Rhan o gyfres o erthyglau gan awduron gwadd, ar thema Ewropeaidd.

Bob blwyddyn byddwn yn trafod yr un pethau… mae hi’n rhy boeth, yn rhy wlyb, gormod o ymwelwyr ar y ffyrdd, dim byd o werth ar y teledu -ac fel ‘leni trafod canlyniadau band neu gôr o Blaenau yn yr Eisteddfod. I fod yn onest does gen i ddim diddordeb mewn canu corawl na band pres – ond dros fy nigon clywed am lwyddiant unrhywun o Blaenau. Da iawn.
Tymor yr haf ydi fy ffefryn heb ddwywaith – crys t a shorts, hufen iâ, ffenestri ar agor, lan môr, barbiciw ac yn y blaen. Mae na batrwm reit gyfforddus i’r haf pob blwyddyn. Ond chydig iawn a glywais o drafod y rhain flwyddyn yma.
Dwi’n ystyried fy hun yn berson eitha positif, yn berson gobeithiol ac yn berson sy’n gweld ei wydr yn hanner llawn nid hanner gwag - ond leni ‘dwi wedi gweld y gwydriad yn hollol sych, ac yn gorlifo mewn mater o ychydig wythnosau.
Sioc fyddai’r gair cynta i ddisgrifio sut oeddwyn yn teimlo ar fore Mehefin 24ain o glywed canlyniad refferendwm Ewrop – ac yn bendant doeddwn i ddim ar fy mhen fy hun. Roeddwn wedi mynd i fy ngwely y noson gynt wedi i raglen newyddion gyhoeddi bydd y bleidlais i aros yn trechu – er yn agos.
Clywad manylion drannoeth am y llanast ar y radio ar y ffordd i’r gwaith; gallwn deimlo’n stumog (ac mae gen i stumog fawr!) yn suddo i fy sgidia ac anobaith yn llenwi’r car. Roedd gen i ffasiwn gywilydd bod Cymru wedi pleidleisio i adael, i ymbellhau ein hunain o wledydd eraill Ewrop; i wirioneddol neilltuo ein hunain …… ynysu go iawn.
Mae Cymru wedi bod yn un o’r gwledydd sydd wedi elwa fwya drwy Ewrop (a hynny’n haeddianol) a does ond rhaid i chi deithio o amgylch gorllewin Cymru a chymoedd y de i weld y fflagiau a’r placardiau sy’n dynodi cynlluniau wedi eu hariannu gan Ewrop. Bois bach, dwi’n gobeithio’n fawr nad ydi pobl yn credu bydd llywodraeth Llundain yn parhau hefo’r un lefel o fuddsoddi yn yr ardaloedd yma. Maent yn barod wedi tynnu ‘nôl addewidion yng nghylch y gwasanaeth iechyd a gwneith wynab newydd prif wenidog Llundain ddim gwahaniaeth.
Mi roedd hi’n ymgyrch fudur filain ac yn un a ganolbwyntiodd ar ofnau pobl, efo cam-arwain a ‘ffeithiau’ celwyddog ac yn anffodus dewis credu hynny wnaeth yr etholwyr. Ymgyrch eitha fflat gafwyd gan y rhai oedd am aros i mewn, ac er y diffyg arweiniad mae rhaid i ni gyd ofyn faint o ymdrech wnaethom NI i gymryd rhan. Mae gen i gywilydd mai poster yn y ffenast a thrafod ar Facebook oedd maint fy nghyfraniad i. Gwers i’w dysgu.
Wel dyna’r gwydriad gwag i chi ond diolch i’r drefn bu’r gwydriad yn gorlifo heb fod yn rhy hir wedi’r refferendwm. O un Euros i Euros arall oedd yn llawer mwy ysbroledig a wir anhygoel.
Pwy fydda’n credu y byddai tîm cenedlaethol pêl droed Cymru wedi creu y fath storm yn Ewro 2016, gyda’u sgiliau anisgwyl; chwaraewyr gyda chymeriad; chwaraewyr yn chwara fel un tîm; tîm hyfforddi prowd a brwdfrydig, ac yn bwysicach na dim i mi –eu balchder o chwarae a chynrychioli Cymru. Mi roedd yn brofiad emosiynol iawn, yn brofiad anhygoel cael teimo’n rhan o’r holl ŵyl o adra, yn arbennig o gael gweld cymaint o deulu a chefnogwyr o Blaenau allan yna yn mwynhau ac yn lysgenhadon bendigedig i’w bro. Cofio gweiddi gweld fy nai ar Match of the Day.
Mi gododd Euro 2016 galon Cymru gan greu cynhwrf a brwdfrydedd o'r de i’r gogledd a dangos ein balchder fel cenedl. Tra fod y chwarae wedi bod yn anhygoel ac yn llawer mwy na fydda r’un ohonom wedi ei obeithio amdano; yn bwysicach mae wedi creu diddordeb yn y gêm, yn ein tîm cenedlaethol ac wedi creu balchder.
Do fe gafodd y chwaraewyr a’r tim hyfforddi groeso haeddianol ac arbenning yn ôl yng Nghaerdydd – a phetai i fyny i fi, mi fyddwn wedi rhoi y gadair, y goron a’r fedal lenyddiaeth iddynt yn y ‘steddfod hefyd!
‘Mlaen i gwpan y byd rwan.
---------------------------------------------
Ymddangososdd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2016.
Dilynwch gyfres Ewrop efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon