FOEL PENOLAU A MOEL YSGYFARNOGOD
Ysgrif gan Llinos Griffin sydd yn ein cyfres ‘Crwydro’ y tro hwn.
Dan ni wedi cael rhyw haf rhyfedd heb wybod yn iawn os dan ni’n mynd ‘ta dod o ran y tywydd. Yn heulog braf ond digon mwll un funud ac wedyn coblyn o gawod y nesa’. Dw i ddim yn rhy hoff o gerdded yn y glaw, wel a dweud y gwir, nid y glaw ydi’r broblem ond y niwl sy’n perthyn iddo. Dw i wedi cerdded mewn cawl pys o niwl droeon a chael fawr o fwynhad yn enwedig os ydi rhywun yn uchel ar y copaon a ddim yn siwr o’i bethau i ddod i lawr, felly gwell peidio mentro ydi hi gen i’r dyddiau yma.
Ddechrau Gorffennaf oedd hi arnan ni’n mentro i fyny i’r Rhinogydd ar un o’r diwrnodau rheiny lle doedden ni ddim yn siwr os oedden ni’n gwneud y peth iawn ai pheidio, ond a minnau angen dianc am aer fel y bydda i bob penwythnos heb eithriad, mynd wnaethon ni, dwy ohonon ni a does nunlle gwell i ddenyg a chael llonydd na’r Rhinogydd.
Dw i wedi bod i gopa Moel Ysgyfarnogod sawl tro, neu wrth gwrs i Fryn Cader Faner islaw ac felly mi barcion ni yn y lle arferol uwchben Maes y Neuadd a ddim yn bell o odre Moel y Geifr cyn ymlwybro tuag at Lyn Eiddew Bach a Mawr. A theg edrych tuag adref yn wir gyda’r cymylau llwydion yn gwneud yr olygfa tuag at afon Dwyryd, Ynys Gifftan a Phenrhyn yn fwy dramatig nag arfer. Dw i wrth fy modd gyda golygfeydd sydd fyth yn edrych yr un fath ddwywaith ac mae hon yn un o’r rheiny – mae’r Ddwyryd a’i llanw wastad yn newid ac mae ‘na gysur yn hynny i mi.Yn lle dilyn y llwybr chwarel i odrau Moel Ysgyfarnogod, mi benderfynon ni anelu am gopa Foel Penolau yn gyntaf gan fynd heibio glannau Llyn Dywarchen a dim smic heblaw amdanon ni’n rhoi’r byd yn ei le ac ambell i ŵydd Canada yn clegar. A dan ein traed, y llawenydd mwyaf o weld gwlithlys neu chwys yr haul yn goch a melyn ar hyd y gors. Mae ‘na rywbeth arbennig iawn am y blodyn cigysol hwn a’i olwg diniwed ond gwae i unrhyw bryfyn a ddaw ar ei draws. Mae fel rhyw anghenfil chwedlonol.
A son am y rheiny, dyma ni’n cyrraedd y cewri eu hunain a cherrig epig Foel Penolau ac wrth gyrraedd ochr arall i’r bwlch, y gwynt mwyaf yn chwipio ar ein hwynebau a ninnau prin wedi cael chwa o awel ar ein ffordd i fyny. Hwd am ein pennau ac anadlu ac oddi tanon ni draw am adra, golygfa o Ben Llŷn draw i Flaenau Ffestiniog gan gynnwys yr Wyddfa wrth gwrs. Does dim teimlad gwell na golygfa felly a’r elfennau’n llosgi’n wynebau. Lle perffaith am ginio! Roedd rhaid sgramblo rhyw fymryn i gyrraedd y copa ei hun a dim ond ambell funud arhoson ni yno gan ein bod yn cael andros o drafferth aros ar ein traed.
A'r cymylau llwydion yn edrych yn eithaf bygythiol, mi aethon ni am Foel Ysgyfarnogod reit handi a’r un wefr wyntog unwaith eto ar ei gopa! Mi fyddan ni bob tro’n ffafrio cylchdaith yn lle dod i lawr yr un ffordd os yn bosib, mi gymeron ni’r trac llechi i lawr ac yno, mae hi’n wir gwestiwn gen i os gellir dadlau nad cewri wedi eu claddu ydi’r hen gerrig ‘ma a Bendigeidfran ei hun yn edrych draw am Iwerddon ydi un o’r ochrau ‘na’n bendant.
Mae’n bleser gen i weld y grug mor llachar o biws adeg yma o’r flwyddyn hefyd a rhwng hynny a’r ffaith bod y glaw wedi cadw draw, roedd hi’n dro berffaith. Allwch chi ddim mynd o’i le yn y Rhinogydd – mae fel dianc i blaned arall ar eich carreg ddrws, un y baswn i’n gallu swatio yn ei chôl am byth… a’r gwynt yn chwythu yn fy nghlustiau.
- - - - - - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2023
Darllenwch y gyfres trwy glicio 'Crwydro' yn y Cwmwl Geiriau ar y dde (rhaid dewis web view os yn darllen ar ffôn)
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon