31.12.17

Bwrw Golwg -Côr Plant Charters Towers

Cyfres achlysurol yn edrych ‘nôl ar rai o gymeriadau a sefydliadau hanesyddol ein bro. Y tro hwn, mae W.Arvon Roberts yn troi ei sylw at Awstralia.

I’r Methodistiaid Calfinaidd y perthyn y fraint o sefydlu’r achos Cymraeg cyntaf yn nhalaith Queensland, Awstralia, a hynny ddechrau Awst 1868, mewn lle o’r enw Gympie, gan milltir i’r gogledd o Brisbane. Darganfuwyd aur yno'r flwyddyn gynt, ac erbyn mis Mawrth 1868 daeth nifer sylweddol o Gymry yno o Victoria a Seland Newydd.


Yn y llun dangosir Côr Plant Cymry Charters Towers, Gogledd Queensland, canolfan aur cyfoethog iawn gan milltir i’r gogledd orllewin o Gympie.

Yn y flwyddyn 1875 y clywn am Charters Towers gyntaf.  Y pryd hynny ychydig iawn o Gymry oedd yno - rhwng pymtheg ac ugain. Nid oedd yno, ychwaith, ddim manteision crefyddol nac unrhyw le o addoliad o fath yn y byd. Yn anffodus, bratiog iawn yw’r hanes sydd ar gael am eglwys Annibynwyr Charters Towers, ond yr oedd y Congregational Year Book yn ei henwi fel eglwys Gymraeg hyd at tua’r flwyddyn 1916, gan nodi W.O. Lewis (Lindisfarne, Tasmania yn ddiweddarach) fel gweinidog yno yn 1910 a Morris Griffith fel ei olynydd o 1913 hyd 1916. Pan dynnwyd y llun yn 1901 yr oedd y côr yn cyfarfod yn yr Eglwys Unedig Gymraeg.  Yr oedd yno Ysgol Sul hynod o lewyrchus yn nechrau’r ugeinfed ganrif, a gwnaeth aelodau’r cor eu rhan yn ganmoladwy iawn ynddi, ynghyd a’r rhelyw o’r cyfarfodydd a gynhaliwyd yn y capel.

Yn 1901 yr oedd poblogaeth Charters Towers tua 25 mil, a cymaint oedd sêl y Cymry fel eu bod yn cynnal eisteddfod flynyddol yno ers 1889.  Yn 1899 enillodd y côr plant ddwy brif wobr yn yr Eisteddfod. Brodor o Fethesda, Arfon, yw’r gŵr barfog a welir yn eistedd yng nghanol y llun, sef yr arweinydd, Thomas Griffith, mab William Griffith, Pork Shop.  Bu Thos. Griffith yn nyddiau ei blentyndod yn aelod o gôr yng Nghapel Bethesda yng nghyfnod Alawydd ac Asaph.  Symudodd o’i ardal enedigol i fyw ac i weithio i Flaenau Ffestiniog (tybed mai Thomas Griffith, Casson Terrace, ydoedd? Codwyd ef yn flaenor yn Tabernacl M.C. yn 1892).  Cafodd y Terrace ei enwi ar ôl George Casson, Ysw a’i Gwmni, Blaenddôl.

Yn ystod ei gyfnod yn Ffestiniog bu’n egnïol iawn gyda bywyd cerddorol y capel ac oddi allan. Ymfudodd oddi yno i Awstralia, gwlad yr aur pryd hynny. Ni fu Thomas Griffith yn hir yn y wlad bellennig honno cyn iddo ymafael o ddifrif ym mhlant y Cymry, a’u dysgu i ganu.  Bu ganddo gôr o blant o naill genhedlaeth i’r llall, y rhan fwyaf ohonynt yn ddisgynyddion i hen breswylwyr Meirion ac Arfon, Ffestiniog, Nantlle, Bethesda a Llanberis.

Brodor o Ffestiniog hefyd oedd John Owen. Bu’n Drysorydd Capel Cymraeg Bakery Hill yn Ballarat, Victoria.  Agorwyd y capel hwnnw ym mis Mai 1855. Costiodd £182, a thalwyd peth o’r draul gan  J. Owen ei hun.  Erbyn y ganrif ddilynol yr oedd yna Gymry Cymraeg da yng Nghapel Cymraeg Sidney, yn arbennig yng nghyfnod y Parch Ifor Rowlands, sef o 1957 i 1960, rhai fel Ifor Jones ac Edward Thomas, y ddau o Flaenau Ffestiniog, y naill wedi bod yno ers 50 mlynedd a’r llall ers 40 mlynedd.
W. Arvon Roberts
----------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2017.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
(Rhaid defnyddio 'web view' ar ffonau symudol).


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon