22.9.23

Hen Lwybrau, rhan 3

Pennod arall o gyfres Hen lwybrau a ffyrdd ein bro, gan golofnydd Stolpia, Steffan ab Owain.
 

Y tro hwn rwyf am bicio i rai o’n chwareli llechi a chrybwyll am un neu ddau o’r enwau sydd, neu a fu’n, gysylltiedig â nhw. Dechreuaf gyda’r ‘Llwybr Cam’ a berthynai i hen Chwarel Holland gynt.

Y LLWYBR CAM

Efallai y dylwn ddweud yn gyntaf fod yr hen ‘Lwybr Cam’ gwreiddiol wedi ei gladdu o dan Domen Fawr yr Oakeley ers blynyddoedd lawer. Bellach, dim ond hen luniau ac atgofion amdano sy’n aros. 

Yn ei gerdd ‘Penygroes a’r Dinas’ hiraetha Bryfdir am ei chwaer fach a laddwyd yn nhroed Inclên Fawr Holland ac am ei gyfeillion a drigai gerllaw yr hen Lwybr Cam:

Collasom hwythau yn eu tro
O dan gysgodau’r hwyr,
A chyda hwy aeth swyn y fro
I ryw anghofrwydd llwyr;
Mae plant y Dinas heb un fam
I ysgafnhau eu croes,
A chwyno wrth y Llwybr Cam
Mae meibion Pen y Groes.
Credaf mai oddeutu 1903-4 y gwnaed y Llwybr Cam presennol, sef yr un igam-ogam sydd a’i droed ger y Dinas a’i ben uchaf ar Bonc y Gloddfa Ganol. Ar un adeg ceid llwybr bach arall gyferbyn a phen y Llwybr Cam yn codi i fyny i Bonc yr Injian Uchaf yn Chwarel Holland, ond nid yw yno mwyach.

Llun- Paul W

LLWYBR Y CEFFYLAU

Ar dir hen Chwarel yr Oakeley y ceir yr hen lwybr hwn hefyd, a rhed o ymyl canol Allt Talywaenydd dros geg y Twnnel Mawr i gyfeiriad yr hen Lefel Galed a phen gogledd-orllewin yr hen Bont Fawr. Gelwir ef wrth yr enw hwn oherwydd dyma’r ffordd neu’r llwybr a ddefnyddid ar gyfer mynd a’r ceffylau at eu gwaith o dan y ddaear, neu’n wir, i weithio ar rai o bonciau’r chwarel, hefyd. 

Byddid yn tywys y ceffylau a weithiai o dan y ddaear draw am y Lefel Galed a thrwodd at y ‘Trwnc Mawr’ ar Bonc DE a fodd bynnag, pan ganai’r corn ddiwedd dydd nid oedd raid i neb ddangos y ffordd adref iddynt byddent fel llanciau ifainc y chwarel yn ei sgrialu adref am eu te i’r stablau a fyddai y tu ôl i Gapel y Rhiw.

Gyda llaw, nid ymhell o’r fan lle byddai ceg y Lefel Galed ceir llwybr neu risiau llydan o llechfaen, neu gerrig glas, fel y dywedwn i, a elwir yn ‘Llwybr John Jones Williams’ ac a wnaed gan un o swyddogion Chwarel Oakeley rai blynyddoedd yn ôl. Dywedir iddo fynd ati hi i wneud y llwybr hwn er mwyn ei gynorthwyo i golli ychydig o bwysau. ‘Beryg iawn, y bydd yn rhai i minnau fynd ati i wneud llwybr yn rhywle hefyd!

LLWYBR Y GASEG WEN

Dyma lwybr arall sydd wedi ei enwi ar ôl un o gesyg y chwarel. 

Yn ôl yr hanes, cafodd yr hen lwybr hwn sy’n rhedeg o ymyl hen Chwarel y Moelwyn ac uwchlaw Llyn Stwlan a thraw am Fwlch Cerrig Gleision a Chwarel y Rhosydd ei enw ar ôl i ryw gaseg a weithiai yn y Rhosydd gael ei dychryn un tro a rhusio cymaint fel y carlamodd nerth ei charnau ar hyd y llwybr hwn yr holl ffordd adref. Mae eraill o’r farn mai hwn oedd llwybr arferol y gaseg wen i fynd a dod at ei gwaith bob dydd yn y chwarel.

FFORDD YR IDDEW MAWR

Wrth gerdded ar hyd Llwybr y Gaseg Wen i Fwlch Stwlan deuwn at hen ffordd laswelltog a wnaed yn wreiddiol yn 1825 pan bu Nathan Meyer Rothschild yn treio ei law ar agor chwael lechi yn ngesail y Moelwynion. Gwnaed y ffordd hon iddo gan gontractwyr o’r enw Benjamin a Richard Smith, sef dau frawd, Joseph Tyson yn oruchwyliwr, ac un John Rogers. 

Priododd Benjamin Smith ag un o ferched y Cassons ac rwyf yn rhyw dybio fod Robert Rogers a briododd Catherine, chwaer Tanymarian yn perthyn i’r John yma. Dywedir iddynt ail-wneud yr hen ffordd tua 1840, ond i amryw o’r hen bobl ‘Ffordd yr Iddew Mawr’ yw ei henw hyd heddiw, h.y. ar ôl yr hen Nathan Rothschild. 

Dywedodd y cyfaill Edgar Parry Williams, Croesor wrthyf y byddai rhai o’r hen do yn galw’r hen ffordd yn ‘Llwybr Roth’, hefyd, ar ôl Rothschild, yn ddiau. Wel, pwy fuasai’n meddwl bod yr enwau lleoedd hyn wedi parhau cyhyd, ynte?

O.N.
Diolch i amryw o’r darllenwyr am gymryd diddordeb yn yr hen lwybrau a rhannu eu hanesion gyda mi. Efallai y cawn ddarllen am rai ohonynt cyn bo hir. Tan y tro nesaf, mwynhewch y cymowta a’r rhodianna.
- - - - - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2003

Pennod 1 y gyfres

Rhan 4

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon