13.9.23

Amen yw’r hydref mwynaf

Colofn Olygyddol Rhifyn Medi 2023

Aeth y plant yn ôl i’r ysgol a daeth yr haul yn ôl allan; croeso i rifyn Medi!

Daw’r bennawd o englyn Gwilym Cadle i dymor yr hydref, ond ail hanner y gwpled ydi ‘Ar ddiwedd aur ddyddiau haf’. Chawsom ni ddim llawer o ddyddiau aur yng Ngorffennaf ac Awst eleni naddo! Felly ar ôl haf digon bethma mae’n dda cael ychydig o ddyddiau braf ym mis Medi eto... er fod yr haul wedi cyrraedd pan oeddwn yn sownd wrth y cyfrifiadur trwy’r penwythnos yn golygu Llafar Bro! Er gwaethaf hynny, bu’n fraint dod a’r rhifyn hwn at ei gilydd, a dwi’n mawr obeithio y cewch chi fwynhad o’i ddarllen.

Mi welwch o’r Calendr Bro bod llawer iawn o weithgareddau ar y gweill yn ein hardal yr hydref yma eto. Os na welwch chi rywbeth gwerth chweil i’w wneud yn lleol dros yr wythnosau nesa’, mae’n rhaid eich bod yn eitha’ anodd eich plesio! Mae rhai yn ddilornus o Fro Stiniog, ond argian, mae’n cymuned ni dal yn fwrlwm o weithgaredd a diwylliant. ‘Da ni yma o hyd! 

Dwi wedi camarwain braidd am fod yn ‘sownd’ yn y tŷ; mi ges i ddianc am ddwyawr i Gae Dolawel i wylio gêm gyntaf Bro Ffestiniog ar ôl ennill dyrchafiad i’r ail adran. Er fod y canlyniad yn siomedig, roedd yn hyfryd cael gwerthfawrogi’r ymroddiad gan griw y clwb rygbi: ar y cae a thu ôl i’r llenni hefyd. Llongyfarchiadau gyda llaw i Glyn Daniels, cynghorydd gweithgar, swyddog hysbysebion Llafar Bro, a chyn-gapten, ar gael ei ethol yn Gadeirydd y clwb. 

Braf iawn oedd cael rhoi’r byd yn ei le efo cyfeillion yn yr haul tra’n pwyso a mesur symudiadau’r gêm, a mwynhau peint wedyn. 

 

Cae Clyd. Llun- Paul W

Wrth wylio’r rygbi, roeddwn yn dilyn hynt y tîm pêl-droed ar Gae Clyd, ben arall y dre’ -a hynny trwy’r Ap gwych ‘Cymru Football’.  Mae CPD Amaturiaid y Blaenau yn griw brwdfrydig iawn hefyd, ac yn haeddu ein cefnogaeth. Wrth gerdded adra, braf oedd gweld bod criw da wedi ymgynull yn y Parc i fwynhau’r bowlio cystadleuol a’r hwyl yn fanno. Gyda’r nos mi ges i wledd Mecsicanaidd a noson hwyliog yn Cell. Peidiwch gadael i neb ddweud nad oes dim byd yn digwydd yma!

Cofiwch am fy apêl yn rhifyn yr haf, mae wir angen lleisiau newydd i sgwennu am bethau sy’n mynd ymlaen yn ein bro. Peidiwch a phoeni am ramadeg a sillafu: bydd ein golygyddion hawddgar yn hapus iawn i dwtio erthyglau lle mae angen; ac i gynghori os hoffech sgwrs cyn danfon. Byddai denu pobl newydd i sgwennu yn rhoi mwy o sicrwydd i ni bod dyfodol i Llafar Bro

Cofiwch ddod i’n cyfarfod blynyddol ar nos Iau Medi 21ain yn Y Pengwern lle byddwn yn trafod y dyfodol... felly os ydi Llafar Bro yn bwysig i chi, galwch i mewn!

Dyna ddiwedd fy stem fel golygydd am eleni, Tecwyn fydd wrth y llyw ar gyfer y ddau rifyn nesa’. Diolch i bawb am hwyluso’r gwaith. Dwi’n dod i ddiwedd pum mlynedd yn y gadair hefyd, fy ail gyfnod fel cadeirydd papur bro gorau’r byd! Er gwaethaf heriau amlwg fel covid, y cynnydd mewn pris argraffu a’r gostyngiad yn faint sy’n prynu papurau o unrhyw fath, credaf iddo fod yn gyfnod digon llwyddianus. 

Mae Llafar Bro yn ymddangos mewn lliw llawn bellach; wedi croesi’r trothwy o 500 rhifyn; a’n presenoldeb yn y byd digidol yn gadarn. Llwyddwyd i gyhoeddi ar-lein trwy’r cyfnodau clo, ac mewn ymdrech ryfeddol efo partneriaid cymunedol a llu o wirfoddolwyr, rhoddwyd copi o’r pum-canfed rhifyn am ddim i bob cartref yn y dalgylch! Byddwn yn dathlu penblwydd yn hanner cant oed mewn dwy flynedd; dyma obeithio y bydd Llafar Bro yma o hyd.
Hwyl am y tro, a daliwch i gredu.        Paul

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon