17.12.17

Clwb Bocsio Ffestiniog

Os cerddwch ar y pafin rhwng Eglwys Dewi Sant a Chlwb y Ddraig Goch rhwng 6yh a 7yh ar nos Sul (neu Fawrth, neu Iau, erbyn deall) gallech weld drwy’r ffenestri’r adeilad rhyngddynt, bobol yn sgipio ac yn dyrnu padiau.

Neuadd yr Eglwys yw lleoliad Clwb Bocsio Ffestiniog ac yno mae Dewi Roberts yn cynnal y sesiynau ymarfer.  Bu’n cadw trefn ar y gampfa yma ers 13 mlynedd i gyd, ond y mae bellach yn glwb bocsio swyddogol ers tair blynedd.  Mae bocsio yng ngwaed Dewi ac yntau wedi bod yn gwffiwr pwysau welter ysgafn am flynyddoedd yn ei amser.  Wrth reswm, mae wrth ei fodd yn dysgu’r aelodau a’u gweld yn datblygu, ond dywedodd fod bocsio’n faes anodd, ble mae’n rhaid ymroddi’n llwyr iddo.  Mae brwydr dragwyddol i gadw rheolaeth ar bwysau a ffitrwydd y corff meddai.

Mae traddodiad o focsio yn yr ardal erioed wrth gwrs ac nid yn unig ar y strydoedd ar nosweithiau’r penwythnos!  Roedd clwb bocsio poblogaidd yma yn yr wythdegau pan oedd clwb Moelwyn ABC yn ymarfer yn y Ganolfan, (cysylltwch â’r Llafar os oes gan unrhyw un wybodaeth am y clwb yma os gwelwch yn dda).

Mae nifer o aelodau yng Nghlwb Bocsio Ffestiniog hefyd o bob oedran a phwysau.  Maent yn cael defnyddio’r padiau, rhaffau a’r unicycles yn ystod y sesiynau yn ogystal â chael hyfforddiant gan Dewi.  £3 ydi sesiwn awr (£2 i’r dan 16) ac mae croeso i bawb.

Noddwyd y clwb eleni gan Andy Carson o gwmni North Wales Quarries Ltd ac mae’r clwb yn hynod ddiolchgar am ei gefnogaeth. Golygai’r arian fod posib prynu offer angenrheidiol megis menyg ac ati i’r aelodau.  Bydd y clwb yn cwffio'n eithaf aml hefyd ac yn teithio i lefydd fel Llandudno ac Abertawe i wahanol gystadlaethau.  

Cafwyd llwyddiant arbennig yn ddiweddar wrth i Aron Roberts (Aron Dolrheds), lwyddo i gipio’r Welsh Novices Championships yn Abertawe.  Cafodd ‘bye’ i’r rownd derfynol am i’w wrthwynebydd yn y rownd gynderfynol orfod tynnu allan oherwydd salwch.  Er hyn, roedd Aron yn llawn haeddu ei le yn y rownd derfynol.  Brandon Florence o Gaerfyrddin oedd ei wrthwynebydd a llwyddodd Aron i’w lorio ddwywaith.  Roedd Florence yn amlwg yn cael trafferth dygymod a phŵer Aron pan oedd yn ei daro’n ei gorff.  Ond, erbyn munud olaf y rownd olaf roedd yr hogyn o ‘Stiniog yn dechrau blino a chafodd ei ddal ambell waith cyn y diwedd wrth i'w amddiffyn wanhau ac iddo adael i’w ddwylaw ddisgyn o’i ên.  Er hyn, roedd cornel Aron yn hollol ffyddiog ei fod wedi curo’r ornest er i’r beirniaid weld y frwydr dipyn yn agosach na’r disgwyl.

Llongyfarchiadau i ti Aron ar dy lwyddiant ac edrychwn ymlaen at weld sut bydd dy yrfa di a’r aelodau eraill yn datblygu dros y blynyddoedd i ddod.
David Jones (Dei Mur)
-------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2017


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon