Adolygiad gan Cadi Dafydd o’r nofel Llygad Dieithryn.
Mae Simon Chandler, cyfreithiwr o Fanceinion sydd wedi dysgu Cymraeg, yn dweud ei hun mai Blaenau yw ei “gartref ysbrydol”. Does dim syndod felly bod ei nofel gyntaf, mewn unrhyw iaith, wedi’i lleoli’n rhannol yma.
Simon yn lansio'r nofel yn Siop Lyfrau'r Hen Bost |
Yr Almaen ydy cartref hanner arall y nofel, sy’n dilyn hanes Almaenes ifanc, Katja, sy’n penderfynu ymweld â Chymru ar ôl dod o hyd i lythyr a anfonwyd i’r hen, hen daid gan Gymro. Mae’r nofel yn symud yn glyfar rhwng rŵan a’r cyfnod rhwng y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail, ac yn cynnwys popeth o gariad i ddirgelwch. Fe wnes i wir fwynhau troadau’r stori, ac mae’r cymeriadau’n sticio efo rhywun. Ond yn fwy na hynny, maen nhw’n gymeriadau crwm sy’n mynnu diddordeb y darllenydd.
Heb ddifetha dim o’r stori, rhan o’r nofel sy’n sefyll allan ydy profiadau Freidrich, hen, hen daid Katja, yn y gwersyll rhyfel yn Frongoch ger Y Bala. Efallai mai’r hanesydd ynof i sy’n siarad yn fan hyn, ond mae’r disgrifiad o’r gwersyll yn drawiadol. Er bod yna rywfaint o ysgafnder, a hiwmor hyd yn oed, mewn rhannau eraill o’r nofel, mae’r ôl-fflachiadau i’r gorffennol yn dod â’r difrifoldeb i’r nofel sy’n eich gorfodi i boeni am ffawd y cymeriadau. Mae’r pendilio rhwng y gorffennol a’r presennol yn pwysleisio gallu Simon i adrodd stori amlhaenog heb orgymhlethu pethau hefyd.
Bosib mai un o’r pethau difyrraf am y nofel ydy gweld sut mae rhywun o’r tu allan yn gweld ein diwylliant ni - Simon ei hun fel awdur, a Katja fel cymeriad. Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst yn cael lle canolog yn y gyfrol, ac mae’n agoriad llygad gweld gymaint o werthfawrogiad sydd gan rywun o’r tu allan tuag at yr ŵyl, a’i allu i sylwi ar bethau fyddwn ni’n eu cymryd yn ganiataol, debyg. Rhan arall o’r mwynhad o ddarllen Llygad Dieithryn ydy gweld yr hwyl mae’r awdur yn ei gael gyda’r iaith. Mae’n gwbl amlwg o’i darllen bod Simon Chandler yn mwynhau ei hun yn ei defnyddio, ac mae hynny’n cael ei adlewyrchu mewn ambell frawddeg sy’n glynu yn y cof, brawddegau fel:
“Roeddwn yng nghanol dwndwr dyddiol Blaenau, ond roedd y cyfan fel barddoniaeth i mi.”
Mae’r frawddeg yna fel ei bod hi’n crisialu cryn dipyn o apêl y nofel. Yndi, mae plot cryf a chymeriadau cyson a difyr yn help mawr, ond mae gweld ein gwlad, a’n tref yn ein hachos ni yma, drwy lygaid newydd-ddyfodiaid yn ychwanegu dimensiwn arall iddi. Nid y “dwndwr dyddiol” mae Katja, na Simon, yn ei weld, ond rhywbeth gymaint mwy na hynny. Yr hyn sy’n ddifyr ydy’r ffordd mae hynny’n ein helpu ni i weld y cyffredin mewn ryw olau newydd.[Mae Llygad Dieithryn, Simon Chandler (2023, Carreg Gwalch) ar gael yn Siop Lyfrau’r Hen Bost am £8.50. Chwiliwch amdano yn Llyfrgell y Blaenau hefyd.]
- - - - - - - -
Ymddangosodd yn rhifyn Medi 2023
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon