27.12.17

Stolpia -crwydro

Pennod o gyfres 'Hynt a Helynt Hogiau’r Rhiw yn y 50au' gan Steffan ab Owain.

Y tro hwn rwyf am ddweud gair neu ddau am ein crwydradau draw tros yr hen Dwnnel Bach i lawr i Gelli Wiog, Rhoslyn a Stesion y Dduallt. Credaf mai’r tro cyntaf imi anturio mor bell gyda’r hogiau oedd dan arweiniad Raymond Cooke Thomas, brawd  Brenda, Donald ac Arthur (Nash), wrth gwrs.

Ar wahân i Rem a Nash, a finnau, ni fedraf gofio pwy oedd gweddill y criw, efallai bod Io-Io, Ken Robs a Dei Clack efo ni. Beth bynnag, cofiaf i ni fynd cyn belled â Rhoslyn a hel eirin oddi ar y coed, bwyta rhai ohonynt, ac yna llenwi ein pocedi yn dynn efo nhw nes yr oedd y rheini yn diferu o sudd ac yn rhedeg i lawr ein coesau o’r trowsusau bach. 

Rhoslyn ar ddiwrnod cyntaf Rhagfyr 2017. Llun -Paul W
Cofier, nid oedd neb yn byw yn Rhoslyn y pryd hynny, er bod rhai o bobl yn lein fach yn galw yno weithiau. Cofiaf rhai yn dweud bod y llyn yn y corstir gerllaw yn ddiwaelod a bod nadroedd hwnt ac yma yn y tyfiant o’i amgylch. Yn ddiau, roedd yn un ffordd i gadw’r hogiau rhag nofio ynddo, neu suddo yn y gors.

Ar ein ffordd adre’ roedd  yn rhaid  galw heibio tŷ Gelli Wiog a helpu ein hunain i’r gellyg (pears) oddi ar y goeden a fyddai yn y pwt  o ardd a oedd yno. Ond, o beth gofiaf roeddynt yn rhy galed i’w bwyta, ac felly, eu taflu at ein gilydd a wnaesom wrth ymlwybro i fyny hen wely’r lein.

Gelli Wiog, 1af Rhagfyr 2017. Llun Paul W
Nid oedd neb yn byw yn y tŷ hwn erbyn canol yr 1950au, chwaith. Gyda llaw, clywais y ddiweddar Mrs Nancy Burrows yn dweud blynyddoedd yn ddiweddarach, bod George Blake, yr ysbïwr, wedi bod yn aros yno am sbelau rhywdro yn ystod y pumdegau cynnar.

A dod yn ôl rŵan at yr anturiaeth gyntaf  honno, cyrhaeddais adref yn hwyr oddeutu 9 o’r gloch neu ychydig hwyrach, a finnau i fod adref yn y tŷ erbyn  tua 7.30, ac felly, cefais gerydd iawn gan mam a oedd wedi bod yn poeni yn fy nghylch, ac yn meddwl, lle ar y ddaear yr oeddwn, wrth gwrs. O ganlyniad cefais fy hel i’r gwely heb swper. Ond, fel y roedd hi’n digwydd bod, roedd fy modryb Sally o Lundain wedi dod i aros efo ni ar wyliau, a darbwyllodd fy mam nad oeddwn ond hogyn bach heb glem faint o’r gloch oedd hi ar noson  mor braf, ac mi ges bardwn o fath, a rhywbeth bach i fwyta  wedi’r cwbl - ar wahân i’r eirin! 

Peth amser yn ddiweddarach, cofiaf fynd am sgowt efo rhai o’r hogiau un prynhawn braf ac anelu ein llwybr am Gelli Wiog a Rhoslyn ond y tro hwnnw penderfynasom alw heibio Llwyn Ithel, y byngalo a godwyd gan Cadwaladr Roberts, Buarth Melyn gerllaw yr hen waith mein a Glanrafonddu, er mwyn chwilio am nythod neu rywbeth.

Llwyn Ithel. Llun o gasgliad Steffan.
Beth bynnag, pan gyrhaeddsom y Llwyn Ithel, clywyd lleisiau, a dyma ni ar ein boliau fel yr Indiaid Cochion yn y ffilmiau cowboys i sbïo pwy oedd yno, ac yn wir ichi, pwy bynnag oedd y bobl hyn, nid oedd gan yr un ohonynt gerpyn amdano. Roeddynt yn rhedeg o gylch y lle yn hollol noeth, ac wrth gwrs, i ni’r hogiau roedd y sefyllfa yn un hynod ddigri a chwerthin am eu pennau a wnaesom. Beth bynnag, y mae’n rhaid eu bod wedi ein clywed a bloeddiwyd arnom i oleuo oddi yno, neu o leiaf, dyna  a gredasom a ddywedwyd yn yr iaith fain.

Deuthum i wybod rhai blynyddoedd yn ddiweddarach bod yr arlunydd Augustus John wedi bod  yn aros yn Llwyn Ithel yn nechrau’r ugeinfed ganrif ac y mae’n debyg iawn bod y lle yn atyniad i griwiau Bohemaidd eu natur.
----------------------------------------

Ymddangosodd yn rhifyn Tachwedd 2017. 
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde. (Rhaid dewis 'web view' os yn darllen ar y ffôn.)


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon