‘leni trafod canlyniadau band neu gôr o Blaenau yn yr Eisteddfod. I fod yn onest does gen i ddim diddordeb mewn canu corawl na band pres – ond dros fy nigon clywed am lwyddiant unrhywun o Blaenau. Da iawn.

Tymor yr haf ydi fy ffefryn heb ddwywaith – crys t a shorts, hufen iâ, ffenestri ar agor, lan môr, barbiciw ac yn y blaen. Mae na batrwm reit gyfforddus i’r haf pob blwyddyn. Ond chydig iawn a glywais o drafod y rhain flwyddyn yma.

Dwi’n ystyried fy hun yn berson eitha positif, yn berson gobeithiol ac yn berson sy’n gweld ei wydr yn hanner llawn nid hanner gwag - ond leni ‘dwi wedi gweld y gwydriad yn hollol sych, ac yn gorlifo mewn mater o ychydig wythnosau.

Sioc fyddai’r gair cynta i ddisgrifio sut oeddwyn yn teimlo ar fore Mehefin 24ain o glywed canlyniad refferendwm Ewrop – ac yn bendant doeddwn i ddim ar fy mhen fy hun. Roeddwn wedi mynd i fy ngwely y noson gynt wedi i raglen newyddion gyhoeddi bydd y bleidlais i aros yn trechu – er yn agos.

Clywad manylion drannoeth am y llanast ar y radio ar y ffordd i’r gwaith; gallwn deimlo’n stumog (ac mae gen i stumog fawr!) yn suddo i fy sgidia ac anobaith yn llenwi’r car. Roedd gen i ffasiwn gywilydd bod Cymru wedi pleidleisio i adael, i ymbellhau ein hunain o wledydd eraill Ewrop; i wirioneddol neilltuo ein hunain …… ynysu go iawn.

Mae Cymru wedi bod yn un o’r gwledydd sydd wedi elwa fwya drwy Ewrop (a hynny’n haeddianol) a does ond rhaid i chi deithio o amgylch gorllewin Cymru a chymoedd y de i weld y fflagiau a’r placardiau sy’n dynodi cynlluniau wedi eu hariannu gan Ewrop. Bois bach, dwi’n gobeithio’n fawr nad ydi pobl yn credu bydd llywodraeth Llundain yn parhau hefo’r un lefel o fuddsoddi yn yr ardaloedd yma. Maent yn barod wedi tynnu ‘nôl addewidion yng nghylch y gwasanaeth iechyd a gwneith wynab newydd prif wenidog Llundain ddim gwahaniaeth.

Mi roedd hi’n ymgyrch fudur filain ac yn un a ganolbwyntiodd ar ofnau pobl, efo cam-arwain a ‘ffeithiau’ celwyddog ac yn anffodus dewis credu hynny wnaeth yr etholwyr. Ymgyrch eitha fflat gafwyd gan y rhai oedd am aros i mewn, ac er y diffyg arweiniad mae rhaid i ni gyd ofyn faint o ymdrech wnaethom NI i gymryd rhan. Mae gen i gywilydd mai poster yn y ffenast a thrafod ar Facebook oedd maint fy nghyfraniad i.  Gwers i’w dysgu.

Wel dyna’r gwydriad gwag i chi ond diolch i’r drefn bu’r gwydriad yn gorlifo heb fod yn rhy hir wedi’r refferendwm.   O un Euros i Euros arall oedd yn llawer mwy ysbroledig a wir anhygoel.

Pwy fydda’n credu y byddai tîm cenedlaethol pêl droed Cymru wedi creu y fath storm yn Ewro 2016, gyda’u sgiliau anisgwyl; chwaraewyr gyda chymeriad; chwaraewyr yn chwara fel un tîm; tîm hyfforddi prowd a brwdfrydig, ac yn bwysicach na dim i mi –eu balchder o chwarae a chynrychioli Cymru. Mi roedd yn brofiad emosiynol iawn, yn brofiad anhygoel cael teimo’n rhan o’r holl ŵyl o adra, yn arbennig o gael gweld cymaint o deulu a chefnogwyr o Blaenau allan yna yn mwynhau ac yn lysgenhadon bendigedig i’w bro. Cofio gweiddi gweld fy nai ar Match of the Day.


Mi gododd Euro 2016 galon Cymru gan greu cynhwrf a brwdfrydedd o'r de i’r gogledd a dangos ein balchder fel cenedl. Tra fod y chwarae wedi bod yn anhygoel ac yn llawer mwy na fydda r’un ohonom wedi ei obeithio amdano;  yn bwysicach mae wedi creu diddordeb yn y gêm, yn ein tîm cenedlaethol ac wedi creu balchder.

Do fe gafodd y chwaraewyr a’r tim hyfforddi groeso haeddianol ac arbenning yn ôl yng Nghaerdydd – a phetai i fyny i fi, mi fyddwn wedi rhoi y gadair, y goron a’r fedal lenyddiaeth iddynt yn y ‘steddfod hefyd!

‘Mlaen i gwpan y byd rwan.
---------------------------------------------

Ymddangososdd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2016.
Dilynwch gyfres Ewrop efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.



21.10.16

Bonjour Blaenau

Erthygl gan Sharon Jones, am fyw yn Ffrainc, a phwysigrwydd teimlo’n rhan o gymuned. 
Rhan o gyfres o erthyglau gan awduron gwadd yn trafod ein perthynas efo Ewrop.


Pan ddeffrais ar y 24ain o Fehefin a chlywed bod pobol Prydain wedi pleidleisio i fynd allan o’r Undeb Ewropeaidd mi wnes i grio. Yn wreiddiol o’r Blaenau,  mi wnes i symud i Ffrainc pan gafodd Rhodri, fy ngŵr, swydd yn CERN ger Genefa.

Antur dwy flynedd oedd hi i fod ond ugain mlynedd a phedair o genod yn ddiweddarach ac rydym yn dal yn byw yn Thoiry, pentref yng ngorllewin Ffrainc. Mae’r ardal fach yma o Ffrainc yn ryngwladol iawn gan ei fod yn agos i Genefa, ble mae pencadlys Ewropeaidd y Cenhedloedd Unedig, pencadlys Sefydliad Iechyd y Byd, CERN, y Groes Goch a sawl cwmni byd eang.

Un o’r pethau cyntaf wnes i ar ôl symud i Ffrainc oedd cael gwersi Ffrangeg. Yn tyfu fyny yn y Blaenau roedd gas gen i’r mewnfudwyr di-Gymraeg nad oedd yn gwneud unrhyw ymdrech i ddysgu’r iaith, nid oeddwn i am fod yn un o rheiny yn Ffrainc. Yn y flwyddyn gyntaf felly, un o fy amcanion oedd gallu cyfathrebu o ddydd i ddydd yn Ffrangeg. Erbyn hyn dwi eithaf rhugl fy Ffrangeg ond nid yw hyn yn golygu ‘mod i wedi colli fy Nghymraeg.

Cymraeg yw iaith y cartref, a’r iaith mae’r plant yn siarad rhyngddynt. Mae’r blynyddoedd o weiddi “Pa iaith yn y tŷ ferched?” wedi talu! Yn ogystal a’r Gymraeg mae’r merched yn rhugl yn Ffrangeg a Saesneg a’r ddwy hynaf yn dysgu Sbaeneg a Tseinïaidd yn yr ysgol. Yn Thoiry mae’n naturiol i gwrdd â theuluoedd ble mae sawl iaith yn cael ei siarad ar yr aelwyd, a clywyd cymysgedd eang o ieithoedd tra’n aros am y plant tu allan i’r ysgol.

Mae'n fraint i mi fod gennai erbyn hyn ffrindiau o nifer o wledydd ledled Ewrop. Trwyddyn nhw dwi’n cael golwg ar eu diwylliant a dysgu am wahanol arferion. Wyddoch chi, er enghraifft, taw traddodiad un rhan o’r Almaen yw rhoi torth o fara a phot o halen yn anrheg symyd tŷ? A’i bod yn draddodiad yn Denmarc i ddawnsio rownd y goeden Nadolig ar ôl bwyta Cinio Dolig? Ac mae’r Ffrancwyr yn ysgwyd dwylo neu roi cusan ar foch pawb pan fyddant yn cyrraedd a gadael y gwaith, gall hynny gymryd drwy’r bore os oes lot o gydweithwyr gyda chi!

Fel gallwch ddychmygu mae bwyd yn rhan bwysig o fywyd yma yn Ffrainc. Yn cantîn yr ysgol mae’r plant yn cael 4 cwrs – salad i ddechrau, prif gwrs, caws a phwdin. Ond mae digon o amser ganddynt i’w fwyta gan bod dwy awr o egwyl ganddynt i gael cinio. Dwi wedi cael y fraint o flasu danteithion o sawl gwlad yn Ewrop ac wedi cyflwyno danteithion Cymreig fel cacen gri a bara brith mam i’m ffrindiau. Mae’r “apero” (aperitif) cyn swper bron mor bwysig a’r swper ei hun. Yn wir mae ffrindiau i ni o’r Swisdir wedi cario potel o win a gwydrau i fyny i ben mynydd er mwyn cael yr apero sanctaidd yma cyn picnic! A dros y blynyddoedd mae rhai o’r arferion gwahanol hyn wedi dod yn arferion yn ein teulu bach ni hefyd.

Sharon, Fflur, Rhodri, Bethan, Rhian, ac Eiry (gydag ymddiheuriad i Eiry fod y wasg wedi gollwng ei henw o rifyn Medi)
Un peth sydd wedi bod yn bwysig iawn i mi yw dod yn rhan o’r gymuned yma yn Thoiry. Yn dod o Blaenau ble mae bywyd cymunedol mor gryf, roedd hyn yn rhywbeth yr oeddwn yn fethu yn fawr iawn ar y dechrau. Mi ddwedodd rhywun wrthyf bod y Ffrancwyr fel cneuen coco – tu allan bron yn anhreiddiadwy (h.y. anodd i ddod i adnabod), ond unwaith rydych chi drwy'r gragen galed, mae’r tu fewn yn felys a meddal. Dyna’n wir yw fy mhrofiad i.

I mi mae bod yn rhan o Ewrop yn golygu derbyn a chyd fyw. Os byw mewn gwlad arall yna mae rhaid cydnabod a derbyn y traddodiadau lleol tra’n ceisio cyfrannu i’r gymuned drwy ein cefndir gwahanol ein hunain. Mae gan bawb yr hawl i fod yn wahanol a ni ddylia’r gwahaniaeth hyn gael ei weld fel bygythiad. Yn hytrach fe ddylid ei weld fel rhywbeth sy’n medru cyfoethogi ein bywydau ein hunain.
---------------------------------------------

Ymddangososdd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2016.
Dilynwch gyfres Ewrop efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


18.9.16

Cofleidio Ewrop a'r Sinema

Erthygl gan Emyr Glyn Williams. Y cyntaf mewn cyfres o ysgrifau gwadd yn ymateb i Uffarendwm Ewrop yn haf 2016.

Rhaid cyfaddef fy mod i, yn ddiweddar, wedi dechra teimlo’n genfigennus o drigolion ifanc Blaenau (mwy am hyn nes ymlaen). Yn gyntaf, a ninne yng nghanol cyfnod mwyaf cythryblus a thyngedfennol ein hanes fel aelodau o’r teulu Ewropeaidd, dwi am fachu ar y cyfle i rannu rhywfaint o bositifrwydd yn y testun hwn.

Pam? Wel, jest er mwyn ceisio lleddfu tamaid ar y boen o weld cynifer o’n cwmpas yn syrthio o dan ddylanwad meddylfryd cas, hiliol a senoffobic yr eithafwyr yna sy am ein gweld ni fel Cymry yn cefnu ar ein perthynas â gweddill y cyfandir. Digon o reswm i mi. Isio rhannu rhai o’r profiadau a theimladau sy wedi dychwelyd yn sgil penderfyniad i fynd ati i sgwennu llyfr yn Gymraeg sbel yn ôl am fyd sinema dramor, dyna i gyd dwi’n ei gynnig.

Mae Is-Deitla’n Unig wedi ei alw’n ‘llythyr cariad’ i ddiwylliannau estron gan rai, ac yn 'hunangofiant drwy ffilm' gan eraill, gan fy mod i yn plethu’r cariad hwn at ddiwylliant a bydolwg sinema ‘y lleill’ efo fy stori bersonol i yn tyfu i fyny yn Blaenau a gweithio gyda cherddoriaeth, ffilm a theledu Cymraeg dros y 30 mlynedd diwethaf.

Yn bersonol, dwi’n ddiffinio’r llyfr fel ymgais i normaleiddio dyhead sydd ynom fel pobl a chenedl (yn enwedig yr ifanc) i fod yn rhan o’r byd mawr y tu hwnt i ffiniau ein gwlad fechan. Yn dal i greu trwy’r Gymraeg, wrth gwrs, tra’n byw yn gydradd ac yn oddefgar ysgwydd wrth ysgwydd â’r holl diwyllianau eraill sy’n rhannu ein byd. 

Ro’n i’n credu wrth ysgrifennu’r llyfr fod y teimladau yma’n rhai ddigon cyffredin a synhwyrol, ond ers cyhoeddi canlyniad y refferendwm, ma’ hi wedi dod yn amlwg fod y rhan fwyaf o’r boblogaeth allan yna (yng Nghymru hefyd) yn ei gweld hi’n anodd derbyn bod amrywiaeth diwyllianol yn beth positif.

Ond hoffwn ddadlau yma fod natur arbennig celf sinema’n medru gweithio i ailadeiladu’r teimlad hanfodol yna o fod yn perthyn i’n gilydd sydd yn amlwg wedi dirywo cymaint ers y bleidlais ar 24 Mehefin. Yn fy marn i, does ’na ddim dewis arall yn bodoli – gyda’n gilydd yw’r unig ffordd i deithio tua’r dyfodol, a chredaf mai sinema yw’r peiriant gora ar gyfer y dasg o hwyluso’r paratoadau ar gyfer ailgychwyn ar y siwrnai hon.

Ers cyhoeddi’r llyfr, dwi wedi profi ymateb uniongyrchol gan ddarllenwyr a beirniaid i’r pwnc, ac wedi ymfalchio mewn ymateb positif gan mwyaf, sy’n hapus i dderbyn bod sinema’n medru bod yn gelf yn ogystal ag yn fusnes; yn iaith rydym oll yn medru ei deall (gan mai’r lluniau sy’n siarad!); ac yn bwysicaf oll, cydnabyddiaeth ei bod hi’n gelf sy’n perthyn i bawb (dyna’r union reswm mae’n bodoli ym mhob twll a chornel o’r blaned).

Gan wybod o flaen llaw fod y rhinweddau yma’n dderbyniol, hoffwn eich annog chi ddarllenwyr Llafar Bro i wneud ymdrech o’r newydd i gofleidio byd ffilmiau a’i gwneud hi’n rhan o’ch bywyd bob dydd.    

Yn ôl at y cyfaddediad hwnnw o genfigen ar y cychwyn – wel, yn syml, mae un o’r peiriannau gwyrthiol dwi’n eu haddoli ar fin glanio yn Blaenau! Toedd ddim fath beth yn bodoli yn fy mhlentyndod i, a fedra i ddim gorbwysleisio gymaint o anhreg dwi’n credu fydd bodolaeth sinema i’r dref.

Mae wir angen diolch i griw CellB am gynnig y cyfle anhygoel hwn i brofi hud a gwefr bod yn rhan o gynulleidfa mewn sinema ‘go iawn’ unwaith eto. Nawr bydd cyfle rheolaidd i bob un ohonoch i brynu tocyn – i ddianc am gwpl o oriau wrth gwrs, ond hefyd i gael cyfle i brofi storïau o bob cwr o’r byd ar sgrin fawr yn eich cynefin a sylweddoli nad ydi clywed mwy am wahanol bobl a diwyllianau ym mhen draw’r byd yn gwneud dim heblaw dod â ni’n agosach et ein gilydd yn y pen draw. Un ddynoliaeth sydd, wedi’r cyfan, a chynnig tystoliaeth o’r ffaith hyfryd hon y mae celf sinema.

Mae ’na wyrthiau a phrofiadau bythgofiadwy yn aros amdanoch chi yn y stafell dywyll yna yn yr hen Orsaf Heddlu, a dwi’n eich annog i gefnogi’r fenter newydd hon o’r dechrau’n deg, yn enwedig pan mae’r arolygon y tu allan yn gaddo crebachu ar ehangu gorwelion. Buck the trends! Mynnwch eich lle, gofalwch amdani, defnyddiwch hi ac mi wneith hi ffynnu!

-- --
Cyrhaeddodd Isdeitla’n Unig gan Emyr Glyn Williams (Gwasg Gomer, £8.99) restr fer Llyfr y  Flwyddyn 2016, ac mae o dal ar gael yn eich siop leol.
-----------------------------------------

Ymddangosodd erthygl Emyr yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 2016.

Mae rhifyn Medi ar gael yn y siopau a gan y dosbarthwyr tan ganol Hydref. Mae'r gyfres Ewropeaidd yn parhau efo erthyglau gan Dewi Prysor, Ifor Glyn, Sharon Jones, Mici Plwm, a'r Theatr Genedlaethol. 


16.9.16

Cyfres 'EWROP' 2016

O na fyddai’n haf o hyd

Cyflwyniad i gyfres o ysgrifau gwadd yn ymateb i refferendwm Ewrop.

Tywydd gwylio teledu, yn hytrach na thywydd crwydro a garddio gawson ni ddiwedd Mehefin a dechrau Gorffennaf eleni, felly golygu Llafar Bro fesul dipyn rhwng gemau peldroed Ewropeaidd, y tenis, a chymalau cyntaf y Tour de Ffrainc fues i tro ‘ma.

Roedd taith tîm peldroed Cymru trwy gystadleuaeth Euro 2016 yn rhyfeddol, ac yn gymysgedd o orfoledd, pryder ar adegau, chwerthin a cholli ambell ddeigryn wrth glywed canu’r anthem a darllen sylwadau pobl Ffrainc am ymddygiad cefnogwyr brwd a chyfeillgar Cymru fach.

Roedd yn braf gweld Cymdeithas Beldroed Cymru yn rhannu negeseuon yn Gymraeg ac mewn Llydaweg trwy gydol yr ymgyrch, yn ogystal â Saesneg a Ffrangeg. Agwedd Ewropeaidd iach iawn drwyddi draw.

Dagrau o dristwch oedd y rhai gollwyd dros ganlyniad Uffarendwm yr Undeb Ewropeaidd ar y llaw arall, a’r diffygion difrifol yn y cyfryngau Cymreig yn boenus o amlwg eto, wrth i bobl Cymru ‘saethu eu hunain yn eu traed’ chwedl y sylwebydd gwleidyddol craff Richard Wyn Jones.

Hawdd deall pam bod nifer o’n pobl ifanc yn gandryll bod carfan o’r boblogaeth hŷn –y rhai a gafodd grantiau llawn am addysg uwch, gwasanaeth iechyd da, sicrwydd gwaith a phensiwn, tai, sefydlogrwydd a heddwch- wedi pleidleisio am ddyfodol ansicr iawn ar eu cyfer nhw.

Ond mae’n dda gweld mudiadau fel Cymru Rydd yn Ewrop a Yes Cymru yn ymgyrchu’n gyflym i sicrhau nad ydi’n cenedl ni’n diflannu am byth i’r hunllef fyddai ‘Inglandandwêls’.  Cymaint ydi llanast San Steffan wrth i mi sgwennu hwn, pwy a ŵyr be’ fydd be’ erbyn i Llafar Bro eich cyrraedd, felly taw pia hi am rwan.


Rali Cymru Rydd yn Ewrop, 2 Gorffennaf 2016. Llun Paul W
---------------------------------------------

Llyfr y Flwyddyn
Llongyfarchiadau mawr i ddau o hogia’ Bro ‘Stiniog ar gyrraedd rhestr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2016. Llenyddiaeth Cymru sy’n gweinyddu’r wobr, er mwyn cydnabod y gweithiau gorau yn y byd cyhoeddi bob blwyddyn, ac roedd yn wych gweld awduron lleol yn hawlio’u lle ymysg goreuon y genedl.

Roedd llyfr cyntaf Emyr Glyn Williams, Is-deitla’n Unig, ar restr fer yr adran ‘Ffeithiol-greadigol’,

... a nofel ddiweddaraf Dewi Prysor, Rifiera Reu, ar restr fer yr adran Ffuglen.





Yn ôl un o'r beirniaid eleni, mae llyfr Emyr "yn swyno; yn cyfareddu'r darllenydd efo diddordeb yr awdur yn ei destun ac yn rhyw lun o gofiant, efo elfen greadigol hefyd".

Sinema ydi’r testun hwnnw, ac roedd yn braf cael cynnwys erthygl gan Emyr yn rhifyn Gorffennaf.

Mae Dewi wedi ei ddisgrifio fel un sy'n "feistr ar ei dweud hi fel y mae hi", efo "arddull gyfangwbl unigryw", a Rifiera Reu yn "nofel a hanner". Ymddangosodd erthygl gan Dewi yn rhifyn Medi.

----------------------------------------------
Addasiad o ddarnau gan Paul Williams, a ymddangosodd yn rhifyn Gorffennaf 2016 sydd uchod.

Yn rhifyn Medi roedd y gyfres Ewropeaidd yn parhau gydag erthyglau gan Dewi Prysor, Ifor Glyn, Mici Plwm, Sharon Jones, a'r Theatr Genedlaethol. 
-----------------

Dolen- Cyfres EWROP

 

14.3.15

O'r Pwyllgor Amddiffyn -Canlyniad Ysgubol y Refferendwm

Canlyniad y Refferendwm (neu’r ‘Pôl Cymunedol’) a gynhaliwyd ar Chwefror 19eg:
Nifer a bleidleisiodd - 1,695
Nifer o blaid – 1,688
Nifer yn erbyn - 5
Nifer pleidleisiau a ddifethwyd - 2.


52% o’r etholaeth wedi bwrw pleidlais, sef y canran uchaf erioed mewn unrhyw refferendwm o’r fath!

A 99.6% o’r rheini yn bendant o blaid ychwanegu gwlâu i gleifion, gwasanaeth mân anafiadau ac adran pelydr-X at unrhyw gynlluniau sydd gan y Bwrdd Iechyd ar gyfer yr Ysbyty Coffa.

Be nesa, felly? Gan mai cyfrifoldeb y Cyngor Tref oedd trefnu’r bleidlais a chyfrifoldeb y Cyngor Sir oedd ei gweithredu hi, yna eu dyletswydd nhw, rŵan, ydi dwyn pwysau ar y Bwrdd Iechyd i gymryd sylw o’ch dymuniadau chi. Ond ochr yn ochr â nhw, mi fydd y Pwyllgor Amddiffyn hefyd, wrth gwrs, yn llythyru at y Betsi ac at Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd, ac yn ceisio trefnu cyfarfod efo nhw, gynted â phosib, i wyntyllu’r sefyllfa.
Cododd hynny'n gynt na’r disgwyl, ar y 12fed o Fawrth, mewn cynhadledd yn Dolfor yng nghanolbarth Cymru; cynhadledd i drafod cyflwr y gwasanaeth iechyd yn ucheldir Cymru ac yn yr ardaloedd cefn gwlad; cynhadledd wedi ei threfnu gan Drakeford ei hun fel ymateb i’r argymhellion yn Adroddiad yr Athro Marcus Longley. (Byddwch yn cofio inni drefnu i’r Athro Longley ymweld â ni yn ôl ym mis Gorffennaf a bod nifer ohonoch chi wedi siarad yn rymus iawn yn y cyfarfod hwnnw a’ch bod chi, yn amlwg, wedi gadael cryn argraff arno.)

Sut bynnag, bu cynrychiolaeth o’r Pwyllgor Amddiffyn yn y gynhadledd, lle'r oedd swyddogion y Betsi a byrddau iechyd eraill yn bresennol, yn ogystal â’r Gweinidog Iechyd ei hun, wrth gwrs. Fe rown adroddiad yn rhifyn Ebrill Llafar Bro ar sut aeth pethau yno. Un bwriad gennym oedd creu arddangosfa (posteri a.y.y.b.) ar gyfer y gynhadledd er mwyn tynnu cymaint o sylw â phosib at gyflwr truenus y gwasanaeth sy’n cael ei gynnig i’r cylch yma ers i’r ysbyty gau.

Er nad oedd pobol Gellilydan/Maentwrog na Thrawsfynydd yn rhan o’r refferendwm, eto i gyd mae cynghorau cymunedol y plwyfi hynny wedi addo llythyrau o gefnogaeth lwyr i’r ymgyrch, ac rydym yn ddiolchgar iawn iddynt am hynny ac am eu cefnogaeth ar hyd y blynyddoedd.

Ac yn olaf, diolch o galon hefyd i’r postmyn hynny a fu’n rhannu’n taflenni melyn ni o dŷ i dŷ, yn y dyddiau cyn y pleidleisio.
..................

Y cyfarfod gyda Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Er mai siomedig, braidd, oedd y nifer a fynychodd y cyfarfod hwn yn Neuadd Sefydliad y Merched, bnawn Gwener 27ain Chwefror, eto i gyd mae’n dda cael adrodd bod y gynulleidfa wedi gadael argraff ddofn ar ein gwestai. Efo Guto Bebb AS eto’n cadeirio, agorwyd y cyfarfod gyda’r cyn-feddyg Dr Walter Evans yn rhoi darlun i Ms Rochira o’r sefyllfa oedd yn bodoli yma cyn cau’r Ysbyty Coffa ddwy flynedd yn ôl, ac o’r hyn sydd yn weddill inni bellach. Wedyn, caed clywed nifer o’r gynulleidfa yn disgrifio eu profiadau anffodus efo’r gwasanaeth iechyd (profiadau personol a theuluol) ac roedd yn amlwg bod y Comisiynydd wedi cael ei chyffwrdd i’r byw gan ddiffuantrwydd y siaradwyr hynny, ac y bydd llawer o’r hyn a gafodd ei ddweud ganddynt yn cael sylw yn ei hadroddiad hithau hefyd i’r Gweinidog Iechyd.

Diolch i bawb ohonoch, felly, a wnaeth yr ymdrech i ddod yno, gan gynnwys rhai o drigolion Dolwyddelan. Diolch hefyd am gefnogaeth y ddau gynghorydd oedd yn bresennol, sef Selwyn Griffiths, Porthmadog (Cadeirydd Cyngor Sir Gwynedd), a’r Cynghorydd Linda Wyn Jones. Yno hefyd roedd dau gynrychiolydd o Age Cymru, sef yr elusen genedlaethol sy’n gweithio ar ran pobol-mewn-oed, a diolchwn iddynt hwythau am eu cefnogaeth.
Mae’n dda cael dweud bod y cyfarfod wedi cyflawni’r hyn roeddem wedi’i obeithio amdano.
GVJ                                       

----------------------------------

Annwyl Olygydd,
Ar ran Pwyllgor Amddiffyn yr Ysbyty hoffwn ddiolch drwy gyfrwng Llafar Bro yn ddiffuant iawn i’r 53 a wirfoddolodd eu ceir diwrnod y pôl Cymunedol ar y 19eg o Chwefror i gario cymdogion, ffrindiau a pherthnasau i bleidleisio.  Hefyd diolch i’r cyfeillion a wirfoddolodd i eistedd wrth y drysau.  Fel mae’r canlyniadau yn dangos, ni fu eich hymdrech yn ofer.
Diolch yn fawr,
Gwilym Price.

14.2.15

O’r Pwyllgor Amddiffyn

Drannoeth y cyfarfod yn Ysgol y Moelwyn daeth cyfaill ar y ffôn o Gaerdydd:

    ‘Gawsoch chi’ch plesio?’ medda fo.
           ‘Wrth gwrs!’ medda finna.
    ‘Oeddat ti’n synnu gweld cymaint yno?

Chwerthin wnes i cyn ateb:
   ‘Dim o gwbwl! Dyma’r union fath o gefnogaeth mae’r ardal yma wedi’i ddangos i’r ymgyrch ers deng mlynadd bellach, nid yn unig mewn cyfarfodydd cyhoeddus fel neithiwr ond i bob deiseb a rali hefyd. Ein problem fwya ni ydi cael swyddogion y Betsi a gwleidyddion hunanbwysig i wrando arnon ni.

Llun gan Alwyn Jones
...........................
Ond fedar y bobol hynny, chwaith, mo’n hanwybyddu ni am byth!

Ar y 19eg o Chwefror, bydd cyfle i bobol Blaenau a Llan a Dolwyddelan fwrw pleidlais arall, a honno fydd y bleidlais bwysig rŵan!  Ond fe wyddoch chi hynny’n barod, wrth gwrs, a go brin bod raid annog neb ohonoch i ddefnyddio’ch pleidlais.

Yn y cyfamser gair o ddiolch i bawb ohonoch, unwaith eto, am fentro’r oerni ac am ddangos y fath amynedd cyn y cyfarfod yn Ysgol y Moelwyn. Pwrpas y cyfarfod hwnnw oedd cael 150 o etholwyr yr ardal i ddod at ei gilydd i alw am refferendwm ar ddyfodol yr Ysbyty Coffa ac fel y gwelsoch chi, fe ellid bod wedi llenwi’r neuadd deirgwaith drosodd. O ganlyniad, bu’n rhaid i lawer ohonoch aros am hydoedd am eich cyfle i bleidleisio – allan yn yr oerni ac yna yn y cyntedd ac yn y ffreutur. Roedd y fath gefnogaeth yn wirioneddol anhygoel, a’r peth lleiaf y gallwn ni ei wneud ydi ymddiheuro ichi am yr oedi a’r anhwylustod. A rhaid cydymdeimlo hefyd â’r nifer a ddaeth yno o ardal Gellilydan a Thrawsfynydd gan dybio bod ganddyn nhwtha hefyd bleidlais ar y noson. Mae eich cefnogaeth chitha’n cael ei gwerthfawrogi lawn cymaint.

Yn ôl pob sôn, fe ohiriodd tîm Bro eu hymarfer rygbi er mwyn cael mynychu’r cyfarfod. Os gwir hynny, yna diolch o galon i chitha hefyd hogia. Mae’n braf gwybod bod y genhedlaeth iau yr un mor unol a thaer yn y frwydyr.

Rydym, wrth gwrs, yn ddiolchgar i’r Cyngor Tref am eu rhan yn trefnu’r cyfarfod. Doedd y gwaith hwnnw ddim yn hawdd o bell ffordd, o ystyried yr anhrefn ar y rhestrau pleidleisio. Bydd pethau yn siŵr o fod yn dipyn rhwyddach ar Chwefror 19eg (gweler manylion ar y dudalen flaen).

......................

A gair, rŵan, o Ddolwyddelan
Ar noson rewllyd, braf oedd gweld tyrfa luosog yng Nganolfan Gymdeithasol Dolwyddelan ar gyfer Cyfarfod Arbennig i bleidleisio ar gael Pôl Cymunedol i bwyso am gael gwlâu, gwasanaeth pelydr-x ac uned mân anafiadau yn ôl i Ysbyty Coffa Ffestiniog. Da iawn chi, PAWB o blaid felly! Ymlaen bo’r nôd!
.....................

PLEIDLEISIO:

Os ydych yn rhagweld problem trafnidiaeth ar ddydd y pleidleisio (rhwng 4.00 y pnawn a 9.00 yr hwyr), yna cysylltwch yn ddigon buan ymlaen llaw efo Gwilym Price ar 830294 neu Geraint V Jones ar 762429.

Dyma fydd y cwestiwn ar y papur pleidleisio, ac mi fydd yn ddwyieithog –

‘A ddylai gwlâu ar gyfer cleifion, gwasanaeth pelydr-X ac Uned Mân Anafiadau fod yn rhan o unrhyw gynlluniau ar gyfer Ysbyty Coffa Ffestiniog?’

PWYSIG – Peidiwch â rhoi dim byd ond croes neu dic yn y blwch cywir. Os rhowch chi unrhyw sylw neu farc arall ar eich papur pleidleisio, yna mae peryg ichi ddifetha’ch pleidlais.

Os yn cefnogi’r ymgyrch, cofiwch ddangos y daflen felen yn ffenest eich tŷ neu ar eich car. Ffenestri’r ardal yn fôr o felyn, gobeithio!

GVJ.
[Ymddangosodd gyntaf yn Llafar Bro, Chwefror 2015]


Ymateb ar noson y cyfarfod yn Ysgol y Moelwyn yn fan hyn.





25.1.15

Yr Ysbyty- DENG MLYNEDD O YMGYRCHU

Rhan o erthygl y Pwyllgor Amddiffyn, o rifyn Ionawr 2015:

Fe ffurfiwyd y Pwyllgor Amddiffyn union ddeng mlynedd yn ôl i’r mis hwn ac ymddangosodd yr erthygl gyntaf ar dudalen flaen Llafar Bro  rhifyn Ionawr 2005 o dan y pennawd ‘DIGON YW DIGON’.

Ein cŵyn ar y pryd oedd bod y clinig Ffisiotherapi ar Ffordd Tywyn yn cael ei gadw’n fwriadol ar gau ar esgus salwch y ffisiotherapydd. Ond roeddem yn dangos pryder hefyd, mor gynnar â hynny, ynglŷn â dyfodol yr Adran Pelydr-X  a’r Ysbyty Coffa ei hun. Fis yn ddiweddarach, y pennawd oedd ‘CODI LLAIS A DANGOS DANNEDD GOBEITHIO’ a dyna a wnaethoch chi, bobol yr ardal, ac mae’r gefnogaeth honno wedi dal yn gyson ac yn gadarn dros y blynyddoedd.

Chafodd y clinig ffisiotherapi mo’i ail agor, wrth gwrs, ac ymhen hir a hwyr fe drosglwyddwyd yr offer o Ffordd Tywyn i adeilad yr Ysbyty ei hun gan ddisodli Ward y Dynion yn fan’no, yn ogystal â’r Ystafell Ddydd. Esgus y Bwrdd Iechyd oedd bod trefniant felly yn llawer mwy hwylus o safbwynt y cleifion oedd angen triniaeth ffisiotherapi, ond buan y daeth eu twyll i’r amlwg pan ddechreuson nhw sôn am ‘ddiffyg preifatrwydd’ oherwydd bod gwlâu’r dynion, bellach, yn rhy agos at Ward y Merched a bod y cleifion i gyd yn gorfod rhannu’r un Ystafell Ddydd.

Yna, yn Ionawr 2008, fel ateb i’r broblem, fe gynigiodd y Pwyllgor Amddiffyn, ar y cyd efo Cyfeillion yr Ysbyty, agor cronfa a fyddai’n cyfarfod hanner y gost (sef £150,000) o godi estyniad ar gyfer ward newydd sbon neu adran ffisiotherapi bwrpasol, beth bynnag fyddai dymuniad y Bwrdd Iechyd. Fe aeth misoedd lawer heibio cyn i’r Betsi hyd yn oed gydnabod y cynnig, cyn iddyn nhw wedyn ei wrthod heb unrhyw fath o eglurhâd. Felly dyna ichi’r math o bobol drahaus y buom ni’n ceisio delio efo nhw ers y dyddiau cynnar!

Dros y blynyddoedd mae bron 40 o erthyglau wedi ymddangos yn ‘Llafar’ o dan enw’r Pwyllgor Amddiffyn ac rydym yn hynod o ddiolchgar i’n papur bro am ddangos y fath gefnogaeth ac arweiniad yn yr ymgyrch. Mae ei dudalennau wedi bod yn gyfrwng cyson inni hysbysu pobol yr ardal am yr hyn oedd yn mynd ymlaen o flwyddyn i flwyddyn, a bu’n gymorth gwerthfawr hefyd wrth inni drefnu sawl rali - dwy rali fawr ar strydoedd y dref, un arall i lawr i’r Senedd yng Nghaerdydd ac un i Landudno i gefnogi’r ymgyrch yn fan’no.

Un o arwyddion Rali Medi 2005

Bu tudalennau’r papur hefyd yn fodd o roi sylw i’r deisebau a gafodd eu harwyddo gan filoedd ar filoedd ohonoch dros y blynyddoedd ac erbyn hyn, mae'r Cyfarfod Arbennig ar Ionawr 13eg, gyda’ch cefnogaeth chi, wedi galw am i Refferendwm gael ei gynnal ac y bydd dyddiad wedi cael ei benderfynu i gynnal Pleidlais Gymunedol yn y Blaenau, Llan a Dolwyddelan.

Mae ymgyrchwyr Fflint yn ymhyfrydu bod 99% o’r 3,500 a bleidleisiodd yn eu refferendwm hwy wedi galw am gael gwlâu yn ôl i’w hysbyty ac erbyn heddiw maen ymddangos bod trigolion yr ardal honno yn ffyddiog y byddan nhw’n llwyddo. Pob lwc iddyn nhw ddwedwn ni, ond gadewch i ninnau ddangos i’r Betsi ein bod ninnau hefyd, yn yr ardal hon, yr un mor benderfynol o gael ein hawliau; sef yr un hawliau ag a roddwyd yn ddi-gwestiwn i bobol Tywyn a Phorthmadog a Phwllheli a threfi eraill glan-y-môr.

Bydd y Cyngor Tref yn cynnal y Refferendwm, neu’r Bleidlais Gymunedol fel y’i gelwir, yn Blaenau a Llan ar Ionawr 27ain mwy na thebyg, a bydd Cyngor Cymunedol Dolwyddelan yn gwneud yr un peth yn eu pentref hwythau ar yr un dyddiad.

Apêl arbennig unwaith eto, felly, at bawb ohonoch fydd â phleidlais yn y refferendwm-

i wneud pob ymdrech bosib i’w defnyddio hi,

a hynny o blaid cael y gwasanaethau yn ôl. Nid yn unig hynny, ond mae’n bwysig hefyd eich bod yn dwyn perswâd ar bawb o’ch teulu a’ch ffrindiau i wneud yr un peth. Un gair o rybudd, fodd bynnag – Ni chaniateir pleidlais bost mewn refferendwm.

Chwiliwch am y posteri am fwy o fanylion!

GVJ

30.12.14

Refferendwm yr Ysbyty!

Y Diweddaraf o’r Pwyllgor Amddiffyn, o rifyn Rhagfyr 2014, gan Geraint Vaughan Jones.

Mae’n braf cael adrodd bod y Pwyllgor Amddiffyn a’r Cyngor Tref bellach yn cydweithio ar y ffordd ymlaen yn y frwydr i adfer y gwasanaethau a gollwyd o’r Ysbyty Coffa:

 - gwlâu i gleifion,
 - uned mân anafiadau,
 - clinig Pelydr-X a.y.y.b.

Mae’r cynghorwyr a ninnau yn gytûn, erbyn hyn, y dylai’r gwariant o £4m, a addawyd o Gaerdydd, gynnwys y gwasanaethau yma hefyd (fel sy’n digwydd ar hyn o bryd yn Ysbyty Coffa Tywyn) ac y dylai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ail-fuddsoddi’r £¾m-y-flwyddyn y maen nhw’n ei arbed rŵan o dan yr esgus o fod yn gwella’r ddarpariaeth iechyd yn y cylch.

Bwriad y Cyngor a’r Pwyllgor Amddiffyn ydi galw am Refferendwm (‘Pleidlais Gymunedol’) ddiwedd fis Ionawr, i roi cyfle i chi, yr etholwyr, ddangos eto beth yw eich dymuniad ynglŷn â dyfodol yr Ysbyty Coffa (Fe gofiwch fod pleidlais debyg wedi derbyn cefnogaeth gref yn Fflint yn ddiweddar a’u bod hwythau hefyd yn gwrthod cymryd eu sathru gan ddieithriaid y Bwrdd Iechyd.)

Cyn y gellir cynnal Pleidlais Gymunedol, fodd bynnag, rhaid cael o leiaf 150 o bobol Blaenau a Llan, sydd â phleidlais etholiadol, i ddod i gyfarfod cyhoeddus i gefnogi’r galw am refferendwm. A barnu oddi wrth eich cefnogaeth yn y gorffennol, yna rydym yn ffyddiog y cawn weld dwywaith os nad teirgwaith cymaint â hynny ohonoch yn mynychu’r cyfarfod yn Neuadd Ysgol y Moelwyn ar Ionawr 13eg. O gael eich cefnogaeth yn y cyfarfod, yna bydd hawl gan y Cyngor Tref i drefnu refferendwm wedyn, o fewn tair wythnos i’r dyddiad hwnnw. Felly, dowch yno’n llu!