5.12.17

Sgotwrs Stiniog -Llwybrau

Erthygl arall o gyfres reolaidd y diweddar Emrys Evans.

Yn y gorffennol rwyf wedi cerdded y ‘llwybr sgotwrs’ i’r ddau Lyn y Gamallt laweroedd o weithiau, a hynny ar bob awr o’r dydd a’r nos. Tybed a oes unrhyw sgotwr yn ei gerdded erbyn hyn? Dau ddarn o’r ‘llwybr’ i’r Gamallt a fyddai’n rhoi trafferth inni ar dro. Y cyntaf oedd yr un ar hyd Ffridd Cae Canol, sydd yn cychwyn o’r gamfa yn ymyl tŷ Cae Canol Mawr ac hyd at ffordd Cwm Teigl, lle mae’r afon yn mynd o dan y ffordd.

Os y digwyddai a bod yn niwl mynydd trwchus, neu yn noson dywyll iawn, ac anoddach fyth oedd cadw at y llwybr os y byddai’r ddau hefo’i gilydd, roedd hi mor hawdd colli’r llwybr ag anadlu. Digwyddodd hynny sawl tro inni, er fod yna ‘hen law’ ar y blaen yn arwain, a hwnnw’n gyfarwydd iawn a’r ‘llwybr’. Fwy nag unwaith y gwelais ni’n gorfod dilyn y clawdd mynydd sydd o dan Clogwyn Garw, y Manod Mawr, cyn medru cyrraedd y naill ben neu’r llall o Ffridd Cae Canol.

Dilyn Ffordd Cwm Teigl wedyn hyd at droed y Llechwedd Mawr, fel y’i gelwid, sy’n codi’n serth ar y llaw dde a gweddillion chwarel fach Alaw Manod ar ei ganol.

Manod Mawr, Clogwyn Garw, a Chwm Teigl, o Fryn Castell. Llun -Paul W

Ym mhen ucha’r Llechwedd Mawr mae’r ‘llwybr’ yn croesi yr hen ffordd Rufeinig - Sarn Helen, sy’n dod o Domen y Mur - ac yna anelu am yr Hen Waith Mein, fel y galwem yr olion cloddio am blwm sydd o hyd i’w gweld wrth droed clogwyn a phen isaf clawdd mynydd sy’n codi tuag at Lyn Bach y Gamallt.

Ar hyd y rhan yma o’r ‘llwybr’ y mae’r ‘Cerrig Gwynion’ wedi eu rhoi, a da oedd eu cael, yn arbennig ar noson dywyll fel y fagddu, neu pan yn niwlog.

Fe ganmolwyd ac fe fendithiwyd y ‘Cerrig Gwynion’ sawl tro am eu ‘cymwynas’ yn dod a ni i ben ein siwrnai’n ddiogel a didrafferth. Ond nid bob tro y digwyddai hynny chwaith. Collid y ‘llwybr’ weithiau a mynd i grwydro’n ddiamcan yng nghanol y tywyllwch a’r niwl.

Dyna pam yr oedd hi mor bwysig, a digwyddai hynny megis defod ar y siwrnai gyntaf i’r Gamallt ar ddechrau pob tymor, ein bod ni’n codi pob carreg wen o’r gwely yr oedd wedi’i wneud iddi hi ei hun dros y gaeaf, a’i rhoi hi mewn man mwy amlwg ar ochr y ‘llwybr’. Dros fisoedd yr hydref a’r gaeaf byddai’r ‘Cerrig Gwynion’ wedi suddo i’r ddaear a’r gwair bras wedi cau amdanynt gan eu cuddio bron o’r golwg.

Y Gamallt yn y gaeaf. Llun -Paul W
Roedd yna ‘Lwybr Sgotwrs’ arall gan y rhai o’r Manod a ai am Lyn y Morwynion i’w bysgota. A byddai yna nifer go dda yn cyrchu’r Morwynion pan ddechreuais i a chario genwair.

Yr un un ydi o a’r llwybr i Lynnoedd y Gamallt hyd at Gae Canol Mawr. O’r fan honno mae’n mynd ar ei ben i lawr am Afon Teigl; croesi’r afon, yna croesi Ffordd Cwm Teigl a mynd i fyny at Hafod Ysbyty. Mynd heibio wyneb (yr adeg hynny) yr hen dŷ a bron bob tro cael pwt o sgwrs hefo Gwen a Griffith Jones.

Croesi Afon Gamallt wedyn, neu Rhyd Halan ar lafar, a dilyn y ffordd sy’n dringo tuag at Feddau Gwŷr Ardudwy, a dod i’w phen uchaf y tu cefn i’r lle puro dwr. Arferid a’i alw ar un adeg yn ‘Tŷ Hidlo’.

Yna croesi y ffordd sy’n codi am Fryn y Castell ac hen Chwarel y Drum, a mynd at y clawdd sy’n ymestyn draw tuag at Ffarm y Garreg Lwyd. Mae y ‘llwybr’ yn dilyn y clawdd yma gan fynd heibio hen dŷ gwair, ac yna y tu uchaf a thu cefn i dŷ y Garreg Lwyd.

Rwy’n cofio edrych i lawr arno bob tro y cerddem i’r Morwynion a chodi’n dwylo a chyfarch y rhai o’r teulu a fyddai’n digwydd bod o gwmpas. Wedi mynd heibio’r Garreg Lwyd roedd gennym ryw chwarter awr wedyn o ddilyn rhyw ‘lwybr’ main a oedd braidd yn arw, a hwnnw’n codi ar i fyny nes dod i olwg Llyn y Morwynion.

Dyna ‘Lwybr Sgotwrs’ arall nad oes dim defnydd ohono erbyn hyn, a hynny ers talwm iawn.
Ydi son fel hyn am yr ‘Hen Lwybrau’ yma yn codi awydd arnoch i fynd ar hyd-ddynt? --------------------------------------------------

Rhan o erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2003.
Dilynwch erthyglau Sgotwrs Stiniog efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
(Dolenni ddim ar gael ar y fersiwn ffôn -cliciwch 'View web version')


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon