Dywedir fod y defnydd o eli i wellhau archollion a chlwyfau ac enaint i gadw'r croen a'r gwallt yn iach yn dyddio'n ymhell yn ôl i gyn hanes a chyn i'r Eifftwyr a chroniclwyr y Beibl droedio'r ddaear 'ma.
Yn ddiau, bu'n cyndeidiau a hen neiniau ninnau'r Cymry yn gwneud elïau cartref o wahanol blanhigion a deiliach am ganrifoedd lawer a chyn dyfodiad meddygon swyddogol a fferyllwyr y cyfnodau diweddar.
Er bod bron pob teulu yng Nghymru gynt efo rhyw berthynas neu adnabod yn gwneud elïau o ryw fath, mae'n resyn mawr dweud mai'r un yw'r stori ymhobman o'r bron y dyddiau hyn, h.y. fod y gyfrinach neu'r rysèt o'u gwneud wedi mynd i ebargofiant.
Yn ddiweddar, euthum ati hi i chwilio a holi ryw ychydig am eu hanes ac yn wir, y mae'n bwnc digon difyr. Cofiwch, dim ond megis dechrau canfod cyfeiriadau atynt ydwyf. Serch hynny, credaf ei bod hi'n werth crybwyll enwau rhai ohonynt yma.
Dyna chi eli llygaid at wella afalau'r golwg i ddechrau, ac eli corn ar gyfer cyrn ar y traed, wrth gwrs. Yna, eli melyn at ddryweinen (ringworm), eli gwyrdd at yr eryr, ac eli glas at friwiau. Defnyddid eli llosg - neu fel y clywais gan y cyfaill David Griffith Roberts, Cysulog, Eli llosg Meirion, at wella pob math o losgiadau ac Eli siwgr a sebon an bennauduynod.
Enwau Lleoedd
Weithiau ceid enwau lleoedd ar yr elïau, megis Eli Treffynnon ac Eli Sir Fflint. Deuthum ar draws hen rigwm yn enwi'r ddau eli uchod. Dyma fo:
Eli Treffynnon a'ch mendia chi'n unionNid wyf yn sicr at ba afiechyd y defnyddid y ddau eli hwn, ac felly, byddai'n braf cael clywed oddi wrth rhai ohonoch sy'n gwybod rhywbeth amdanynt. Efallai mai at grugdardd (rash) y defnyddid yr elïau hyn gan imi weld fersiwn arall o'r rhigwm uchod sy'n awgrymu hynny:
Eli Sir Fflint a'ch mendia chi'n gynt.
Eli Treffynnon a'i mendith yn unionGyda llaw, ystyr canod wynt neu cafod wynt ar lafar, yn y llinell hon, yw crugdardd. Tybed ai hyn oedd rhinwedd y ddau eli?
Eli gafod wynt a'i mendith yn gynt.
Ar un adeg ceid eli yn ein hardal o'r enw Eli gloddfa. Dyma gyfeiriad a godais o'r Rhedegydd, Mehefin 14, 1936 at yr eli ac un o'i wneuthurwyr:
"Jane priod TR. Jones, Ysgolfeistr y Llan... adroddodd wrthyf un tro fel y byddai'n helpu ei brodyr i wneud ffisig a phlasteri at tua dechrau Hydref. Byddent yn berwi llonaid crochanau o ddail, ayb. a'i gymysgu a phethau eraill ac wedi hynny ei botelu. Gwnaeth gannoedd o bils, meddai, llathenni o Beladona Plaster, ac Eli Gloddfa.Yn anffodus i ni'r hollwybodusion, nid yw'n ymhelaethu am ddibenion yr eli hwn, na dweud beth oedd ei gynnwys. Pa run bynnag, cyn imi fynd dim pellach, gwell imi ddweud mai un o chwiorydd Doctoriaid Congl-y-Wal, sef Dr. Robert Roberts (Isallt), Dr. John Roberts, Caer, a Dr Griffith Roberts, Llan oedd Jane.
Byddai chwarelwyr Bethesda yn Arfon yn prynu Eli Waun Wen gan hen fachgen o gyffiniau Bangor. Roedd yn eli ardderchog at wella dwylo'n torri a chracio, medda nhw.
Enwau Pobl
Fel llawer peth arall, ceid ambell eli gydag enw'r gwneuthurwr yn gynffon arno. Er enghraifft, ceir y cyfeiriad hwn mewn hen ddogfen yn Archifdy Caernarfon. Yr Eryr - 'Mae meddyginiaeth at yr anhwylder hwn ym meddiant Owen Griffith, Dob, Tregarth, wedi ei drosglwyddo iddo gan ei nain, Betsan Morgan, a hen enw arno ydyw Eli Betsan Morgan ac mae'n feddyginiaeth sicr'.
Yn ôl y cyfaill Dr. Eddie John Davies, Cerrigydrudion (gynt o'r Blaenau) yr enw ar y math yma o eli yng nghyffiniau hen dref y bont fawr oedd 'Eli Mrs Thomas, Llanrwst'. Gwerthid eli a elwid Eli Kitty Evans mewn llawer lle yn Arfon gynt, ond pwy oedd y ddynes a rydd yr enw arno fo, a beth oedd ei ragoriaethau a'i gynnwys, ni fedraf ddweud. Tybed a oes rhywun ar ôl a fedr daflu goleuni ar ei hanes?
Crybwyllais gynnau am eli glas on'do? Wel, dyma gyfeiriad o draethawd a ysgrifennwyd gan Robert Roberts, Eisteddfa, Tyddyn Gwyn, Y Manod lawer blwyddyn yn ôl at un a fyddai'n gwneud yr hen eli hwn yn lleol: Yr wyf yn credu mai o Sir Fôn oeddynt a'r gallu ganddynt i wneud eli i wella briwiau; fe'i gelwid yn Eli Siôn Dafydd neu Eli Glas, ac yr oedd yn eli rhagorol iawn, tybed a yw'r wybodaeth sut i'w wneud wedi ei golli? - Os ydyw, gresyn hynny. Un peth anghenrheidiol at wneud yr eli oedd dail crynion, a byddem ni'r plant yn eu casglu a'r tâl am hynny oedd bach pysgota, oblegid yr oeddynt yn gwerthu gêr pysgota, ac y mae yn parhau hyd heddiw.
O.N. Diolch i Mr a Mrs Elwyn Davies, Cricieth (gynt o'r Blaenau) am ddiogelu'r traethawd dros y blynyddoedd ac i'm cyfaill Emrys Evans am drosglwyddo'r wybodaeth uchod imi. Cofiwch, os ydych ag unrhyw wybodaeth am yr hen elïau, ffisigau neu olewon meddyginaethol a wneud gartref gynt byddwn yn ddiolchgar iawn i gael clywed amdanynt.
----------------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2003.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
(Ar gael trwy 'web view' os ydych yn darllen hyn ar eich ffôn.)
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon