Showing posts with label Seindorf yr Oakeley. Show all posts
Showing posts with label Seindorf yr Oakeley. Show all posts

15.10.25

Dyddiadur Is-y-coed

Colofn Rhod y Rhigymwr, gan Iwan Morgan, o rifyn Medi 2025

Bydd Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025 yn aros yn y cof am yn hir. Ces dreulio bron i wythnos lawn yn troedio’r maes eang a mwynhau amrywiaeth o weithgareddau. 

Dydd Sadwrn, 2 Awst:
Fel hen fandar fu’n ceisio chwythu’r iwffoniwm ym Mand Corris ers talwm, cefais flas ar wylio cystadlaethau’r bandiau ar y teledu. 

Da iawn chi Seindorf yr Oakeley ar ddod yn ail yn eich dosbarth! 

Nos Sul, 3 Awst:
Er bod Aled ein mab hynaf yn perfformio ar lwyfan y maes gyda Daniel Lloyd a Mr Pinc, dewis mynd i’r Gymanfa Ganu wnes i a gadael i Alwena a Rhydian fynd i gefnogi. 

Hoffais ddull di-lol Ann Atkinson o gyflwyno a chafwyd emynau a thonau oedd yn plesio’n fawr.

 

Dydd Llun, 4 Awst:
Bu’n rhaid codi’n fore i fynd i’r Orsedd, ac er mai yn y Pafiliwn y cynhaliwyd y Seremoni Urddo, roedd naws arbennig iddi dan arweiniad cadarn yr Archdderwydd Mererid. 

Mynychu darlith gan yr Athro Eurig Salisbury ar y bardd o’r 17eg ganrif - Huw Morys, Eos Ceiriog.
Croesawyd Prifardd newydd i’r llwyfan yn Seremoni’r Coroni - Owain Rhys o’r Tyllgoed, Caerdydd. Ei gasgliad o gerddi – ‘Adfeilion’ ddaeth i’r brig mewn cystadleuaeth a ddenodd 28 o ymgeiswyr. ‘Casgliad yn cyflwyno darlun tyner o sefyllfa sy’n wynebu cymaint o deuluoedd heddiw’ ydy’r casgliad yma’n ôl un o’r beirniaid, Ifor ap Glyn. Canu am ei fam, sydd bellach yn gaeth dan rwymau dementia wnaeth y bardd. A’r ‘fam’ arbennig honno ydy Manon Rhys - enillydd Medal Ryddiaith Prifwyl Wrecsam 2011 a Choron Prifwyl Maldwyn a’r Gororau 2015.

Dydd Mawrth, 5 Awst:
Dewis dilyn yr Eisteddfod ar y teledu wnes i, a rhaid ydy canmol yr arlwy. Roedd Heledd Cynwal a Trystan Ellis-Morris, ynghyd â Nia Roberts - y tri mor brofiadol bellach - yn cyflawni eu gwaith yn broffesiynol. Rhaid canmol Tudur Owen yn fawr hefyd

Dydd Mercher, 6 Awst:
Methu cyrraedd rhagbrawf yr unawd cerdd dant dan 21 oed mewn pryd oherwydd y traffig, ond cawsom gyfle i wrando ar ddatganiad Elain Iorwerth (Trawsfynydd) ar y llwyfan ac ymhyfrydu’n ei llwyddiant yn cipio’r wobr gyntaf am gyflwyno ‘Yn Genedl Drachefn’ ar y gainc ‘Gwyrfai’

Derbyn croeso yng nghynulliad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn y prynhawn pryd y dyfarnwyd Gwobr Goffa Eilir i academydd dan 40 oed am gyfraniad nodedig i faes y gwyddorau ac addysgu’r gwyddorau drwy’r Gymraeg. 

Dydd Iau, 7 Awst:
Mynychu cyfarfod yn y Tŷ Gwerin i anrhydeddu Mair Carrington Roberts. Mwynhau gwrando ar bedwarawd yn cyflwyno geiriau a gyfansoddais i Mair pan dderbyniodd Fedal Goffa T. H. Parry-Williams ym Mhrifwyl y Fenni yn 2016. Dyma ddetholiad: 

Ar aelwyd ddiwylliedig
Ym mhentre’r Gwynfryn gynt,
‘Roedd seiniau cân i’w canfod
Yn gordiau ar y gwynt;
Amlygwyd lle i gainc a gair,
Ac etifeddu hyn wnaeth Mair.

Ei medrau fel athrawes
Oedd gadarn fel y graig,
I’r Alban ac i Loegr
Y cariodd ‘dân y Ddraig;’
A phan ddychwelodd i’w hen dre
Rhoes fri i’r ‘Pethe’ yn y lle.

Llwyddiannau cenedlaethol
Yn gyson ddaeth i’w rhan,
Gwnaeth graen ei beirniadaethau
Argraff mewn llawer man;
Manteisiodd y rhai hŷn a phlant
Ar faint ei dawn ym maes cerdd dant.

Fe’i hanrhydeddir heddiw
Ar lwyfan ein Prif Ŵyl,
A braint i ninnau ydyw
Cael uno yn yr hwyl, 
A chael cydnabod yr holl waith
Gyflawnodd Mair dros gyfnod maith.

 

Dydd Gwener, 8 Awst:
Eto, oherwydd traffig trwm, bu i ni fethu â chyrraedd rhagbrawf y triawdau/pedwarawdau cerdd dant agored mewn pryd, ond bu i ni lwyddo i glywed y rhai ddaeth yn fuddugol – Ceri, Ruth a Siriol. Y darn prawf eleni oedd geiriau a gyfansoddais yn ôl ym 1977 ar ôl gwylio’r rhaglen ‘Children’s Pictures of God’. Fe’i gosodwyd ar y gainc ‘Gelli Lenor’ gan Einir Wyn Jones - un o blant Cwm Teigl: 

Pan baentio’r gwanwyn wyrdd yn nail y coed
A’r blodau’n garped lliwgar dan fy nhroed,
Pan brancio’r ŵyn ar hyd y twyni iach
Daw i mi lun o Dduw fel plentyn bach.

Pan daflo’r haul ei gyfoeth dros y tir
Yn fantell aur o erwau’r wybren glir;
Pan welaf lawnder haf yn llysiau’r ardd
Caf lun o Dduw fel llencyn ifanc, hardd.

Pan ddelo’r gwyll i ‘sbeilio ‘sblander pnawn,
A chnau y cyll yn eu cwpanau’n llawn,
Pan grino dail y deri dan fy nhroed
Fe fydd fy Nuw bryd hynny’n ganol oed.

Ond pan ddêl eira fel conffeti gwyn
I wledd briodas deg y ddôl a’r bryn,
A’r iâ i roddi bollt ar gân y dŵr,
Bydd Duw â’i farf yn llaes fel rhyw hen ŵr.         

Trefnais i gyfarfod â’m cyfaill Simon Chandler [Seimon ap Lewis] yn y fan ymgynnull yng nghefn y llwyfan cyn y Cadeirio.

Roedd y profiad o gael bod yn bresennol yn yr Orsedd i’r seremoni honno eleni’n un hynod o emosiynol pan gododd y bardd buddugol, Tudur Hallam, Foelgastell, Sir Gaerfyrddin ar ei draed. Awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn – ‘Dinas’ osodwyd yn destun. Yng ngheiriau Peredur Lynch, un o’r beirniaid, ‘fe ganodd gân o ddyfnderoedd isaf ei fod, a llunio awdl na ddymunasai erioed ei llunio’. Mae un arall o’r beirniaid, Llŷr Gwyn Lewis yn canmol y bardd ‘am ei ddewrder, ei onestrwydd, ei genadwri inni o le mor arswydus ac unig a fydd yn gysur calon i rai sydd yn mynd drwy brofiadau tebyg i’r eiddo ef ei hun.’

Dydd Sadwrn, 9 Awst:
Daeth naw o gorau meibion i’n diddanu ar y prynhawn Sadwrn olaf – ac yn eu plith, Côr y Brythoniaid dan arweinyddiaeth John Eifion. Er na ddaeth llwyddiant y tro yma, credaf iddyn nhw lwyddo i gyflwyno rhaglen amrywiol a heriol. 

I gloi gweithgarwch wythnos orlawn, pleser fu cael eistedd yn y Pafiliwn i fwynhau’r Epilog gyda John’s Boys a chantorion ifanc disglair eraill. 

- - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2025




28.10.19

Fy Manod

Mae dylanwad y filltir sgwâr yn allweddol yn aml iawn wrth i rywun ddatblygu diddordebau, a’r rheiny’n aml yn arwain at yrfa greadigol. Mae Gwyn Vaughan Jones yn adnabyddus heddiw fel actor ar gyfres boblogaidd Rownd a Rownd. Yma cawn gipolwg ar ei daith o’r Manod i fyd gwaith.
Er mod i wedi gadael fy nghartref yn Manod ers dros 40 o flynyddoedd, pan fydd pobol yn gofyn o ble dwi’n dod? Blaenau Ffestiniog ydi’r ateb, ond fydda’i wastad yn pwysleisio “o Manod, Blaenau Ffestiniog”. Yno yn 6 Tyddyn Gwyn (drws nesaf i Anti Ifans, hen gariad Hedd Wyn) ges i’n magu. Yno mae fy ngwreiddiau; ac yno roddodd sylfaen i bob dim a ddigwyddodd ar ôl hynny.

Mae Manod yn linyn hir o stryd, sy’n dechrau -i mi beth bynnag- ger tŷ Dr Evans fel y dowch chi o Llan Ffestiniog, ac yn ymestyn yr holl ffordd heibio Gwaith Sets tua Tanymanod, ac mae’r hen gytiau sinc wrth Garej Cambrian yn nodi bod rhywun wedi croesi Checkpoint Charlie ac wedi dod i ‘downtown’ Blaenau! Roedd pobol Manod wastad yn ‘mynd i fyny i Blaenau’ i neud negas ac maen nhw dal i neud siwr o fod. Nid sybyrb mo Manod -o naci- ond pentref o fewn y dre! Pentref cystal a Llan neu Tanygrisiau bob tamad!

Sy’n dod a fi yn daclus at y trwbador o Danygrisiau, Gai Toms. Mae Gai wedi llwyddo yn feistrolgar i godi Tanygrisiau i statws eiconig trwy ei ganeuon a’i eiriau coeth, wel dwi am ymladd cornel Manod am eiliad rwan a deud fod y ddau le yn ddrych o’u gilydd a rwbath sydd gan Tangrish, wel, mae gan Manod hefyd..! Dau hen bentref sydd wrth droed eu mynyddoedd – y Manod Mawr a’r Bach a’r Moelwyn Mawr a’r Bach. Mae gan Danygrisiau ysgol, llyn, rhaeadr, hen felin wlan, hen bost, cae chwarae, chwareli, ac wrth gwrs mae gan Manod rheini i gyd hefyd. Poblogaeth tebyg, tirlun a chymeriadau tebyg. SNAP!

Wrth feddwl yn ôl i´r 60’au a’r 70’au pan ges i fy magu yn Manod, roedd y lle yn frith o gantorion a cherddorion. Fy nhad, Meirion Jones, arweinydd a sefydlydd Côr y Brythoniaid, wrth gwrs oedd y dylanwad mwyaf arna i. Roedd yn godwr canu yng nghapel Hyfrydfa ac yno roedd hadyn y Brythoniaid wedi’i hau yn ei feddwl. Yn Hyfrydfa hefyd oedd John Tyddyn Gwyn yn aelod: John Llewelyn Thomas i roi ei lawn enw, un o faritoniaid gorau Cymru yn ei ddydd, a fu farw yn ddiweddar iawn a mawr fydd ei golled. Dwi’n cofio mynd lawr efo John a nhad i Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, 1964 yn mini-fan John: dad yn y sêt passenger a mam, ‘y mrawd bach Gareth a fi, ar lawr yng nghefn y fan ar glustogau! Roedd Dad a John yn cystadlu ar yr unawd bariton ac mi gafodd y ddau lwyfan. Yn anffodus iddyn nhw, y canwr arall a gafodd lwyfan oedd Gwynne Howell - a oedd yn Llundain yn astudio canu ac a ddaeth yn seren opera enwog yn y blynyddoedd ar ôl hynny. Y fo wrth gwrs gafodd gyntaf, John yn ail, a dad yn drydydd! Fe wnaeth Manod yn reit dda y diwrnod hwnnw!

Erbyn oeddwn i’n ddeg oed, roedd dylanwad cerddorol fy nhad yn fawr arnai. Gofynodd dad i Bob Morgan, arweinydd Band yr Oakeley, a fedra fo roi gwersi corn i mi. Bob wrth gwrs yn byw yn Manod hefyd -yn Penygwndwn- ac yn ddyn arall a gafodd ddylanwad aruthrol arna i, a mawr yw fy nyled iddo fo. O fewn y flwyddyn roeddwn yn aelod o’r band ac yn chwarae 3rd cornet. Roedd Bob, fel dad ac eraill, wedi rhoi eu bywydau i gerddoriaeth ac i’r gymdeithas yn y Blaenau, ac wedi rhoi cyfle i nifer fawr o blant a phobol yr ardal i ddysgu am fiwsig a chael cyfla i ehangu eu gorwelion. 


Agorodd y cornet a’r trwmped ddrysau i gyfleoedd di-ri yn fy arddegau. Bûm yn aelod o fandiau, cerddorfeydd a chorau drwy’r 70’au. Ond nid miwsig oedd pob dim chwaith! Roeddwn i wrth fy modd efo ffwtbol, ac yn chwarae efo Ieuenctid Blaenau, ac mi oedd ganddo ni dîm da hefyd. Gyrhaeddon ni ffeinal Cwpan Ieuenctid Gogledd Cymru yn 1974 yn erbyn Llandudno Swifts efo Neville Southall yn gôl iddyn nhw. Mi wnes i sgorio foli yn erbyn Southall ond mi gollon ni 2-1! Dwi wedi gwledda ar y gôl honno am flynyddoedd! Hyd heddiw pan fydda’i yn mynd am dro heibio cae ffwtbol Cae Clyd, dwi’n dal i gael wiff o linament, a chael fy atgoffa o fynd i weld tîm Blaenau, pan oedd Glyn Owen yn chwarae yn ganol cae, a daw lluniau o Glyn a’i comb-over fel Bobby Charlton a’i goesau bach cam i’m cof. Roedd o yn athro mathemateg yn Ysgol y Moelwyn am flynyddoedd i’r rhai sy’n ei gofio.

Yn 2020 bydda’ i’n dathlu 40 mlynedd o fod yn actor proffesiynol. Dwi wedi bod yn chwarae rhan Arthur Thomas yn Rownd a Rownd ers dros 10 mlynedd rwan ac wrth agosau at y dathliad mae’n braf medru edrych yn ôl a sylweddoli dylanwad bro fy mebyd ar fy mywyd. Mae arogl Capel Hyfrydfa dal yn fy ffroenau.  Bydda’i dal yn mynd i Manod yn amal -er mod i wedi emigratio i Benrhyndeudraeth- i weld mam sydd dal yn byw yn y bynglo ar safle hen stesion Manod. A bydd rhyw gynhesrwydd cyfarwydd yn dod drwyddai pan fyddai yn dreifio o Ryd Sarn a gweld yr arwydd MANOD 2, “cyn troi am y Ceunant Sych unwaith eto” fel dywedodd rhyw bwt o fardd o Traws un tro wrth iddo ddyheu o bell am gariad wrth droed y Manod.
--------------------------------

Un o gyfres o erthyglau gwadd ar thema 'GWAITH', a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2019.

26.12.16

Meistri Corn

Seindorf yr Oakeley yn y 1920au.

Mewn ymateb i’r llun difyr o seindorf yr Oakeley, a anfonwyd i ni gan Glynne Griffiths, Ross on Wye, cafwyd ysgrif ddiddorol dros ben gan Bob Morgan, cyn-arweinydd adnabyddus y band.


Credaf fod y darlun o Fand yr Oakeley wedi ei dynnu cyn 1930.  Mae fy nhad Dafydd Morgan yn eistedd yn y rheng flaen hefo’r bass trombone, a mi ‘roedd yn Utica (UDA) o 1927 hyd 1931, fel mae’n debyg mai rhwng 1923 a 1927 oedd y cyfnod mae ein cyfaill yn son amdano.  R’wyf yn adnabod amryw o’r chwaraewyr gan i mi hefyd ymuno a’r band ar ddiwedd 1931.

Yn eistedd ar lawr mae John Roberts ‘Shine’ fel ag 'roedd pawb yn ei adnabod – a’r llall ydi Dennis Griffiths, a ffurfiodd y ‘Night Hawks’  (Cerddorfa Ddawns) cyn iddynt newid i ‘New Majestic’ dan ofal Bob Gwynant.  Mae tad Shine yn eistedd y tu ôl iddo yn y rheng flaen – hefo’r trombone, yr ail trombone ydi Ernie Brown o Llan, a yna Dafydd Morgan ar y bass trombone.

Wm Edward Jones (drwmar) sydd yn ei ochr hefo’r bass, ac yn y pen mae Dan Jones (brawd Jack Pant – tad Gruffydd John Postman).  William Richard Edwards (tad Dora Edwards) oedd yr arweinydd hefo Bob Smith wrth ei ochr.  Hwn, i raddau helaeth oedd y band ennillodd 2 wobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol y Wyddgrug 1923.

Yn y rheng ganol gwelwn Tal Morris, Wil bach Band, Dick (Hen Golwyn), Llew Dolwyddelan, Owen Owen, Dick Meirion (hwn oedd yn chwaraewr flugel da, er nad oedd ganddo ddant yn ei geg!) – yna Albert Humphreys Penrhyn, Jonny Lloyd Smith (tad Oms), Robin John Morgan (tad Kathleen Glynllifon), Jack Daf (tad Alwena Davies – teulu Derfel) a’r dyn tal yn y pen ydi ‘Jack Rich’ Gorwel.  Y tu ôl mae Capt Lewis Davies, perchennog y papur lleol ‘Y Gloch’ a hefyd yr ‘Empire’ lle mae’r hen Glwb Squash heddiw.

Darlun diddorol iawn – un nad wyf wedi ei weld o’r blaen – ond yn anffodus r’wyf methu a chofio Glynne gan ei fod yn y band yn y cyfnod cyn i ni fel teulu fynd i Utica – ond 7 oed y pryd hynny.

Daw hanes diddorol i fy meddwl am Owen Thomas (Now Barbar) sydd yn eistedd yn y rheng flaen hefo’r dwbl B.  Hwn oedd rheolwr chwarel ‘Rhiwbach’ ac 'roedd wedi rhoi gwaith i Dennis Lewis Griffiths a Bob Gwynant.  Wrth gwrs gan i’r ddau fod yn perthyn i’r ‘Night Hawks’ 'roeddynt yn colli ymarferiadau yr Oakeley ac yn hwyr i’w gwaith yn y bore, ar ôl bod yn chwarae mewn dawns yn rhywle neu gilydd.

Un bore wedi cyrraedd eu gwaith yn hwyr dyma Now Barbar yn gofyn iddynt pam oeddynt yn hwyr, a’r atebiad oedd eu bod wedi bod yn perfformio gyda’r ‘Night Hawkes’, atebodd yn syth, “Wel, Day Hawkes ‘rydw i eisiau” a rhoi y sac iddynt yn y fan.  Yn anffodus 'roedd yn golled i’r band hefyd!!
----------------------------

Roedd y llythyr isod yn yr un rhifyn hefyd.

Llangefni, Ynys Môn.
Annwyl Olygydd,

Cyfeiriaf at yr argraffiad olaf o Llafar Bro, a’r llun diddorol iawn o Fand yr Oakeley.  Wrth edrych  ar y llun ‘rwyf yn hollol sicr mae’r arweinydd yn y rhes gyntaf yw fy nhaid William Richard Edwards  (Cyfeirir ato yn yr erthygl fel William Richards).

Roedd yn arweinydd y band mwy neu lai o 1897 i 1927 – y flwyddyn a fu farw.  Tybiaf felly fod y llun wedi ei gymeryd o gwmpas 1920-25?

Hoffwn ddiolch i Glynne Griffiths am adael i mi ychwanegu llun arall at archifau’r teulu.  Edrychaf ymlaen i weld nifer o hen ffrindiau yn yr Eisteddfod Genedlaethol sydd yma y flwyddyn nesaf.

Yn gywir iawn,
Trefor Edwards

----------------------------------------------------

Erthygl Glynne Griffiths

--------------------------------------------------
 
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 1998.



18.11.16

Cyngerdd Dathlu

Cafwyd cyngerdd ardderchog yn Ysgol y Moelwyn ddiwedd Medi i ddathlu llwyddiant Seindorf yr Oakeley a Chôr y Brythoniaid yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Gwnaed elw o dros £1000 i agor cyfri' Gŵyl Cerdd Dant 2018 a gynhelir ym Mlaenau Ffestiniog. 

"Un o’r ardaloedd hollbwysig yn hanes y deffroad a fu ym myd canu gyda’r tannau yn ystod y ganrif aeth heibio oedd ardal Ffestiniog,” meddai’r Doctor Aled Lloyd Davies yng nghyfrol gyntaf ‘Canrif o Gân’ - cyfrol sy’n olrhain datblygiad cerdd dant ym Meirionnydd, Dinbych a’r Fflint o 1881 hyd 1998.
“Yno, oddeutu troad y ganrif, ynghanol bwrlwm diwydiant llechi’r cyfnod, yr oedd hefyd fwrlwm diwylliannol, lle rhoddwyd bri ar lenyddiaeth a barddoniaeth, côr a  band, gwleidyddiaeth a chrefydd.”
Er mai atgof o’r dyddiau fu ydy olion tomennydd rwbel y chwareli bellach, a bod nifer yr addoldai
wedi lleihau’n fawr, mae’r bri’n parhau yn yr agweddau diwylliannol eraill, fel y tystia’r gyngerdd yma– yng nghwmni Seindorf yr Oakeley (a gipiodd y wobr gyntaf ym Mhrifwyl y Fenni am y drydedd waith yn olynol) a Chôr y Brythoniaid – y côr meibion a ddaeth gyntaf allan o wyth o gorau yn yr un Brifwyl. Dyma destun dathlu’n wir!

Ar droad y ganrif ddwytha, roedd yr hen gelfyddyd o ganu gyda’r tannau hefyd yn rhan o fwrlwm y fro hon. Canolwyd hyn o amgylch telynor oedd yn gwbl ddall, sef, David Francis (Telynor Dall o Feirion) - un y mae ei ddisgynyddion yn parhau i gynnal y pethe yn yr ardal heddiw. Mae’r diolch i’r Doctor Robert Roberts, meddyg lleol, a drefnodd i’r telynor gael addysg mewn ysgol i’r deillion yn ninas Lerpwl, ac ymhellach, i gael gwersi telyn. I gartre’r telynor yn y Llechwedd, ac yna i’r caban a elwid ‘Llys y Delyn, Adwy Goch, Rhiwbryfdir’ y cyrchai nifer o ‘egin-ddatgeiniaid’ i drafod y gelfyddyd, i ganu, ac i ddysgu sut i osod gair ar gainc.

Pwy oedd y rheiny, a phwy ddaeth ar eu holau i barhau’r traddodiad yma’n Stiniog? Dydy gofod ond yn caniatáu i mi wneud dim mwy na’u henwi. Dyna i chi W.O. Jones (Eos y Gogledd) - chwarelwr yng Nghwmorthin; David John Roberts (Dewi Mai o Feirion) - a osododd drefn ar draddodiad cerdd dant yng Nghymru yn hanner cynta’r ugeinfed ganrif; John David Jones (Ioan Dwyryd) a’i ddisgynyddion. Cofiwn Elinor a’r annwyl Gwenllïan, a fu mor hynod weithgar dros nifer faith o flynyddoedd fel athrawes telyn deithiol ac yn hyfforddi datgeiniaid; William Morris Williams, Tanygrisiau, a fu’n hyfforddi dwy genhedlaeth ‘Côr Telyn Barlwyd’ ... ac i ddod yn nes at ein dyddiau ni, Mona Meirion ac Einir Wyn.

Ymwelodd y prif wyliau â Meirionnydd sawl gwaith yn ystod yr ugeinfed ganrif a dechrau’r ganrif yma. 1898 oedd yr unig dro i’r Brifwyl ymweld â thre’r Blaenau, a chynhaliwyd Prifwyl yr Urdd yma unwaith – ym 1936.

Ers ei chychwyn ym 1947, ni chynhaliwyd yr Ŵyl Cerdd Dant yma o gwbl. [Gwir ydy dweud, er hynny, iddi fod unwaith yn nalgylch Llafar Bro – a hynny yn Nhrawsfynydd, pan oedd yn ei babandod ym 1957.]

Yn 2018, cawn unioni’r cam, a bydd yna gyfle i ninnau’r trigolion estyn cynhesrwydd ein croeso i’n cyd-wladwyr. Mae’r amrywiol weithgareddau sydd wedi cymryd lle yn yr ardal dros y blynyddoedd dwytha wedi profi’n llwyddianus, a’r gymuned wedi eu cefnogi â brwdfrydedd.

Peidiwch â phoeni os nad ydych chi’n ddatgeiniaid cerdd dant neu’n delynorion, yn gantorion neu ddawnswyr gwerin, nac ychwaith yn llefarwyr, ymunwch efo ni i drefnu ‘GŴYL’ fydd yn dangos i Gymru gyfan fod fflam Cymreictod a’i diwylliant eto’n bodoli ym Mro Stiniog.

Iwan Morgan
(Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Gŵyl Blaenau Ffestiniog a’r Fro 2018)
----------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2016.

Tiwnio'r Tannau -hanes gwahodd yr Ŵyl