Adolygiad o ŵyl eleni gan Dewi Prysor
Bu Gŵyl Car Gwyllt eleni yn llwyddiant anferth, gyda haul Gorffennaf yn gwenu ar y cannoedd oedd yn heidio i weld y lein-yp gorau o fandiau a gafwyd ers blynyddoedd. Unwaith eto roedd gennym ddau lwyfan, y llwyfan mawr tu allan ar faes parcio y Clwb Rygbi, a llwyfan y tu mewn i’r clwb, gyda’r bandiau yn chwarae bob yn ail ar y ddau lwyfan a’r gynulleidfa yn cael gweld a mwynhau pob un band.
"Ry'n ni yma o hyd..." |
Ar y nos Wener cawsom wledd arbennig ar y llwyfan tu allan, a’r noson yn dechrau gyda Yr Ogs, y band ifanc o’r Blaenau. Yr Ogs agorodd yr ŵyl y flwyddyn dwytha hefyd, a hynny yn y Clwb, ond eleni mi gawson nhw y fraint o gael agor yr ŵyl ar y llwyfan mawr y tu allan. Roeddyn nhw’n wych, chwara teg.
Yn dilyn yr Ogs roedd Chwaral, band ifanc arall yn hannu o Lanrwst, heblaw am Hannah y gantores sy’n dod o’r Manod. Mae ei llais cyfoethog yn hudolus ac arbennig iawn, ac roedd y band hefyd yn wych.
Yn dilyn Chwaral roedd Gwilym, un o fandia mwya poblogaidd y sîn Cymraeg erbyn hyn, ac mi chwaraeodd y band yn y Car Gwyllt pan gafwyd y marcî ar y cae rygbi tua 6 mlynedd yn ôl. Eleni, mi heidiodd llu i’w gweld nhw ar y llwyfan mawr a mi ddechreuodd y dorf ddawnsio.
Yn gorffen y noson roedd neb llai na’r arwr Dafydd Iwan a’i fand, a daeth lluoedd i’r ŵyl i’w weld o. Braf oedd gweld ugeiniau o bobl ifanc yn rhesi o flaen y llwyfan yn canu â’u breichiau yn yr awyr. Roedd hi’n wych i weld cenhedlaeth ifanc newydd yn addoli Dafydd, a fyntau wedi pasio ei 80 oed.
Mi ganodd Dafydd ei hen ganeuon, a gorffen – wrth gwrs – efo’r anthem drawiadol, enwog, ‘Yma o Hyd’. Roedd Dafydd yn ei elfen, y dorf wrth eu boddau yn canu’r geiriau i gyd. Roedd hi’n noson wefreiddiol – ac emosiynol hefyd i lawer.
O BOSIB Y GŴYL CAR GWYLLT GORAU ERS OES PYS (A MAE HYNNY YN DDWEUD MAWR)!
Bu rhaid i Ffatri Jam fethu a dod i agor yr ŵyl ar y dydd Sadwrn, oherwydd i un ohonyn nhw gael damwain sydyn, felly Hap a Damwain a ddechreuodd y miwsig, a hynny tu fewn y Clwb. Mae’r ddeuawd yma yn creu miwsig unigryw iawn, ac yn hen ffrind i Car Gwyllt. Daeth tua 40 o bobl i’w gwylio nhw ac i ddawnsio, a hithau ond tua 1 o’r gloch y pnawn.
Nesaf roedd Crinc ar y llwyfan mawr, band pync o ardal Bangor dwi’n meddwl, a sioe wych ar y llwyfan, yn enwedig pan ymunodd 3 Hŵr Doeth efo nhw. Roeddan nhw’n danbaid, a’r dorf wrth eu boddau.
Kim Hon oedd wedyn, ar y llwyfan tu mewn. Roeddan nhw’n drydanol, yn gyrru’r dorf o tua chant yn boncyrs!
Tara Bethan, 3 Hŵr Doeth, Gwilym, MR. Lluniau Dewi Prysor, Paul Williams |
Band arall sy’n ffrind da i Gŵyl Car Gwyllt ydi 3 Hŵr Doeth (sydd â tua saith aelod), ac ar lwyfan y Clwb roeddan nhw’n chwarae y tro hwn. Mae eu caneuon rap hwyliog â’u geiriau afieithus a direidus wrth dynnu blew o drwynau’r sefydliad a’r gwleidyddion, yn hollol wych. Roedd y Clwb yn llawn, a pawb yn canu efo’r band.
Tara Bandito oedd nesa, ar y llwyfan tu allan. Roedd hi a’i band wedi gyrru o Gaerdydd, ble’r oedd hi newydd ganu mewn gŵyl arall yn y brifddinas. Chwarae teg iddi am wneud yr ymdrech i ddod i Blaenau. Mae gan Tara sioe ddramatig ar y llwyfan – ac yn wir, cyn cyrraedd y llwyfan. Syndod oedd gweld 4 o aelodau ei band yn cario ‘arch’ tuag at y llwyfan, a phan gyrhaeddwyd y llwyfan tynnwyd caead yr arch i ffwrdd, a neidiodd Tara allan a dechrau canu ei chân ‘Croeso i Gymru’. Gwychder eto!
HMS Morris oedd nesaf, yn y clwb. Dyma fand a hanner sydd yn llawn egni ac yn swnio fel y Clash ar adegau. Heledd ydi’r prifleisydd ac yn chwarae gitar, a’r aelodau eraill yn chwarae drymiau, gitar, bas a synth. Wedi eu gweld nhw sawl gwaith o’r blaen, yn enwedig yn CellB Blaenau rhyw ddeufis cyn Car Gwyllt. Yn y Clwb roeddyn nhw’n anhygoel, a daeth â tua cant o bobl i neidio a dawnsio o’u blaen, a phawb wrth eu boddau. Mae HMS Morris wedi teithio dros y byd, o’r America i Siapan, a tydi hynny ddim yn syrpreis gan eu bod nhw’n fand arbennig iawn.
Los Blancos oedd nesaf ar y llwyfan mawr. Dyma fy hoff fand Cymraeg ers tua 5 mlynedd. Mae nhw’n hollol wych ar record ac yn fyw ar unrhyw lwyfan. Maen nhw’n hannu o gwmpas Sir Gâr ac yn gerddorion gwych, yn ogystal â bod yn griw cyfeillgar. Mae’r Blancos yn ffans o’r Brian Jonestown Massacre, ac wedi gwrando ar eu stwff nhw ar Soundcloud roedd rhaid i mi fynd i’w gigs nhw. Mae ganddyn nhw sŵn tebyg i’r Brian Jonestown Massacre, yn ogystal â roc a pync gwych. Ar ôl chwara yn Car Gwyllt llynedd, yn chwarae tu mewn, roedd rhaid i ni eu rhoi nhw ar y llwyfan mawr. Dyma un o’r gigs gorau yn yr ŵyl. Ac mae eu ail albym nhw allan cyn hir. Bendigedig!
Yn y Clwb roedd Chroma, band arall sydd wedi bod yn teithio drwy’r byd, ac wedi bod yn cefnogi’r Idles a’r Joy Formidable a llawer mwy. Tri aelod sydd i’r band, gitar, bas a dryms, a Katie ydi’r prifleisydd. Mae’r band yma hefyd yn llawn egni, a llais Katie yn bwerus ac yn llenwi’r llwyfan a denu’r dorf.
Felly dyma ni yn cyrraedd y band olaf, sef MR, band yr ydw i wedi bod yn dilyn eu gigs ers cyn y Covid ac wedi iddyn nhw ailddechrau. Cnewyllyn y Cyrff sydd yma, sef Mark Roberts (MR) yn canu a chwarae’r gitar, a Paul Jones y basydd. Mae Mark wedi bod yn cyfansoddi caneuon newydd ers rhai blynyddoedd bellach, ac mae 5 aelod yn y band. Un o’r rheini ydi Owen Powell ar gitar. Ymhell o ddyddiau Cyrff bu’r tri yma, Mark, Paul ac Owen Powell yn rhan o Catatonia, ac wedi i’r band hwnnw beidio bod, bu Mark a Paul yn rhan o Sherbet Antlers gyda John Griffiths a Kevs Ford (Llwybr Llaethog), ac ychydig flynyddoedd eto mi ffurfiodd Mark a Paul Y Ffyrc, cyn ymuno a The Earth.
Erbyn hyn, mae’r hogia’n fflio mynd, gydag Osian Gwynedd yn chwarae’r piano a synth. Aeth torf y Car Gwyllt yn wyllt wrth i’r band chwarae caneuon gwych un ar ôl y llall, gan chwarae rhai o hen glasuron y Cyrff, yn enwedig ‘Cymru, Lloegr a Llanrwst’. Ac efo’r clasur honno, daeth y noson i ben. Diolch yn fawr MR am sioe wych!
Rhaid hefyd diolch i Pys Melyn am ddod i’r Tap i ganu ar bnawn y dydd Sul. Ardderchog!
Reit ’ta, ar ôl mynd yn ôl a mlaen o un llwyfan i’r llall, gan redeg i gael ambell lun a fideos rhwng stiwardio ar y llwyfannau, a gweld yr holl fandiau ardderchog yma i gyd, does dim rhyfedd fod yr hyn rydw i wedi ei sgwennu uchod: “O BOSIB Y GŴYL CAR GWYLLT GORAU ERS OES PYS. A MAE HYNNY YN DDWEUD MAWR!”
- - - - - - - - -
Ymddangosodd yn rhifyn Medi 2023
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon