25.6.18

Stolpia -bwyell

Parhau cyfres Steffan ab Owain am Hynt a Helynt hogia’r Rhiw yn y 50'au

Rwyf wedi sôn mwy nag unwaith yn Stolpia am y domen lwch lli a fyddai ar yr ochr draw i afon Barlwyd, ac i gyfeiriad Tomen Fawr Chwarel Oakeley yn ardal Glan-y-Pwll, on’do?

Wel, roedd cwmni Mr. Tudor, Trawsfynydd, a oedd yn gweithio’r felin goed gerllaw wedi codi pont bren (pompren) i’r diben o groesi tros yr afon gyda berfâu yn llawn llwch lli i’w tipio ar y tir yr ochr draw, ac wrth gwrs, bu hynny yn digwydd yn gyson am flynyddoedd nes yr oedd tomen fawr ohono yno yn y diwedd. Hwn oedd ‘anialwch’ hogia’r Rhiw a Glan-y-pwll pan yr oeddem yn chwarae cowbois ac indiaid yn nyddiau’r 50au.

Melin goed Glanypwll. Llun o gasgliad Steffan

Un tro, yn ystod diwrnod braf un haf, tra’n cerdded ar hyd ochr yr afon efo’r hogiau, deuthum ar draws pen bwyell wedi ei thaflu ar y lan, ac er ei bod ychydig yn rhydlyd, roeddwn yn meddwl yn siŵr y byddai’n gwneud tomahoc dda i ni gael chwarae efo hi. Gan nad oedd coes, neu droed arni, fel y dywed rhai, euthum i’r domen gwastraff coed a fyddai rhwng y felin a chefnau tai Glan Barlwyd i chwilio am ddefnydd coes.

Wedi dod o hyd i goedyn addas, gosodais fel coes ym mhen y fwyell,  ac wrth gwrs, roedd yn rhaid rhoi tro arni hi i weld os gallai dorri drwy’r coed a’r rhisgl o gylch y lle. Wedi canfod ei bod yn gwneud ei gwaith yn foddhaol, mi es ati hi i dreio’n llaw ar rywbeth mwy - sef rhan isaf y bont bren a groesai’r afon. Ar ôl taro y cynhalbost agosa at y felin sawl tro a gweld bod yr hen fwyell yn gwneud ei hôl arno yn bur dda, mae’n rhaid bod y sŵn y taro a’r torri wedi cyrraedd clust gweithwyr y felin, a pheth nesaf roedd Mr Iorwerth Powell, y fforman, (sef gŵr y ddiweddar, Annie Powell, Bryn Twrog) yn sefyll ar y bont yn edrych i lawr ar y fandal bach. A dyma floedd o’i enau:
“Be’ wyt ti’n feddwl wyt i’n wneud y cena’ bach yn torri’n pont ni ?!”
Dim byd ” meddwn innau yn ddiniwed - a’i sgrialu hi am adre’ nerth fy nhraed. Byddai Annie Powell yn fy atgoffa am un o’m helyntion bore oes o dro i dro, ac yn gwenu wrth adrodd y stori.
-------------------------------------

Ymdangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2018.
Dilynwch Stolpia efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde (rhaid dewis web view os yn darllen ar ffôn).


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon