26.10.23

Hen Lwybrau, rhan 4

Pennod arall o gyfres Hen lwybrau a ffyrdd ein bro, gan golofnydd Stolpia, Steffan ab Owain.

Dyma barhau ychydig eto gydag enwau rhai o hen lwybrau a ffyrdd ein bro. Fel y gwyr rhai ohonoch defnyddir amryw o lwybrau’r fro gan bysgotwyr brwd ‘Stiniog a’r cylch. Gwn am o leiaf ddau lwybr a elwir wrth yr enw ‘Llwybr y Pysgotwyr’ neu ‘Llwybyr ‘Sgotwrs’ ar lafar.

Llwybyr Sgotwrs
Ceir un llwybr o’r enw hwn yn ymyl y ffordd fawr gerllaw hen derfyn y sir a therfyn plwyf Dolwyddelan fel yr eir am Fwlch Gorddinen neu’r Crimea. Arwain at Lynnoedd Barlwyd y mae hwn ac mae rhan ohono yn croesi’r ‘Domen Sgidia’ ac yn codi i fyny heibio hen dyllau chwarel fach Clogwyn Llwyd ac yn mynd dros y gefnen y tu isaf i Foel Barlwyd a draw heibio’r hen gorlannau at y llynnoedd.

Y Domen Sgidia a'r Clogwyn Llwyd. Llun -Paul W

Y mae llwybr arall yn mynd draw o gyffiniau Cae Clyd beibio ffermydd Bron Manod a Chae Canol Mawr ac ymlaen hyd at y ffordd yng Nghwm Teigl. Yna, mae’n codi i fyny heibio hen Chwarel Alaw Manod a Nant Drewi a thros y rhostir a’r corsydd tuag at Lynnoedd Gamallt. Gosodwyd cerrig gwynion hwnt ac yma ar hyd ochr y llwybr gan yr hen bysgotwyr er mwyn iddynt godi’r llwybr mewn tywyllwch neu ar niwl.

Llwybr y Gweithwyr
Dyma’r enw a ddefnyddid ar yr hen lwybr sy’n dod o gyfeiriad Blaen Nantmor, heibio i Lyn Llagi a draw am y Foel Druman a thros ochr ogleddol Yr Allt Fawr ac i lawr drwy Fwlch y Moch, heibio Llyn Iwerddon am Chwarel Oakeley. Llwybr y chwarelwyr a gerddai’r holl ffordd o Feddgelert a’r cyffiniau oedd hwn yn y dyddiau a fu. Byddai’r gweithwyr hyn yn aros mewn baricsod am yr wythnos waith a cherdded adref yn eu holau ar hyd yr un llwybr ar ddydd Sadwrn a hynny drwy bob tywydd, wrth gwrs. 

Canodd Dewi Mai o Feirion gerdd am yr heb lwybr hwn, sef O Wynant i Ffestiniog; yn Cymru (OME) 1911. Dyma ran ohoni:

Moel Druman sydd fel oriel aur y wawrdydd
Yn awr yn ymddyrchafu o fy mlaen
Ac yma’r ymohiriaf fel ymdeithydd
I weld y golygfeydd sydd ar daen;
Heb oedi’n hir ar ael y Foel awelog,
Ymlwybraf heibio i Gwm Mynhadog gun;
Ar aelgerth yr Iwerddon uwch Ffestiniog
Yn hynod o ddisymwth caf fy hun.
Gyda llaw, gosodwyd cerrig gwynion ar ochr yr hen lwybr hwn hefyd gan yr hen chwarelwyr a fyddai’n gorfod ymlwybro ar ei hyd yn oriau man y bore ac mewn niwl a thywyllwch yn aml iawn. Y tro diwethaf y bum i fyny ar ochr Yr Allt Fawr nid oedd yr un ohonynt i’w gweld yna mwyach.

Llwybr Sara a Llwybr Lladin
Llwybr yn rhedeg i lawr o wely hen ffordd haearn Chwarel Rhosydd a heibio Pant Dŵr Oer ac Incleniau Chwarel Croesor ac yna draw am Moelwyn Banc yng Nghroesor yw hwn. Bum yn meddwl, tybed a oedd rhyw fath o lwybr anhygyrch yma cyn iddynt ddechrau datblygu’r chwareli a phwy oedd y Sara yma a adawodd ei henw ar y llwybr hwn?

Gan y cyfaill Edgar Parry Williams y clywais am Lwybr Lladin gyntaf. Llwybr igam-ogam yn codi i fyny o Flaen Cwm (Croesor) am Chwareli Croesor a Rhosydd yw hwn. Tybed a wyr un o ddarllenwyr Llafar rywbeth amdano?

Ffordd Goch
Soniais o’r blaen am y Ffordd Las ger Dolwen, onid o? Wel, hen ffordd drol yn rhedeg oddi wrth hen ysgoldy Rhydysarn draw at dy gwair Plas Meini yw’r ‘Ffordd Goch’.
Diolch i ddau o gyn-drigolion Rhydysarn am yr wybodaeth. Mae’n bur debyg mai ar ôl lliw y tir gerllaw y derbyniodd yr hen lwybr hwn ei enw ac wrth gwrs, mae’r Allt Goch ryw chwarter milltir uchlaw hefyd, onid yw?

- - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2003

Rhan 1 y gyfres
 

Erthygl Sgotwrs Stiniog

 

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon