6.9.23

Hen Lwybrau, rhan 2

 Ail ran Hen Lwybrau a Ffyrdd ein Bro, o gyfres Stolpia, Steffan ab Owain, o ugain mlynedd yn ôl.

Ceir sawl enw am lwybr troed neu ffordd gul hwnt ac yma yn Nghymru. Er enghraifft, disgrifir rhai fel 'ffordd drol' gennym ni yn y parthau hyn o Feirion, tra defnyddir 'lôn gert' am yr un peth gan ambell un yn Eifionydd.

Enw diddorol arall ar lwybr llydan neu ffordd fach gul yw 'hwylfa' ac fe'i ddefnyddir hyd heddiw mewn rhannau o Ardudwy a de Meirionnydd. Deallaf mai Hwylfa Gwyddau y gelwir un ohonynt yng Nghwm Nantcol. Ceid tŷ o'r enw Hwylfa Groes yn y cyffiniau gynt hefyd, ac onid oes lle o'r enw Hwylfa'r Nant yn Harlech? Ceir enghreifftiau eraill yn hen sir Gaernarfon a sir Ddinbych hefyd, megis Hwylfa'r Ceirw yn Llandudno a Pen yr Hwylfa yn Llansannan.

TŶ COCH YR HWYLFA

Ar un adeg ceid tŷ o'r enw yma nid ymhell o Bont y Wynnes a hen welyau carthffosiaeth y Manod. Dyma oedd ei enw'n llawn yn ôl cofrestrau'r plwyn am yr 1820au er mai Tŷ Coch y gelwid ef ar lafar gwlad diweddar. Erys ei adfeilion yno heddiw ond ychydig iawn o bobl yr ardal sy'n gydnabyddus â'r lle bellach. Bum yn meddwl tybed pa ffordd fach a gyfeirid ati yn yr hen enw a fyddai arno? O edrych o'n cwmpas yn y rhan yma gwelwn fod 'Hen Ffordd y Plwy' yn rhedeg nid nepell o'r fangre, sef yr hef ffordd a ddefnyddid gan ein teidiau gynt i gludo llechi gleision eion chwareli o Gongl-y-wal ac i lawr i'r ceiau ar y Ddwyryd yng ngwaelod gwlad.

Ffordd drol arall a ddylid ei hystyried hefyd yw'r un a red i lawr o'r neuadd Ddu a heibio adfeilion tyddyn Llennyrch y Moch, i'r gorllewin o'r Tŷ Coch. Tybed ai cyfeirio at un o'r rhain y mae'r 'hwylfa' yn yr enw hwn neu ai ryw ffordd fach arall sydd wedi hen ddiflannu erbyn hyn oedd dan sylw ganddynt? [*Gweler drafodaeth pellach isod. Gol]

 

LLWYBR YR ESGOB

Yr enw a ddefnyddid ar un o lwybrau hynafol ucheldir Abergwyngregyn gynt oedd Llwybr yr Offeiriad, a cheir sawl cyfeiriad at Lwybr y Pererinion yn Llŷn.

Pa fodd bynnag, yma yn y Blaenau bu gennym ninnau hen lwybr troed neu lwybr march o'r enw Llwybr yr Esgob. Yn ôl beth ddywedodd fy niweddar gyfaill Bob Roberts, Tanygrisiau wrthyf, rhedai'r hen lwybr hwn drwy'r tir a fyddai rhwng Maesyneuadd a Dolau Las ac yna draw i gyfeiriad fferm Tŷ'n Ddôl a fferm Cefn Bychan, ac ymlaen at dai Bryn Bowydd Newydd.

Llwybr esgob, yn edrych i lawr tuag at Gefn Bychan. Llun- Paul W
 

Yn ôl traddodiad lleol, ar hyd y llwybr hwn y marchogai esgobion Bangor pan oeddynt yn ymweld â'r rhannau hyn o'u hesgobaeth.


LLWYBR Y MEIRW

Ar ôl imi ysgrifennu'r pwt am Ffordd y Meirw yn rhifyn Mehefin cefais ymweliad gan Mrs Rhiannon Jones, Caeffridd. Roedd hithau hefyd wedi clywed am hen lwybr tebyg gan ei mam, ond nid yr un a fu dan sylw gennyf fi.

Roedd Llwybr y Meirw yn mynd rhwng hen siop Bryn Gwyn ac Angorfa a thros Pen Banc ffatri a draw am Blaen Dyffryn ayyb. Diolch yn fawr am yr wybodaeth yma. Yn wir nid oeddwn wedi clywed dim son amdano o'r blaen. Tybed os mai ar hyd y llwybr hwn y byddai hen bopl Glan-y-pwll a Rhiwbryfdir yn cludo'u meirw ar elor i lawr i eglwys y Llan cyn bod son am yr un capel na mynwent arall yn y plwyf? 

Anfonwch air atom os ydych â gwybodaeth neu'n cofio rhyw hanesyn am lwybrau'r fro.

- - - - - - - - 

Ymddangosodd yn rhifyn Gorffennaf 2003

- - - - - - - - 

*Tŷ Coch yr Hwylfa: Y mae wrth gwrs ffordd drol dda yn mynd o'r ffordd fawr (ac hefyd o bont lein Tyddyn Gwyn) a heibio'r graig i Dŷ Coch, sy'n llwybr cyhoeddus hyd heddiw; be am honno fel yr 'hwylfa'?

Ond mae un posibilrwydd arall: enw'r graig ydi CLOGWYN YR WYLFA. (Ystyr Gwylfa ydi 'lle i wylio ohono/man uchel lle gellid cadw golwg ar yr ardal' ayb). Felly onid enwi'r tŷ ar ôl y graig wnaethon nhw yn hytrach nag ar ôl llwybr... Hynny ydi, Tŷ Coch yr Wylfa sydd yma yn hytrach na Thŷ Coch yr Hwylfa? PW, Awst 2023.

Neu a ddylai'r graig fod yn Glogwyn yr Hwylfa, wedi'i henwi ar ôl y llwybr?! Efallai na chawn fyth wybod yn iawn...

- - - - - - - - -

Pennod 1 y gyfres

Rhan 3

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon