21.12.17

Rhod y Rhigymwr -Yn wresog rhoddwn groeso

Llai na blwyddyn i fynd ... a bydd Cerdd Dant yn dod yn ôl at ei wreiddiau. Gwnaeth tre’r Blaenau a’r pentrefi o’i chwmpas gymaint i adfywio’r hen grefft yn ystod hanner cynta’r ugeinfed ganrif, ac onid gwych o beth felly ydy gweld yr Ŵyl Cerdd Dant Cenedlaethol (a gychwynnodd union 70 o flynyddoedd i eleni) yn dod atom ... am y tro cyntaf un!

Hwyrach bod rhai ohonoch chi’r darllenwyr yn cofio iddi gael ei chynnal yn Neuadd Trawsfynydd union 60 mlynedd yn ôl ... ym 1957 - pan oedd yn ei babandod.

Meibion Prysor a Dylan Rowlands yn y Cyngerdd Cyhoeddi. [Llun Paul W]
Cafwyd Cyngerdd Cyhoeddi cofiadwy dros ben yn Ysgol y Moelwyn ganol Hydref. Hyfryd oedd cael gwrando ar ddoniau lleol yn cymryd rhan, a phwy na all anghofio cyfraniad arbennig plant ysgolion cynradd y dalgylch, dan arweiniad Wenna Francis Jones (wyres yr hen Delynor Dall o Feirion, Dafydd Francis, ‘Llys y Delyn’, Yr Adwy Goch, Rhiwbryfdir) yn cyflwyno medli o ganeuon gwerin. 
 

Mae blwyddyn brysur iawn o’n blaenau i barhau i godi arian er mwyn sicrhau rhoi croeso twymgalon i gerdd dantwyr a thelynorion, cantorion gwerin, llefarwyr a dawnswyr o Gymru benbaladr atom ar y 10fed o Dachwedd, 2018:

Yn wresog rhoddwn groeso
Yma i’r Ŵyl a geir ym mro
Gwythïen y lechen las,
A heddiw, mae mor addas
Datgan i ‘swyn y tannau’
Angerdd cerdd i’n bywiocáu.

O rwbel ei chwareli
Yn nyddiau heth, cododd hi
Lenorion, cerddorion ddaeth
Yn gewri drwy ragoriaeth;
Diwylliant diwydiant oedd
Yn rhodio hyd ei strydoedd.

I sain cordiau tannau tyn
Doi aelwyd ‘Llys y Delyn’
Yn fan trafod gosodiad,
A rhoddi i glws gerddi gwlad
Liaws o gyfalawon –
Rhai yn lleddf a rhai yn llon.

Do, heb os, daeth newid byd
I faeddu sawl celfyddyd,
Er y Gymraeg yma rydd
Lifeiriant i leferydd 
Ei chymdogol drigolion –
Un dre’ o fil yw’r dref hon!

Cyn mentro i lawr ar yr 11eg o Dachwedd i Ŵyl Cerdd Dant 2017 yn Llandysul, i ganu’r ‘Cywydd Croeso’ uchod ar gainc un arall o’r fro a roes fri i hen grefft y tannau ... y delynores Mona Meirion - ‘Morannedd’ - bu Meibion Prysor yn cymryd rhan mewn gwasanaeth arbennig ... ‘Gwasanaeth y Cofio’ ym Moreia, Capel y Fro, Trawsfynydd.
Rhan fydd o weithgareddau a drefnwyd yn y Traws ym mlwyddyn Canmlwyddiant Hedd Wyn. 

Cyflwynwyd trosiad o gerdd ingol y bardd John McCrae (1872-1918) ... 
‘In Flanders Fields the poppies blow. Between the crosses, row on row ...’

Yng nghaeau Fflandrys yn y tes
Rhwng croesau ceir, yn rhes ar res
Babïau coch; ac uwch ein pen
Y cân ehedydd yn y nen,
Nas clywn yn sŵn bwledi pres.

Y Meirwon ’ym. Does fawr ers pryd
Y gwelsom haul yn g’leuo’r byd,
Fe’n carwyd ni, r’ym fudion mwy 
Yn Fflandrys draw.

Ein ffrae â’r gelyn cymrwch chi:
 llaw ffaeledig taflwn ni
Y ffagl; fe’i cewch i’w dal yn hir.
Os siomi wnewch y meirw ar dir
Y pabi coch, ni chysgwn ni 
Yn Fflandrys draw.

-------------------------------


Rhan o erthygl Iwan Morgan a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2017.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde. (Rhaid dewis 'web view' os ydych yn darllen ar eich ffôn.)


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon