Showing posts with label glo. Show all posts
Showing posts with label glo. Show all posts

20.9.20

Newyddion Llanfrangoch

Eisteddfod

Yn Eisteddfod flynyddol Llanfrangoch –a gynhaliwyd eleni, am resymau amlwg, trwy’r post ac ar Zoom -enillwyd y wobr am wau pâr o fenyg gan Joan Edwards, Llys y Fedwen. Dywedodd y beirniaid, Mrs James Evans, fod dyfodol disglair i’r ferch hon yn y maes hwn, ac na welodd hi erioed gystal gwaith. Yr unig fai y medrodd ei ddarganfod ar ei gwaith gwych oedd ei bod wedi gwau dwy faneg chwith, a bod y fawd ar gefn y faneg yn un ohonynt. Arwahân i’r brychau hyn yr oedd y gwaith yn odidog drwyddo draw. Gofidia na buasai mwy nag un cystadleuydd wedi ymgeisio am y wobr, ond yr oedd yn dyfarnu’r wobr yn llawn i Miss Edwards, gyda chanmoliaeth uchel.
Diolchwn i Mr Samuel Edwards, tad y ferch fuddugol am yrru’r newyddion atom. Cyd-ddigwyddiad diddorol yw mai chwaer Mr Edwards, sef modryb i Jane, oedd yn beirniadu’r gystadleuaeth.
 

Llongyfarchiadau hefyd i Mr Edwards ar ennill yn yr adran lên efo cerdd yn cyfarch ei ferch. Roedd nifer sylweddol iawn o benillion, ac ni allwn atgynhyrchu’r cyfan o ddiffyg lle, ond dyma’r cyntaf ohonynt.


Ymlaen, O ferch, ymlaen, ymlaen,
I ennill mwy o wobrau,
A gwau pullovers grand eu gwedd,
A sannau twt eu sodlau;
Y mae athrylith yn dy law,
A medr yn dy fysedd,
O dal i fyny enw da
Dy deulu hyd y diwedd.
 

Dawnsio a dathlu

Llongyfarchiadau i Begw Williams, Stryd Brookland, ar dderbyn ysgoloriaeth i ysgol ddawns ryngwladol Llanfrangoch. Mae hi’n edrych ymlaen yn arw i astudio’r ddawns fodern o dan yr enwog Madame Léise, os gaiff yr ysgol ail-agor, yn dilyn anghydfod hir a blin am gyflogau’r glanhawyr.
 

Mwgwd mwngral

Pob lwc i Dicw Bach Pentre Meini efo’i gwmni newydd sy’n creu masgiau Covid-19 yn arbennig ar gyfer cŵn a chathod yn y cyfnod anodd hwn. Llwyddodd i ddod i delerau am frethyn addas efo ffatri ddillad isa’ Boyd yn y Bala, sydd wedi gweld cwymp aruthrol yn y galw am eu y-fronts yn dilyn poblogrwydd cân Trôns Dy Dad, gan Gwibdaith Hen Frân sy’n dilorni’r dilledyn hen-ffasiwn. Daw’r mygydau mewn patrwm tartan, draig goch, ac amrywiaeth o liwiau i warchod eich annwyl gyfeillion anwes.
 

Cŵyn am y glo

Y mae Mr Coke Pugh, un o’n gwerthwyr glo lleol, yn bygwth cyfraith ar bwy bynnag sy’n meddio awgrymu mai yn chwarel y Fotty y mae’n cael ei lo. Ni bu erioed yn gwsmer i’r chwarel honno. O Chwarel yr Oakley y mae o’n cloddio’r cyfan o’i lo.
 

Hyd buwch.

Un enghraifft o'r posteri hyd buwch...

Mae cynrychiolwyr yr undebau amaeth yn lleol yn ystyried gwneud cŵyn ffurfiol i’r Senedd, wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi posteri am argyfwng Covid-19, sy’n cymharu’r 2 fetr sydd ei angen ar gyfer ymbellhau cymdeithasol diogel, efo hyd buwch.

 “Efallai bod buwch tua dwy fetr o hyd” meddai Wil Dwalad, Penmaen, “ond diawch, does gen i mo’r amser i gario gwartheg ‘nôl-a-mlaen at ddrws Coparet y Blaenau, er mwyn iddyn nhw gael dangos i’r bobol sy’n ciwio pa mor bell i sefyll oddi wrth eu gilydd.”  Mi ddown ni a diweddariad i chi y tro nesa, gan fod y Senedd yn son am ostwng yr hyd i un fetr. Mi fydd yn haws mynd a dafad ‘nôl-a-mlaen, mi dybiwn...



----------------------------


[Llanfrangoch]

Mae nifer ohonoch dwi’n siwr, wedi’i dallt hi, ac wedi gweld ein bod wedi sleifio ambell ddarn o rwdlian llwyr ymysg y newyddion cymunedol. Dynwared campau John Ellis Williams a Moi Plas oedd y bwriad, ac mae rhai o’r darnau ffug wedi eu haddasu o’u gwaith nhw yn Rhedegydd y 1950au. 

Roedden nhw’n ceisio ysgogi trafodaeth a bwrlwm am bentref Llanfrangoch -nad oedd neb yn gwybod lle’r oedd o- pan oedd gwerthiant y papur yn gostwng. Gobeithio bod y darnau wedi codi gwên. Maen nhw wedi llenwi cornel yn y silly season sonwyd amdano yn ‘Smit Newyddion’ ! A phwy a ŵyr na fydd rhywfaint o hanesion Llanfrangoch yn ymddangos o dro i dro yn y dyfodol hefyd! 

PW
-----------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf/Awst 2020

Llygad Newydd: Mwy o hanes Moi Plas.

21.6.18

Ffermydd Bro Ffestiniog -5

Ar ôl crwydro o fferm y Ffynnon i Fwlch Iocyn yn y bennod ddwytha, dyma ran olaf plwyf Ffestiniog Les Darbyshire, a Thrawsfynydd yn dilyn y tro nesa'.

Y ffarm nesaf ydyw Pengwern, hon yn ‘home farm’ y Plas yn cael ei rhedeg gan y goruchwyliwr, ffarm daclus a glân ond er budd y Plas yn unig. Ymlaen ar hyd yr hen ffordd i fferm Bryn Rhug a oedd yn medru cadw y teulu ar gynnyrch y ffarm ac nid oedd angen iddynt gael gwaith tu allan i'r ffarm. Dal ymlaen ar y ffordd a throi i fyny Lôn Dywyll sydd yn ymuno â'r brif ffordd ger y tŷ o’r enw Cartref, neu fel yr oedd yn cael ei adnabod -Plas Bowton-  ac ar ochr arall i'r ffordd, mae ffarm Teiliau Bach, hon eto yn ffarm lewyrchus, a hefyd gerllaw Teiliau Mawr.

I orffen y daith awn yn ôl i gylch Bethania i weld y ffermydd bach yno. Tŷ’n Drain, Penbryn, a'r Fuches Wen:  tyddynnod i gyd ond yn bwysig i'r gymdogaeth, a dyna cylch y Blaenau wedi cau.

Yn bwysig i'r ffermydd defaid oedd yr hawl i'w defaid gael pori ar y mynydd. Roedd gan bob ffarm rif neilltuol yr oedd yn rhaid cadw ato. Tybed, erbyn heddiw, be ydi hanes yr hawl yma? 

Roedd gan ffarm Tyddyn Gwyn hawl i ddefaid a'r ceffylau bori ar fynydd Tanymanod ac ar y mynydd rhwng y gwaith sets Pengwern draw at Gae Clyd.

Er mai hanes ffermydd sydd ganddom, mae yna hefyd yn yr un cyfnod, weithgareddau eraill yn gysylltiedig mwy na heb gyda'r ffermydd, sef cariwrs. Hyd y gwn i roedd yna gariwrs yn Nhanygrisau, Blaenau, Manod a Llan i gyd gyda’u trol a cheffyl. Roeddent yn rhan o'r gymdeithas - yn y Manod roedd Bob Tyddyn Gwyn hefyd yn gariwr, byddai yn clirio'r lludw ar ddydd Llun ac wedyn yn dosbarthu glo, hyn yn golygu llwytho'r glo o'r tryc lein i'r drol ac wedyn ei bwyso a mynd a fo i gwsmeriaid Richard Lewis, John Jones y Post a Dafydd John Russell.  Yn hwyrach fe brynwyd busnes glo Richard Lewis gan y Co-op lleol a sefydlu iard Stesion Manod yn brif depot glo iddynt, a hyn mewn rhyw ffordd oedd yr ergyd olaf i'r cariwrs lleol.  Roedd y Co-op yn defnyddio loris mecanyddol i ddosbarthu’r glo, a hefyd yn medru ehangu y cylch, nid oedd angen ceffyl a throl mwyach.

Un arall oedd yn gariwr oedd Harri Glasfryn o gylch Bethania.  Hen lanc oedd Harri a Mary Bank oedd ei ‘housekeeper’, un o Benmachno oedd hi. Roedd gan Harri drol a cheffyl at waith lleol, ac roedd ganddo un neu ddau o geffylau yn gweithio yn y chwarel. Cofiaf i'r ceffyl a oedd yn gweithio yn y chwarel farw. Nid oedd Harri yn gefnog a dyma y gymdogaeth yn casglu arian i brynu ceffyl arall iddo.

Diddorol hefyd yw hanes beth a elwir yn ‘Y Midnight Express’ -  roedd y cyngor lleol yn cyflogi cariwr gyda throl pwrpasol i glirio golch ayyb, o'r tai nad oedd wedi ei cysylltu â phibellau carthffosaeth ac roedd hyn yn cael eu wneud liw nos - nid wyf yn cofio enw y cariwr, ond yr oedd yn un rhadlon braf ei fyd, yr oedd ganddo fodrwy aur yn un glust, peth anghyffredin yn y cyfnod yna i ddynion.   

Yn olaf, darn arall pwysig i’r byd amaethyddol oedd y busnes llaeth. Yr oedd llawer ohonnynt yn y cylch, Harri Pritchard, Lewis Dorfil, Davies Bowydd, a Glyn Dairy i enwi ond ychydig. Byddant yn mynd i wahanol ffermydd i gasglu llefrith ac wedyn yn ei ddosbarthu i'w cwsmeriaid. Y llaeth yn y mwyafrif mewn poteli gwydr a oedd yn dal peint - ond cyn hynny byddant yn dod a fo mewn piser a defnyddio piser mesur peint, neu un hanner peint, i arllwys y llefrith i jwg y cwsmar.

Byddant allan ym mhob math o dywydd, diolch amdanynt ac am eu hymroddiad i'r gwaith.
---------------------------------------------

Dyma ail hanner erthygl a ymddangosodd yn rhifyn Ebrill.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod.
Llun -Paul W

23.7.15

Trem yn ôl- Atgofion Hanner Canrif

Erthygl gan Pegi Lloyd Williams a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 1990 Llafar Bro.

Atgofion Hanner Canrif. Profiadau geneth fach yn tyfu i fyny’n y Blaenau yn nhridegau’r ganrif ddiwetha’.

Lle braf i blentyn mewn tref oedd byw yn Stryd Maenofferen. Roedd y dyffryn wrth ymyl, a Pen Banc, y parc, siopau, y capel a’r ysgol wrth y drws cefn.

Unwaith, bum i’n sâl a methu â mynd i’r ysgol. Cefais y clefyd melyn. ‘Sglyfaeth o beth!  Dim eisiau bwyd, methu edrych ar facwn, wyau na menyn. Pan oeddwn yn fy ngwely yn rhy sâl i godi fy mhen, roeddwn yn clywed y plant yn gweiddi yn y gwahanol ddosbarthiadau,

‘Twice one are two, twice two are four’, neu ‘dee o gee DOG, dee o gee DOG, see e tee CAT, see e tee CAT’; y lleill yn bloeddio, ‘London, Chester, Swansea, Cardiff’ a phethau tebyg.

Standard three’oedd y rhain, yn rhoi enwau Saesneg ar drefi, mewn ateb i Miss Pritchard. Rhaid oedd cael popeth yn Saesneg. Nid oedd hyn yn broblem i mi. Eu dysgu yn Gymraeg oedd fy mhroblem. Mi fydda i’n meddwl weithia’ mai dyna oedd achos y ddwy ffeit. Wedi camddeall y plant roeddwn i, neu y nhw ddim yn fy neall i’n parablu o gwbwl.

Pan fydden ni’n mynd i chwarae i’r dyffryn, mynd i ‘chwarae i’r coed’ fydden ni’n ddeud. Dyna le! Llithro i lawr Cae Ochor ar gardbord, a chael y drefn iawn am rwygo ein nicers. Chwarae pêl a rownders, tŷ bach, doctor a nyrs yn Cae Fflat. Hel mwyar duon yn Cae ‘No. 7.’, trochi ein traed yn yr afon a hel penbyliaid, siglo yn braf ar ganllaw’r bont, a gwylio cariadon. Symud ar ein boliau’n wyliadwrus rhag iddynt ein clywed, a’i gluo hi os byddai’r boi yn bygwth dod ar ein holau. Roedd symud yn wyliadwrus ar ein boliau yn rhywbeth yr oeddem yn arbenigo ynddo.

Byddem yn mynd i’r pictiwrs ar b’nawn Sadwrn i weld helyntion ‘Pearl White’. Byddai ‘Pearl’ mewn helynt byth a beunydd a byddai’n rhaid mynd i’r Empire, neu ‘Remp’ fel y byddai pawb yn ei alw, un Sadwrn ar ôl y llall, i edrych a fyddai hi’n llwyddo i ddod allan ohonynt.

Ac yma caem weld ‘Tom Mix’, ein harwr, ar gefn ei geffyl gwyn, ac fe fyddai yna ddigon o gowbois da a drwg, ynghŷd ag Indiaid Cochion. Byddem yn dod allan o’r pictiwrs, a phawb yn clic-clician efo’i dafod a rhoi slap ar ei dîn, ac i ffwrdd â ni bawb ar gefn ei geffyl.

Adre am de, ac yna yn syth i’r coed i chwarae ‘Cowbois ac Indians’. Fi oedd yr ‘Indian girl’ am fod fy ngwallt yn ddu. Byddai’n rhaid i’r cowbois fy nal a’m clymu wrth goeden, ac yna byddai’r brêfs yn gwylio eu cyfle i ddod i’m hachub. Symud yn ofalus a thawel ar eu boliau, ac yna’r ‘Indians’ i gyd yn gweddi’n groch trwy gegau agored a tharo’r dwylo yn gyflym ar y gwefusai i greu sŵn y ‘war dance’.

Roedd gennym ddau geffyl go iawn gartref - ‘Prince’ a ‘Bess’. Ceffylau mawrion, cryfion i dynnu’r troliau a lorïau cario glo. Byddwn yn eistedd fel brenhines ar flaen y drol hefo nhad, ac yn edrych ar y plant ar y llawr fel mân us. Mae’n debyg fy mod cyn ddued â’r sachau glo tu ôl i mi, ond roedd gen i ddwy olwyn oddi tanaf, ac ychydig o blant yr adeg honno oedd â siawns byth am reid mewn dim ond trên neu fws ar ddiwnrod trip capel unwaith y flwyddyn.


Manylion hawlfraint isod
Diwrnod mawr oedd pan ddeuai yr injian malu metlin heibio. Fe fyddai dynion yn dod heibio i baratoi wyneb y ffordd ac yna taflu metlin i lawr. Caent bob llonydd gennym ni’r plant. Ein prif nod ni oedd edrych allan am Owen Robas. Byddai yn dod ar ôl i’r dynion orffen, gyda pheiriant du - tân tu mewn iddo a mwg budr yn dod allan trwy’r simnai. Yr oedd yn ddiwrnod braf bob amser y byddai’r injian malu metlin, yr injian col-tar a’r steam roller yn dod o gwmpas. Gwyddem nad oedd ymhell, gan y byddai oglau’r col-tar yn llenwi ein ffroenau. Fe’n rhybuddiwyd ni dro ar ôl tro nad oeddem i fynd yn agos at yr hen injian col-tar yna! Ond er y bygwth i gyd, byddai’n ein denu fel pry’ cop i’w we. Rhaid oedd cael gweld y tar poeth yn cael ei chwistrellu fel cawod ddu ar y ffordd. Byddai ein coesau, ein breichiau a’n dillad yn smotiau bach duon i gyd, ond pa ots?
Sôn am row ar ôl mynd adre’!”

-----------------------



Manylion hawlfraint y llun:
Trwyddedwyd dan Gomin Wikimedia, CC BY-SA 3.0 "Aveling and Porter Roller Britannia" gan BulldozerD11. Dolen i dudalen 'Steamroller' Wikipedia. Dim cysylltiad â Llafar Bro.